Mae llwyddiant Sinn Féin yng Ngogledd Iwerddon yn golygu y gallai refferendwm ar uno Iwerddon fod yn bosib yn y tymor canolig yn hytrach na’r tymor hir nawr, yn ôl un arbenigwr fu’n siarad â golwg360.

Yn ôl Dr Thomas Leahy, uwch-ddarlithydd Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, mae buddugoliaeth etholiadol hanesyddol y blaid yn golygu cam ymlaen at refferendwm.

Fodd bynnag, dydy hynny ddim yn golygu bod modd disgwyl pleidlais yn fuan, meddai’r arbenigwr ar wleidyddiaeth Gogledd Iwerddon.

Sinn Féin yw’r blaid fwyaf yn Stormont bellach, ac mae disgwyl i Michelle O’Neill, arweinydd y blaid, ddod yn brif weinidog cenedlaethol gyntaf Gogledd Iwerddon yn sgil llwyddiant ei phlaid yn yr etholiad ddydd Iau (Mai 5).

Fel y blaid â’r nifer uchaf ond un o bleidleisiau, mae disgwyl i’r DUP ethol Dirprwy Brif Weinidog ond ar hyn o bryd mae’r blaid yn gwrthod gwneud hynny nes bod eu pryderon ynghylch protocol Gogledd Iwerddon yn cael eu datrys.

Mae system Gogledd Iwerddon yn golygu bod rhaid i’r pleidiau mwyaf unoliaethol a chenedlaethol rannu swyddi’r Prif Weinidog a’r Dirprwy Brif Weinidog.

Uno Iwerddon?

Yn ôl Dr Thomas Leahy, mae’r canlyniad i Sinn Féin yn “un eithaf seismig”, a bydd yn gam ymlaen i weriniaethwyr gyrraedd eu hamcanion.

Yn y tymor byr, un o’r prif amcanion yw cynnal statws arbennig Gogledd Iwerddon yn yr Undeb Ewropeaidd – rhywbeth nad yw’r DUP yn hapus ag e gan eu bod nhw’n dweud bod yna ffin economaidd yn eu gwahanu nhw rhag y Deyrnas Unedig.

Yn y tymor hir, un o amcanion Sinn Féin yw trio symud ymlaen â chynlluniau i gynnal refferendwm ar ail-uno’r chwe sir â gweddill Iwerddon.

“Pan rydyn ni’n edrych ar nifer o bolau piniwn, mae hi’n ymddangos, ar ôl Brexit yn enwedig, bod pobol fyddai’n pleidleisio yn y gogledd o blaid uno Iwerddon wedi cynyddu ond byddai’r bleidlais dros barhau yn y Deyrnas Unedig dal yn ennill ar hyn o bryd,” meddai Dr Thomas Leahy wrth golwg360.

“Ond mae hi’n bwysig bod Sinn Féin wedi dod i’r brig yn y bleidlais yng Ngogledd Iwerddon oherwydd maen nhw’n gallu defnyddio’r canlyniad hwnnw i roi pwysau ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i baratoi ar gyfer y refferendwm – gallai hynny fod yn y tymor canolig, er enghraifft.

“Y pwynt arall yw bod Sinn Féin yn gwneud yn dda iawn [yng Ngweriniaeth Iwerddon]. Fe wnaethon nhw’n dda iawn yn yr etholiad diwethaf yn 2020, ac mae’n rhaid cael un arall erbyn 2025. Mae pob pôl piniwn ar hyn o bryd yn dangos bod Sinn Féin yn amlwg ar y blaen yng Ngweriniaeth Iwerddon.

“Mae hynny’n bwysig oherwydd os ydych chi’n cael refferendwm ar ailuno mae’n rhaid iddo gael ei gynnal ar yr un diwrnod, ar wahân ond ar yr un pryd, yng Ngogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon.

“Gallwch weld sefyllfa, o bosib, erbyn i ni gyrraedd tua 2025, lle bydd Sinn Féin mewn grym ym Melffast a Sinn Féin mewn grym yn Nulyn a fyddan nhw’n gallu defnyddio hynny i roi pwysau ar Lywodraeth Prydain.

“Dw i’n meddwl bod demograffeg yn bwysig yn fan hyn hefyd, mae rhywfaint o ymchwil yn awgrymu bod yna fwy o blant o gefndir cenedlaetholgar nag unoliaethol mewn ysgolion cynradd yng Ngogledd Iwerddon.

“Yn gyffredinol yng Ngogledd Iwerddon, er y gallai cynnydd yr Alliance Party awgrymu bod hyn yn newid ychydig, os ydy pobol yn pleidleisio Sinn Féin wnawn nhw ddim pleidleisio DUP fel eu hail ddewis, yn rhannol oherwydd y gwrthdaro yn hanes y ddwy blaid.

“Os yw hynny’n trosi o ysgolion cynradd i’r boblogaeth yn y tymor canolig…”

Mwy na symbol?

Er bod teitlau Prif Weinidog a Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon yn awgrymu fel arall, mae gan y ddwy swydd yr un grym.

