Mae Liz Saville Roberts yn dweud nad oes gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddim byd i’w gynnig i Gymru, ar ôl i Araith y Frenhines fethu â sôn o gwbl am y wlad.

Mae Araith y Frenhines, a gafodd ei thraddodi gan Dywysog Charles yn ei habsenoldeb, yn amlinellu rhaglen y llywodraeth ar gyfer y cyfnod seneddol presennol.

Roedd yr Araith yn amlinellu 38 Mesur, ond yn ôl arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, roedd hi’n “gyfres siomedig o ystrydebau gan lywodraeth sydd wedi’i gwahanu’n llwyr oddi wrth realiti”.

O blith y 38 Mesur, roedd saith yn ymwneud â dileu rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd yn sgil Brexit.

Ymhlith y mesurau, roedd Mesur Hawliau i ddisodli’r Ddeddf Hawliau Dynol, mesurau rhyddid Brexit sy’n diddymu cannoedd o ddarnau o ddeddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd sydd wedi’u hymgorffori yng nghyfraith y Deyrnas Unedig, Mesur Ysgolion i Loegr i gyfyngu ar driwantiaeth, diwygio’r system ariannu a chynyddu pwerau cyrff arolygu addysg, Mesur y Cyfryngau sy’n galluogi Channel 4 i gael ei phreifateiddio, Mesur Codi’r Gwastad ac Adfywio gan roi’r grym i arweinwyr lleol adfywio’r stryd fawr, Mesur y Drefn Gyhoeddus i atal protestiadau torfol, Mesur (Drafft) Iechyd Meddwl i ddiwygio’r pwerau presennol, Mesur Ynni sy’n addo codi wyth gorsaf niwclear i gynyddu ynni’r gwynt a solar, a Mesur Trafnidiaeth i “symleiddio’r rheilffyrdd” a sicrhau gwasanaethau mwy dibynadwy.

‘Dim byd i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw’

“Roedd Araith y Frenhines yn gyfres siomedig o ystrydebau gan lywodraeth sydd wedi’i gwahanu’n llwyr oddi wrth realiti”, yn ôl Liz Saville Roberts.

“Fydd y rhaglen ddeddfu hon yn gwneud dim byd i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw sy’n gwaethygu, ac ond yn cynyddu’r rhwyg drwy ddyfalbarhau ag agenda sy’n gynyddol awdurdodol.

“Ar ôl canlyniad etholiad niweidiol i’r Ceidwadwyr, dylai’r Prif Weinidog fod wedi cymryd cam yn ôl a chydnabod fod pobol Cymru wedi colli ffydd yn llwyr yn ei lywodraeth ac yn gwrthod ei agenda ymrannol yn llwyr.

“Yr hyn oedd ei angen yw pecyn brys i ddarparu cefnogaeth y mae mawr ei hangen ar aelwydydd a busnesau bach, a chyflymu’n trawsnewidiad gwyrdd.

“Doedd dim un sôn am Gymru yn yr araith heddiw – sy’n brawf unwaith eto fod gan y llywodraeth flinedig hon ddim byd i’w gynnig i bobol Cymru.

“Mae’n wrthgyferbyniad llwyr â’r cynlluniau sydd wedi’u cyhoeddi gan Blaid Cymru a Llywodraeth Cymru heddiw i gredu senedd gryfach, fwy cytbwys a mwy cynrychioladol i Gymru.

“Mae’n gynyddol amlwg y dylen ni edrych tuag at ein Senedd, ac nid at San Steffan, am atebion.”

Yr iaith Wyddeleg

Er gwaetha’r diffyg sôn am Gymru, cafodd cynlluniau eu cyhoeddi i ddeddfu i gefnogi’r iaith Wyddeleg.

Roedd disgwyl i ddeddfwriaeth gael ei chyhoeddi gan Swyddfa Gogledd Iwerddon cyn etholiad Stormont yr wythnos ddiwethaf, ar ôl i’r prif bleidiau fethu â dod i gytundeb ar ddeddfwriaeth ddiwylliannol ac ieithyddol fel rhan o’r cytundeb Degawd Newydd, Dull Newydd.

Mae’r cynlluniau sydd wedi’u cyhoeddi heddiw’n cynwys Swyddfa Mynegiant o Hunaniaeth a Diwylliant i hyrwyddo parch at amrywiaeth, a chreu Comisiynydd Iaith Wyddeleg a chomisiynydd i ddatblygu iaith, celfyddydau a llenyddiaeth Sgots Ulster.

Yn ôl y ddeddfwriaeth, mae gan Adran Addysg Gogledd Iwerddon ddyletswydd i annog a hwyluso’r defnydd o Sgots Ulster, a bydd gan yr Ysgrifennydd Gwladol yr hawl i gamu i mewn i sicrhau bod y Pwyllgor Gwaith yn cadw at eu hymrwymiad.

Cyhoeddi Araith amgen y Frenhines

Plaid Cymru’n cyhoeddi cyfres o gamau sydd angen eu cymryd i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw ac i adfer ffydd mewn gwleidyddion