Mae Beca Brown yn “hyderus gyda’r darlun” i Blaid Cymru yn yr etholiadau lleol, wrth ddweud ei bod hi’n “clywed pethau da” yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Fôn.

Daw hyn ar ôl i’r Blaid gadw eu gafael ar Gyngor Gwynedd a chynyddu nifer eu cynghorwyr o 41 i 44.

Roedd Beca Brown – sy’n cynrychioli ward pentref Llanrug – ymhlith y cynghorwyr hynny, er nad oedd neb yn sefyll yn ei herbyn.

“Dw i’n digwydd bod yn y cyfrif yng Nghonwy ar hyn o bryd ac mae hi’n ara’ deg braidd yma’n datgan, ond mae Llanrwst wedi dal eu dau aelod Plaid Cymru nhw – Aaron Wynne a Nia Clwyd,” meddai wrth golwg360.

“Mae’r Blaid yng Nghonwy wedi rhoi gerbron y nifer mwyaf o ymgeiswyr a mwy o amrywiaeth o ymgeiswyr nag erioed o’r blaen.

“Mae’r un peth yn wir yn Wrecsam, a dw i’n deall bod yna naw wedi’u hethol yn Wrecsam hyd yma (cynnydd o chwe chynghorydd).

“Mae’r llechen o ymgeiswyr sydd gennym ni ar draws y gogledd yn wahanol iawn, ac mae hynna yn destament i’r ffaith bod y Blaid yn gallu denu pobol o gefndiroedd gwahanol.

“Dw i’n clywed pethau da am Sir Gâr, ac am Geredigion hefyd, dw i’n clywed pethau da am Sir Fôn…

“Ond dw i ddim yn gwybod beth ydi’r canlyniadau ar hyn o bryd.

“Dw i’n meddwl ei bod hi’n amser cynhyrfus a dw i’n hyderus gyda’r darlun.”

‘Cynghorwyr ifanc benywaidd’

Yr hyn sydd wir wedi cyffroi Beca Brown yw gweld “gymaint o gynghorwyr ifanc benywaidd sydd wedi mynd i mewn”.

“Dw i’n meddwl y bydd y grŵp yn edrych yn reit wahanol, â’r cyfartaledd oed yn disgyn yn reit ddramatig,” meddai.

“A hefyd, os wyt ti’n edrych ar eu canlyniadau unigol nhw, maen nhw wedi chwipio pleidleisiau.

“Mae lot o’r rhain yn bobol sydd heb sefyll o’r blaen, sydd ddim o reidrwydd efo cefndir gwleidyddol.

“Ond wrth gwrs, beth ydyn nhw ydi unigolion sydd wedi’u gwreiddio yn eu cymunedau, ac yn weithgar ers blynyddoedd lawer er eu bod nhw’n ifanc.

“Dw i’n meddwl mai dyna’r math o bobol mae Plaid yn dueddol o ddenu oherwydd dyna ydi’n holl ethos ni, plaid ar lawr gwlad ydi hi mewn ffordd.

“Felly dw i’n ofnadwy o falch o weld gymaint o bobol ifanc, a merched ifanc yn dod i mewn ac o’r canlyniadau maen nhw wedi eu cael.”

‘Gwneud gwahaniaeth yn syth’

Beth mae Beca Brown yn credu sydd wedi arwain at ymgeiswyr iau yn sefyll eleni, felly?

“Dw i’n meddwl mai beth ydi o ydi bod y gwaith mae rhywun yn gallu ei wneud yn lleol yn ei gymuned efallai yn fwy apelgar,” meddai.

“Yn draddodiadol, dyna sut mae merched yn dod i mewn i fyd gwleidyddiaeth yn aml iawn, maen nhw’n arwain ymgyrchoedd lleol, a dyna ydi llwybr llawer o ferched.

“Dydyn nhw ddim yn dueddol o feddwl: ‘O, dw i eisiau bod yn wleidydd’.

“Beth maen nhw’n ei weld ydi problemau a heriau lleol ac eisiau gwneud rhywbeth amdanyn nhw.

“Dw i yn meddwl bod rhywun yn gallu edrych ar beth sy’n digwydd ar lefel Brydeinig, wyddoch chi, dydy o ddim yn ysbrydoli bob tro, ond ar patsh dy hun ti’n gallu gwneud gwahaniaeth, rwyt ti’n gallu bod yn atebol.

“Wedyn, hwyrach bod y math newydd o ymgeiswyr rydan ni’n eu gweld rŵan yn gweld mai yn lleol mae ei dal hi a bod o’n brofiad mwy positif achos ti’n gallu gwneud gwahaniaeth yn syth, a gweld ffrwyth dy lafur di yn dy gymuned di.”