Mae ymgyrchwyr wedi croesawu cynlluniau Prif Weinidog Cymru ac Arweinydd Plaid Cymru i ddiwygio’r Senedd.
Yn ôl Jess Blair, cyfarwyddwr Cymdeithasol Ddiwygio Etholiadol Cymru, mae’r awydd gan y ddau i gynyddu maint y Senedd o 60 i 96 aelod yn un “hanesyddol”.
Mae’r cynigion yn cynnwys cael cwotâu rhywedd statudol, a byddai’r cyhoeddiad yn creu Senedd sydd â “chynrychioladwyedd a thegwch wrth ei gwraidd”, meddai.
Dylai’r newidiadau ddod i rym erbyn etholiad nesaf y Senedd yn 2026, yn ôl Mark Drakeford ac Adam Price.
“Mae cael Senedd gref yn angenrheidiol er mwyn mynd i’r afael â’r materion sy’n effeithio’n bennaf ar ein cymunedau – mae penderfyniadau hollbwysig sy’n effeithio ar fywydau pob dydd pobol yng Nghymru yn cael eu gwneud yma, nid yn San Steffan a bydd y cynlluniau hyn yn sicrhau bod y Senedd yn gallu darparu canlyniadau gwell i bobol Cymru,” meddai Jess Blair.
“Nid yn unig y bydd y cynlluniau hyn yn golygu Senedd fwy, well sy’n adlewyrchu pobol Cymru – mae’n ffordd allan o wrthod y math o wleidyddiaeth ‘yr enillydd yn cymryd y cyfan’ rydyn ni wedi dod i arfer ag e yn San Steffan – ymrwymiad parhaus i system bleidleisio gyfrannol sy’n sicrhau bod seddi’n cyd-fynd â phleidleisiau.
“Mae Cymru wedi bod yn gosod y cyflymder ar gyfer arloesedd democrataidd ers tro – mae’r cyhoeddiad heddiw yn dangos eto y gall Cymru arwain y ffordd a chreu senedd sy’n addas ar gyfer y 21ain ganrif.”
Ychwanega Evelyn James, ymgyrchydd gyda Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, fod hyn yn golygu mai Cymru fydd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i ddeddfu er mwyn sicrhau bod yna gydraddoldeb rhwng menywod a dynion sydd mewn grym.
“Mae hyn yn addas iawn – ni oedd y wlad gyntaf i gael cydbwysedd rhywedd yn ein deddfwriaeth yn 2003 a nawr ddylen ni fod ar y ffordd i sicrhau bod gennym ni gydbwysedd rhywedd ar ôl yr etholiadau yn 2026,” meddai.
‘Adlewyrchu holl leisiau Cymru’
Mae Plaid Cymru wedi croesawu’r argymhellion hefyd, gan ddweud y bydd y Senedd yn gryfach yn ei sgil.
Byddai’r argymhellion hyn yn golygu bod Aelodau’r Senedd yn cael eu hethol drwy system gwbl gyfrannol, gan olygu mai Cymru fyddai’r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i ddiddymu’r system Cyntaf i’r Felin ar lefel seneddol.
“Mae’n paratoi’r ffordd ar gyfer Senedd gryfach gyda mwy o gapasiti i wneud gwahaniaeth i fywydau pobol ledled ein gwlad gan roi hwb i’n democratiaeth – a’i wneud yn decach ac yn fwy cynrychioliadol,” meddai Rhys ab Owen, llefarydd Grŵp Senedd Plaid Cymru ar y Cyfansoddiad.
“Nid mater o fod eisiau rhagor o wleidyddion yw hwn. Mae’n fater o sicrhau fod ein Senedd ni yn addas i gynrychioli ein pobl ac adlewyrchu holl leisiau a dyheadau cymdeithas Cymru.”
“Ddim yn mynd ddigon pell’
Fodd bynnag, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn dweud nad yw’r diwygiadau arfaethedig yn mynd yn ddigon pell.
Maen nhw wedi beirniadu Plaid Cymru a Llafur am ddefnyddio ffiniau etholaethol San Steffan.
“Dydy’r datganiad ddim yn mynd yn ddigon pell i greu Senedd a democratiaeth sy’n addas i Gymru,” meddai’r arweinydd Jane Dodds.
“Ni fydd y map etholaethau arfaethedig yn golygu unrhyw beth i gymunedau, a byddwn ni dal yn sownd efo system bleidleisio sy’n methu â sicrhau bod pleidleisiau yn cyfateb i seddi.
“Mae hi’n ymddangos bod Plaid Cymru wedi troi eu cefnau ar eu hymrwymiad i system bleidlais sengl drosglwyddadwy.”
‘Tanseilio gwaith y pwyllgor’
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu’r bwriad i gynyddu maint y Senedd ers y dechrau, a heddiw mae eu harweinydd, Andrew RT Davies, wedi ailadrodd hynny gan ddweud bod angen mwy o athrawon, meddygon, deintyddion, a nyrsys ar Gymru, ac nid gwleidyddion.
“Dylai Gweinidogion fod yn edrych ar wario’r arian ar fynd i’r afael â’r materion mawr sy’n wynebu Cymru, nid gwastraffu arian ac amser yn ystyried cynyddu nifer aelodau’r Senedd,” meddai.
“Nawr yw’r amser i drwsio ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol, sbarduno’r economi, a hybu ein system addysg, ond yn anffodus mae blaenoriaethau Llafur a Phlaid o chwith.
“Er ein bod ni wedi gwrthwynebu cael mwy o wleidyddion yn gyson, rydyn ni’n cydnabod bod gan Lafur a Phlaid Cymru ddigon o bleidleisiau i fwrw ymlaen a dyna pam ein bod ni wedi ymgysylltu’n adeiladol â’r Pwyllgor Diwygio’r Senedd – ond yn anffodus mae hi’n ymddangos bod y ddwy blaid wedi tanseilio gwaith y pwyllgor gyda’r cyhoeddiad heddiw.”
Ychwanega Darren Millar, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar y Cyfansoddiad, fod y blaid wedi derbyn bod yna fandad er newid a’u bod nhw wedi chwarae rhan adeiladol yn y Pwyllgor hyd yn hyn.
“Mae’r cyhoeddiad heddiw yn awgrymu bod arweinwyr Llafur a Phlaid Cymru eisiau dweud wrth y pwyllgor beth i’w wneud a gorchymyn eu canlyniadau yn hytrach na chaniatáu i’r pwyllgor gwblhau eu gwaith annibynnol,” meddai.
“Fe wnaethon ni ymuno â’r broses hon ag ewyllys da, ond mae’n ymddangos ein bod ni wedi cam-ymddiried.”