Bydd sicrhau cyflogau tecach i awduron yn rhan o astudiaeth newydd fydd yn edrych ar enillion awduron yng Nghymru.

Fe fydd yr arolwg newydd gan Brifysgol Aberystwyth a Llenyddiaeth Cymru’n ystyried sefydlu meincnodau ar gyfer gwahanol fathau o incwm hefyd.

Ar hyn o bryd, mae yna ddiffyg data ynghylch cyflogau awduron, felly mae gofyn i awduron sy’n gweithio yng Nghymru ymateb i arolwg ar y mater.

Fe fydd canlyniadau’r arolwg yn cael eu defnyddio i ddeall cyfraddau cyflog awduron, a phennu sut maen nhw’n amrywio yn ôl lefel profiad, iaith, ffurf yr ysgrifennu a lleoliad.

Bydd y rhain wedyn yn dylanwadu ar faint fydd Llenyddiaeth Cymru’n talu eu hawduron, ac maen nhw’n bwriadu cynhyrchu set o ganllawiau talu y gall sefydliadau eraill eu defnyddio wrth gomisiynu awduron hefyd.

Fel rhan o’r arolwg, mae gofyn i awduron nodi eu hincwm ysgrifennu, sut maen nhw’n cyhoeddi eu gwaith, a pha gyfran o’u hincwm sy’n deillio o ddigwyddiadau,

Ynghyd â hynny, bydd panel o 30 o awduron cynrychioliadol yn cymryd rhan mewn cyfweliadau un-i-un gydag academyddion o Ysgol Fusnes Aberystwyth er mwyn canfod mwy o wybodaeth.

Bydd ymchwilwyr o’r adran yn cyfweld pymtheg o sefydliadau comisiynu awduron i ddarganfod sut maen nhw’n cyfrifo tâl awduron ar gyfer gwahanol dasgau.

‘Llywio cyfraddau cyflog’

Dywed Leusa Llewelyn, cyd-Brif Swyddog Gweithredol Dros Dro ac Arweinydd Creadigol Llenyddiaeth Cymru, fod “grym llenyddiaeth yn helpu i lunio a gwella ein cymdeithas, ein heconomi a’n diwylliant”.

“Mae gan lenyddiaeth, yn ei hamrywiaeth eang, y grym i gysylltu cymunedau a dod â chysur, ysbrydoliaeth a gobaith i’r rhai sydd ei angen fwyaf. Wrth graidd y gwaith hwn mae awduron Cymru,” meddai.

“Fel y cwmni cenedlaethol ar gyfer datblygu llenyddiaeth yng Nghymru, rydym yn hybu arferion cyflogaeth teg i awduron, gan gynnwys cyfraddau teg o gyflog.

“Bydd yr ymchwil hwn yn llywio cyfraddau cyflog Llenyddiaeth Cymru yn uniongyrchol ac yn cael ei rannu â’r sector lenyddol fel canllawiau, gan sicrhau bod awduron Cymru yn cael eu talu’n deg yn unol â’u sgiliau proffesiynol.”

‘Amlygu cyfraniad y sector’

Mae incwm y sector greadigol yn “amrywio’n fawr”, yn ôl Dr Sophie Bennett-Gillison, sy’n ddarlithydd mewn Rheolaeth yn Ysgol Fusnes Aberystwyth.

“Mae’r sector creadigol yn chwarae rhan bwysig yng Nghymru, o safbwynt economaidd a diwylliannol, ond eto rydym yn gwybod bod incwm yn y sector hwn yn amrywio’n fawr ac nad yw’n deillio o ysgrifennu yn unig bellach,” meddai.

“Mae rhai awduron yn ennill incwm o ymddangosiadau cyhoeddus neu gyflwyno digwyddiadau llenyddol i ychwanegu at eu hincwm.

“Rydym yn gobeithio y bydd yr ymchwiliad hwn i gyflogau awduron yn amlygu’r cyfraniad a wneir gan y rhai sy’n gweithio yn yr is-sector creadigol hwn i’r economi, yn ogystal â helpu i sicrhau cyfraddau cyflog teg i bawb.

“Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Llenyddiaeth Cymru ar y prosiect hwn.”