Ar drothwy Araith y Frenhines, mae Plaid Cymru wedi cyhoeddu eu fersiwn amgen o’r hyn y bydden nhw’n hoffi ei glywed yn y cyhoeddiad.
Maen nhw wedi cyhoeddi cyfres o gamau y dylid eu cymryd, medden nhw, i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw ac er mwyn adfer ffydd yn y system wleidyddol sydd wedi’i thorri “gan gelwyddau Boris Johnson”, ac mewn gwleidyddion yn dilyn sawl sgandal yn San Steffan.
Mae Araith y Frenhines yn gyfle i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyflwyno eu rhaglen lywodraethu, ac mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, yn dweud y byddai’r llywodraeth yn “ffôl” pe baen nhw’n cyflwyno’u “hagenda polisi ymrannol” yn dilyn perfformiad digon siomedig yn yr etholiadau lleol.
Fe wnaeth y Ceidwadwyr fethu ag ennill yr un sedd mewn pedwar Cyngor sydd bellach dan reolaeth Plaid Cymru – yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn, ac fe gollon nhw 43% o’r seddi roedden nhw’n eu hamddiffyn ledled y wlad.
Mae Plaid Cymru hefyd yn galw ar y Canghellor Rishi Sunak i gyflwyno Cyllideb frys yr wythnos hon i gefnogi aelwydydd a busnesau bach.
Mae Plaid Cymru am weld chwe Mesur yn cael eu cyflwyno yn ystod y cyfnod seneddol presennol, sef:
- Mesur Nawdd Cymdeithasol (Datganoli i Gymru) Mesur i ddatganoli’r system fudd-daliadau i’r Senedd, gan roi i Lywodraeth Cymru y pŵer i greu budd-daliadau newydd ac ychwanegu at fudd-daliadau sydd eisoes wedi eu cadw’n ôl. Byddai hyn yn caniatáu i’r Senedd greu taliadau megis y Taliad Plant Cymreig, tebyg i’r hyn sydd yn bod yn yr Alban, i liniaru pwysau ar aelwydydd sy’n cael trafferth gyda chostau byw.
- Mesur Trydan Lleol – Gyda chostau ynni yn codi i’r entrychion, byddai’r Mesur Trydan Lleol yn sicrhau bod costau sefydlu a rhedeg gwerthi ynni adnewyddol a gynhyrchwyd yn lleol yn gymesur â graddfa’r busnes.#
- Mesur Stad y Goron (Datganoli i Gymru) -Mesur i ddatganoli rheolaeth Stad y Goron a’i asedau yng Nghymru i Lywodraeth Cymru. Byddai hyn yr un fath â’r sefyllfa yn yr Alban, a ganiatawyd gan San Steffan yn 2016, a byddai’n dod â’n hadnoddau naturiol dan reolaeth Gymreig, ac yn caniatáu i bobl Cymru elwa’n economaidd o’r trosi i sero-net.
- Mesur Cronfa Ffyniant Gyffredin (Cymru) – Mesur fyddai’n mynnu bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn adrodd ar fanteision datganoli rheolaeth a gweinyddu arian a neilltuir i Gymru trwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin i Lywodraeth Cymru. Byddai hyn yn cywiro’r cyfrif-dwbl gan y Torïaid, yn galluogi defnyddio fformiwla seiliedig ar anghenion ac ymdrin â’r addewid a dorrwyd gan San Steffan i Gymru o “ddim ceiniog yn llai” na chyllid UE, gyda’r cynigion presennol yn golygu bod Cymru £772 miliwn yn waeth ei byd o ran cyllid strwythurol.
- Mesur Cynrychiolwyr Etholedig (Gwahardd Twyllo) – Mesur i adfer ffydd mewn system wleidyddol doredig trwy wahardd dweud celwydd mewn gwleidyddiaeth. Ers 15 mlynedd, bu Plaid Cymru yn galw am ddeddfwriaeth i wahardd gwleidyddion yn gyfreithiol rhag camarwain y cyhoedd yn fwriadol. Yn ôl Compassion in Politics, byddai 73% o’r rhai a gymerodd ran mewn arolwg yn cefnogi gweithredu cyfraith fyddai’n golygu fod gofyn i wleidyddion fyth ddweud celwydd yn fwriadol wrth y cyhoedd.
- Mesur Cyfiawnder (Datganoli i Gymru) -Mesur i ddatganoli pwerau dros gyfiawnder yng Nghymru i wrthdroi mesurau awdurdodus a osodwyd gan y Torïaid ers 2019. Bydd Plaid Cymru yn cyflwyno Mesur i ddatganoli cyfiawnder a phlismona i Gymru, fel sydd yn digwydd yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban, yn unol â’r Cytundeb Cydweithredu a’r argymhellion yn adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru yn 2019.
‘Ailfeddwl sylfaenol’
“Rhaid bod yr etholiadau lleol yr wythnos ddiwethaf wedi arwain at ailfeddwl sylfaenol gan y Ceidwadwyr yn San Steffan,” meddai Liz Saville Roberts.
“Maent wedi gwthio deddfwriaeth awdurdodus trwy’r Senedd ers ennill mwyafrif yn 2019, gan fynd ati i gamarwain y cyhoedd a thanseilio datganoli bob cyfle a gânt. Buasent yn wirion i fwrw ymlaen â’u hagenda polisi ymrannol yn y cyd-destun newydd hwn.
“Byddai Araith amgen y Frenhines Plaid Cymru yn helpu pobl trwy’r argyfwng costau byw, y mae San Steffan ers gormod o amser o lawer wedi caniatáu i redeg allan o reolaeth.
“O greu system fudd-daliadau ddatganoledig sy’n addas at y diben, i liniaru biliau trydan yn y tymor hir trwy sefydlu strategaeth ynni sy’n rhoi perchenogaeth leol wrth ei galon gan sicrhau bod “codi’r gwastad” yn gweithio i Gymru trwy ddatganoli rheolaeth y Gronfa Ffyniant Gyffredin, byddai cynigion Plaid Cymru yn helpu aelwydydd ledled Cymru sy’n cael pethau’n anodd.
“Mae Plaid Cymru hefyd yn galw ar i’r Canghellor gyflwyno Cyllideb frys yr wythnos hon i roi cefnogaeth y mae cymaint o’i angen i aelwydydd a busnesau bach.
“Byddai ein cynigion hefyd yn adfer ffydd mewn system wleidyddol a chwalwyd gan gelwyddau Boris Johnson.
“Ers 15 mlynedd, bu Plaid Cymru yn galw am fesur i wahardd dweud anwiredd mewn gwleidyddiaeth, sydd â chefnogaeth 73% o bobl a gymerodd ran mewn arolwg gan Compassion in Politics y mis diwethaf.
“Trwy fabwysiadu ein Mesur, gallai’r Torïaid brofi i’r pleidleiswyr eu bod wedi dysgu o’u perfformiad trychinebus yr wythnos ddiwethaf a cheisio adennill ymddiriedaeth.
“Rwy’n annog y Prif Weinidog i ymwneud yn adeiladol gyda’n cynigion yr wythnos hon.”