Cipiodd y ddrama Gymreig In My Skin ddwy wobr BAFTA mewn seremoni fawreddog neithiwr (nos Sul, Mai 8).

Mae’r gyfres wedi’i lleoli yn y cymoedd, ac mae’n trin a thrafod iechyd meddwl a rhywioldeb.

Enillodd hi’r wobr am y Ddrama Orau, gyda Kayleigh Llewellyn hefyd yn cipio’r wobr am yr Awdur Gorau, gan guro Russell T. Davies (It’s A Sin).

Cafodd yr ail gyfres ei darlledu y llynedd, ac mi gurodd hi Vigil ac Unforgotten, dwy gyfres sydd wedi’u hailgomisiynu ar gyfer y dyfodol.

Mae’n canolbwyntio ar y prif gymeriad Bethan (Gabrielle Creevy), sy’n ceisio amgyffred â iechyd meddwl ei mam, sy’n byw â chyflwr deubegynol, a’i rhywioldeb ei hun wrth iddi ddioddef homoffobia yn yr ysgol.

Yn ôl Kayleigh Llewellyn, mae’r gyfres yn rhannol seiliedig ar brofiadau ei mam fel rhywun fu’n brwydro salwch iechyd meddwl.

Cafodd y gyfres ei chomisiynu’n wreiddiol fel cyfres gomedi, ond y bwriad o’r dechrau oedd iddi fod yn gyfres ddrama oedd yn mynd i’r afael â nifer o bynciau dwys.

Cafodd ei hysgrifennu mewn pum wythnos, ei saethu mewn pum wythnos a’r cyfan oll â chyllideb o ddim ond £500, meddai.

Mae Gabrielle Creevy eisoes wedi ennill gwobr BAFTA Cymru ar gyfer yr Actores Orau yn sgil y gyfres, ac mae Kayleigh Llewellyn wedi cipio gwobr Crefft BAFTA.

Serch hynny, does dim disgwyl trydedd cyfres.

It’s A Sin

Syndod mwya’r noson, efallai, oedd fod yna’r un wobr i’r gyfres It’s A Sin gan Russell T. Davies, sy’n trafod argyfwng AIDS y 1980au.

Cafodd Olly Alexander enwebiad ar gyfer yr Actor Gorau, Lydia West ar gyfer yr Actores Orau, y gyfres ei hun ar gyfer Cyfres Fechan, Callum Scott Howells ac Omari Douglas (Actor Cynorthwyol Gorau), a’r eiliad y cafodd Colin (Callum Scott Howells) wybod ei fod e wedi’i heintio ag AIDS wedi’i enwebu ar gyfer gwobr Eiliaid sy’n Rhaid ei Gweld.