Mae teulu’r diweddar arlunydd Ogwyn Davies yn gwahodd pobol i danysgrifio i lyfr am hanes ei fywyd i helpu tuag at ariannu’r llyfr hardd.
Mab a merch yr artist enwog o Dregaron sydd wedi comisiynu’r llyfr Bywyd a Gwaith Ogwyn Davies, a fydd ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron fis Awst.
Maen nhw’n ei gyhoeddi ar y cyd â’r Lolfa, a nawr mae gwahoddiad i bobol danysgrifio i gael copi o’r llyfr, er mwyn helpu tuag at ei ariannu.
Am £40, fe fydd y 200 cyntaf sy’n tanysgrifio yn cael copi clawr caled o’r llyfr, ynghyd â phrint o Eglwys Sant Caron gan yr artist, a chael eu henwau yng nghefn y llyfr.
Y dyddiad cau yw Mehefin 6.
Buodd merch yr arlunydd Nia Caron, sy’n actor ar Pobol y Cwm, a’i brawd Huw Davies wrthi ers blwyddyn a hanner yn ymchwilio a pharatoi i’r gyfrol.
Awdur y gyfrol ddwyieithog ar ran y teulu yw’r hanesydd celf Ceri Thomas.
“Er bod Covid wedi bod yn anodd, mae e wedi ein helpu ni yn yr ystyr ei fod wedi rhoi mwy o amser i ni i wneud yn siŵr ein bod ni’n cael y llyfr i ddod mas yn union fel yr oedden ni mo’yn,” meddai Nia Caron.
“Fel ein bod ni’n cael mwy o amser i ymchwilio i ble mae’r lluniau wedi mynd, pwy sy’n berchen arnyn nhw, mynd drwy bopeth roedd Dad yn berchen mewn gwirionedd, a ffeindio mas am ei yrfa fe.
“Ar un ochr mae fel pe tasen ni wedi bod wedi ymchwilio i fywyd rhywun hollol ddieithr i ni. Wrth gwrs, roedd yna gyfnod cyn i ni gael ein geni nad oedden ni’n gwybod dim amdano fe. Unwaith ry’n ni’n edrych mewn i’w fywyd e, mae’n dechrau mynd y tu hwnt o emosiynol wedyn.”
Artist “emosiynol a brwdfrydig”
Bydd y llyfr yn trafod cariad Ogwyn Davies at yr iaith, at Gymru a’i phobol ac yn manylu am ei dechnegau amrywiol a’i ddylanwadau. Bydd hefyd yn sôn am ei gariad at waith athro, a’i ddiddordeb mewn crochenwaith.
“Doedden ni ddim yn sylweddoli mewn gwirionedd pa mor emosiynol, a brwdfrydig oedd Dad am ei waith, a Sir Ceredigion,” meddai Nia Caron.
“Mae shwd gymaint wedi dod i’r amlwg, a channoedd a channoedd o luniau nad oedden ni’n gwybod dim am eu bodolaeth nhw.”
Maen nhw wedi darganfod rhai darluniau o’i waith yn South Carolina, Denmarc, Awstralia a llefydd eraill, yn ôl ei ferch.
“Maen nhw dros y lle i gyd,” meddai.
Bywyd a gyrfa
Cafodd Ogwyn Davies ei eni yn Nhrebannws yng Nghwm Tawe yn 1925.
Astudiodd yn Ysgol Gelf Abertawe, cyn symud i Dregaron lle bu’n dysgu celf yn yr ysgol gyfun am flynyddoedd lawer.
Fe baentiodd nifer o adeiladau enwocaf y genedl a’i diwylliant, fel Soar y Mynydd a Chastell Dolbadarn.
Un o’i weithiau enwocaf yw’r darlun o eiriau ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ – mae print o’r darlun ar werth ar wefan un oriel am £300.
Bu farw Ogwyn Davies ym mis Rhagfyr 2015.
Roedd yn genedlaetholwr a oedd wrth ei fodd pan bleidleisiodd y Cymry o blaid datganoli yn 1997. Fe’i henillwyd â mwyafrif o 6,721 ac roedd y rhif yna – 6721 – yn “amlwg iawn” yn llawer o’i waith o hynny ymlaen, yn ôl Nia Caron.
“A’r geiriau ‘Ie’,” meddai. “Yn un llun ry’n ni wedi ei ddarganfod, mae wedi arwyddo’i enw ‘Ogwyn Davies’ ond wedi rhoi’r llythrennau ‘ie’ mewn coch, achos ei fod yn golygu shwd gymaint iddo fe, ein bod ni wedi cael yr hyn roedd y genedl yn ei haeddu o’r diwedd.”
Dyma yw’r llyfr cyntaf i gael ei gyhoeddi am Ogwyn Davies, ac roedd hi’n bwysig i’r teulu ei gyhoeddi erbyn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron eleni.
“Dyna pam o’n i’n benderfynol o’i wneud e,” meddai Nia Caron.
Roedd ei thad yn meddwl y byd o Dregaron, meddai.
“Mae e yn golygu popeth. Mi wnaeth Mam a Dad ofyn i ni wasgaru eu llwch ar fynydd Gwyngoed Teifi uwchben Tŷ Hir lle buon nhw’n byw.”
Os ydych am danysgrifio, cysylltwch gyda Gwasg y Lolfa yn Nhalybont.
Bydd arddangosfa o waith Ogwyn Davies yn digwydd yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth cyn ac yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron, yn cyd-fynd â chyhoeddi’r llyfr.