Mae aelodau o staff tîm cynhyrchu Pobol y Cwm yn wynebu diswyddiadau posib yn sgil ailstrwythuro, yn ôl undeb sy’n cynrychioli gweithwyr creadigol.
Dywedodd undeb Bectu wrth golwg360 eu bod nhw’n siomedig iawn gyda’r penderfyniad.
Cafodd y cyhoeddiad ei wneud yn sgil penderfyniad golygyddol S4C y llynedd i ddangos llai o benodau’r wythnos, yn ôl dealltwriaeth Bectu.
Ers mis Tachwedd y llynedd, mae tair pennod o Pobol y Cwm yn cael eu dangos yr wythnos a bydd y patrwm hwnnw’n parhau.
Cynllun cynhyrchwyr y rhaglen, BBC Studios, yw cyflogi staff llawrydd a’u defnyddio yn ôl y galw, yn hytrach na’u cyflogi’n barhaol.
‘Hynod siomedig’
Ond, mae yna bryderon ynghylch dichonoldeb y cynllun, yn ôl Carwyn Donovan, Swyddog Trafodaethau Bectu.
“Rydyn ni’n hynod siomedig gyda’r cyhoeddiad a byddwn ni’n gwneud popeth y gallwn ni i gefnogi ein haelodau drwy’r cyfnod anodd hwn a gweithio gyda’r cyflogwr i drio lleihau nifer y diswyddiadau ble bynnag fo hynny’n bosib,” meddai.
“Rydyn ni’n deall bod y cyhoeddiad wedi cael ei wneud yn sgil penderfyniad golygyddol S4C y llynedd i gwtogi penodau Pobol y Cwm.
“Yn 48 oed, Pobol y Cwm yw’r opera sebon sydd wedi bod ymlaen hiraf i gael ei chynhyrchu gan y BBC ac mae hi’n chwarae rhan hanfodol yn adlewyrchu cymdeithas fodern drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.
“Rydyn ni’n annog pobol sy’n rhannu ein siom gyda’r penderfyniad hwn i fynd â’u barn yn uniongyrchol at S4C.
“Mae gan Bectu bryderon am ddichonoldeb cynllun BBC Studios i griwio’r cynhyrchiad yn y ffordd hon.
“Bydd y cynhyrchiad yn ei chael hi’n anodd denu gweithwyr llawrydd medrus i’r swyddi ar y cyfraddau maen nhw’n eu talu ar y funud.
“Mae gan Gymru farchnad cynhyrchu teledu hynod gystadleuol ar y funud, ac mae BBC Studios yn bygwth colli’r dalent sydd wedi bod yn gyfrifol am lwyddiant parhaus y rhaglen.”
‘Rhan bwysig o’r amserlen’
Cafodd yr ailstrwythuro ei drafod mewn cyfarfod yr wythnos ddiwethaf, ac mae S4C wedi cadarnhau y bydd Pobol y Cwm yn parhau i fod yn rhan bwysig o amserlen y sianel.
“Mae Pobol y Cwm yn rhan greiddiol o arlwy S4C ac rydym yn falch fod y BBC am barhau i’w ddarparu ar y patrwm presennol,” meddai llefarydd ar ran S4C.
“Bydd yn parhau i redeg drwy’r flwyddyn (ag eithrio wythnosau’r Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol) ond ni fydd y cyfnod cynhyrchu’n rhedeg drwy’r flwyddyn.”
‘Model mwy hyblyg’
Dywedodd llefarydd ar ran BBC Studios bod y ffordd maen nhw’n cynhyrchu Pobol y Cwm yn newid.
“Rydym yn newid i fodel mwy hyblyg o gyflogi staff cynhyrchu, sy’n unol â nifer o gynyrchiadau eraill o fewn ein diwydiant.
“Rydym yn gwneud y newid hwn gan fod S4C wedi gofyn am lai o benodau’r wythnos ac nid yw’n gynaliadwy i barhau gyda’r model staffio presennol.”
“Bydd ein cynulleidfaoedd yn parhau i gael gwylio a mwynhau Pobol y Cwm ar y sgrin drwy gydol y flwyddyn.”