Mae’r Eisteddfod wedi cyhoeddi mai Ben Lake, Aelod Seneddol Ceredigion, fydd Llywydd yr Ŵyl Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion eleni.
Bydd yn annerch y gynulleidfa o lwyfan y Pafiliwn ar Faes yr Brifwyl, yn ystod wythnos yr Eisteddfod ar gyrion Tregaron (Gorffennaf 30-Awst 6).
Yn frodor o Lanbedr Pont Steffan, daw teulu Ben Lake o ardal Llanddewi Brefi a Chastellnewydd Emlyn.
Erbyn hyn, mae’n byw yn ardal Ciliau Aeron yng Ngheredigion.
Cafodd ei addysg yn Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan, cyn graddio mewn Hanes a Gwleidyddiaeth yng Ngholeg y Drindod, Rhydychen, cyn derbyn Gradd Meistr mewn Hanes Modern Prydeinig ac Ewropeaidd.
Bu’n drysorydd Cymdeithas Dafydd ap Gwilym tra’n astudio yn y brifysgol, ac yna, yn ystod ei gyfnod fel ysgrifennydd y Gymdeithas, bu’n rhan o’r tîm a drefnodd Eisteddfod Rhydychen yn 2013.
Mae’n parhau’n gefnogwr brwd o’r Gymdeithas, ac yn cymryd pob cyfle i helpu myfyrwyr o Gymru i ddathlu eu Cymreictod.
Dychwelodd i Gymru ac i’w filltir sgwâr ar ôl gadael y Brifysgol, a chafodd swydd yn gweithio i Elin Jones AS fel ymchwilydd.
Cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol dros Geredigion yn yr Etholiad Cyffredinol yn 2017.
Mae Ben yn Is-gadeirydd Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan ac yn llefarydd Plaid Cymru yn San Steffan ar ddiwylliant.
Mae Ben yn dilyn amryw o Gymry amlwg fel Llywydd yr Ŵyl dros y blynyddoedd, gan gynnwys y cyflwynydd a’r DJ Huw Stephens, yr hanesydd Elin Jones a chyn-reolwr cynorthwyol tîm pêl-droed dynion Cymru, Osian Roberts.