Mae rhai wedi awgrymu mai rhywbeth symbolaidd yw dyrchafiad Michelle O’Neill o fod yn Ddirprwy i fod yn Brif Weinidog, ond mae ymateb y DUP yn awgrymu nad ydyn nhw’n gweld pethau felly, yn ôl Dr Thomas Leahy.

“Y prif beth iddyn nhw yw bod Sinn Féin wedi dod i’r brig, ac mae hynny wedi golygu bod Sinn Féin yn ennill seddi a’r DUP yn colli seddi,” meddai.

“I unoliaethwyr, dw i’n meddwl bod yna gyfuniad o bethau yn eu pryderu nhw.”

Cyfeiria at y drefn wedi Brexit a’r ddadl dros Brotocol Gogledd Iwerddon, y dirywiad yn nemograffeg unoliaethwyr dros y ddegawd ddiwethaf yno, a llwyddiant Sinn Féin yn Nulyn.

“Mae hwn yn set-back arall i achos unoliaeth, y ffaith bod yna blaid genedlaethol Wyddelig yn arwain ym Melffast.

“Ar y wyneb, dyw e ddim yn ymddangos yn eithriadol o arwyddocaol gan fod gan y Prif Weinidog a’r Dirprwy Brif Weinidog yr un grym.

“Ond mae e pan rydych chi’n ychwanegu’r holl ffactorau eraill.”

Cefnogaeth i’r tir canol

Cynyddodd yr Alliance Party, plaid tir canol, nifer eu seddi yn sylweddol yn yr etholiad, o wyth yn 2017 i 17.

Fel y drydedd blaid fwyaf, maen nhw am fod yn “eithaf dylanwadol” o ran gwneud penderfyniad, ym marn Thomas Leahy.

“Er enghraifft maen nhw’n cytuno efo statws arbennig Gogledd Iwerddon yn yr Undeb Ewropeaidd,” meddai.

“Peth diddorol sy’n dod o’r bleidlais yw pan oedd pobol yn rhoi eu hail, trydydd, pedwerydd ddewis wrth bleidleisio… y pleidiau wnaeth bleidleisio Alliance yn gyntaf, mae’n ymddangos, oedd pleidiau cenedlaethol – Sinn Féin, SDLP.

“Pam bod hyn yn bwysig? Yn y tymor hir, mae’n dangos bod tua 15%-20% o’r boblogaeth yn dechrau pleidleisio’r Alliance Party, sydd ddim yn unoliaethwyr nag yn genedlaetholwyr, nhw yw’r rhai sy’n mynd i fod yn dylanwadu ar ganlyniad refferendwm i ailuno Iwerddon.

“Maen nhw yn y tir canol, pobol all gael eu perswadio gan ddadleuon economaidd, cymdeithasol ac ati.”

Gallai’r tueddiad i bleidleisio dros Alliance fel y dewis cyntaf barhau, meddai.

Mae’n ymddangos bod Alliance wedi cymryd pleidleisiau oddi wrth y Social and Democratic Labour Party – y brif blaid genedlaethol nes i Sinn Féin gymryd eu lle tua dechrau’r ganrif – a’r Ulster Unionist Party, sef y brif blaid unoliaethol tan dechrau’r 2000au pan gymrodd y DUP eu lle.

“Be dw i’n ei ddweud yw ei bod hi’n ymddangos bod pobol fyddai’n arfer cael eu gweld fel ‘moderate unionism and nationalism’, maen nhw’n ymddangos i fod wedi colli ffydd yn yr SDLP a’r UUP ac maen nhw’n mynd at Alliance yn lle.

“Mae hynny’n ddiddorol achos maen nhw’n mynd at blaid sy’n siarad yn bennaf am faterion yng Ngogledd Iwerddon sydd angen eu sortio yn y tymor byr – pethau tebyg i’r hyn sydd gennym ni yma, i raddau, argyfwng costau byw, trafodaethau am y gwasanaeth iechyd.

“Ond, y peth diddorol yw’r tymor hir. Dyw e ddim yn golygu y bydd y pleidleisiwyr hyn yn aros efo Alliance, er enghraifft ar refferendwm ailuno – ond eto dydyn ni ddim yn gwybod be fydd Alliance yn ei ddweud am hynny.

“Ond mae’n ymddangos y bysa nhw’n perswadio pobol ar sail dadleuon economaidd a chymdeithasol, dydyn nhw ddim am ei wneud e achos eu bod nhw’n unoliaethwyr neu’n genedlaetholwyr hirdymor.

“O bosib, fedra nhw gynnal neu ddenu mwy o gefnogaeth. Dydy’r pleidiau y mae hi’n ymddangos y maen nhw wedi cipio cefnogaeth ganddyn nhw, yr SDLP a’r UUP, ddim yn apelio a dydyn nhw heb apelio ers amser hir nawr.

“Dw i’n gallu gweld nhw’n cynnal [y gefnogaeth honno].

“A fedra nhw fwyta mewn i bleidlais DUP neu Sinn Féin? Dw i ddim mor sicr.

“Mae pobol sy’n pleidleisio dros y pleidiau hynny, fyswn i’n dychmygu, â barn lot cryfach dros genedlaetholdeb ac unoliaeth a’r hyn mae Sinn Féin a’r DUP yn ei gynrychioli.”