Mae’r DJ a’r cyflwynydd radio Katie Owen yn dweud mai “deall cerddoriaeth yn yr iaith Gymraeg” yw ei phrif ysgogiad dros ddysgu’r iaith.

Yn enedigol o Ferthyr Tudful, ac wedi ei magu ym Mhontyclun, mae Katie wedi teithio’r byd yn gweithio fel DJ yn agor sioeau i fandiau fel Kasabian, Stereophonics a Madness yn ogystal â pherfformio mewn gwyliau cerddorol ledled Ewrop

Hi yw’r seleb ddiweddaraf i gymryd rhan yn y rhaglen ar Iaith Ar Daith, fydd yn cael ei ddarlledu nos Sul (Mai 8) ar S4C.

Yn ymuno â hi ar y daith mae’r DJ a chyflwynydd radio Huw Stephens.

Bydd y ddau yn ddechrau ar eu taith gydag ymweliad i Stiwdio Rockfield yn Sir Fynwy, lle bydd Huw yn adrodd hanes y stiwdios a rhai o’r bandiau mawr sydd wedi recordio yno, gan gynnwys Queen a’r Super Furry Animals.

Rhywbeth arall mae Katie yn angerddol amdano yw pêl-droed, felly bydd y ddau yn ymweld â’r siop bêl-droed Spirit of ‘58 yn y Bala.

Yna, bydd y disgybl yn troi’n athro wrth i Katie roi dosbarth sgiliau DJ i grŵp o blant lleol ym Mlaenau Ffestiniog.

‘Deall cerddoriaeth yn yr iaith Gymraeg’

“Oherwydd fy mod i’n gweithio yn y byd miwsig, hoffwn i allu deall cerddoriaeth yn yr iaith Gymraeg,” meddai Katie Owen.

“A hefyd hoffwn i allu siarad yr iaith oherwydd mae hi mor hardd.

“Dwi ddim yn gwybod lle dwi’n mynd gyda Huw – bydd e ychydig o magical mystery tour.

“Dwi’n teimlo’n nerfus ond cyffrous.”

Ychwanegodd Huw Stephens: “Beth fi’n caru am Katie yw ei brwdfrydedd hi am gerddoriaeth a’i brwdfrydedd dros fod yn Gymraes.

“Ar gyfer y daith yma, dwi’n gobeithio gallwn ni gyfuno diddordeb Katie yn yr iaith Gymraeg a cherddoriaeth o Gymru.”

Dathlu dysgu’r iaith gyda Datblygu

Bethan Lloyd

Mae penwythnos arbennig wedi cael ei drefnu i ddiolch i’r grwp Datblygu am helpu dysgwyr i ddysgu Cymraeg