“Y naratif cenedlaethol” sydd ar fai am ganlyniadau gwael y Ceidwadwyr Cymreig, yn ôl arweinydd y blaid yn Senedd Cymru, Andrew RT Davies.

Dim ond hanner cynghorau sydd wedi cyhoeddi eu canlyniadau hyd yma, ond eisoes mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi colli 34 o seddi.

Yn Sir Ddinbych, maen nhw wedi disgyn o fod y blaid fwyaf i bedwaredd, tra bod pob Ceidwadwr ar Gyngor Sir Torfaen wedi colli eu seddi.

Yn y cyfamser, mae adroddiadau’n awgrymu y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn colli eu gafael ar Gyngor Sir Fynwy – yr unig gyngor maen nhw mewn rheolaeth ohono.

‘Noson anodd’

Roedd disgwyl i’r Ceidwadwyr golli seddi yng Nghymru, fel maen nhw wedi’i wneud yn Lloegr a’r Alban, ond a oedd Andrew RT Davies yn rhagweld canlyniadau mor wael â hyn?

“Mae hi’n profi i fod yn noson anodd i ni wrth i’r canlyniadau ddod i mewn,” meddai wrth golwg360.

“Fe wnaethon ni redeg ymgyrch bositif yma yng Nghymru, gyda mwy o ymgeiswyr Ceidwadol nag erioed o’r blaen – 669.

“Ond yn anffodus doedden ni’n methu goresgyn y naratif cenedlaethol.

“Roedd y naratif cenedlaethol yn hynod o niweidiol, ond roedd y brand Cymreig yn gryf hefyd ac fe gawson ni lot o groeso ar y stepen ddrws.

“Roedd yn teimlo’n debyg iawn i’r ymgyrch yn 2012 lle’r oedd gennych chi’r Dreth Pastai a’r Dreth Carafán yn dominyddu ymgyrch oedd fel arall yn un gref.

“Ond eto, roedd y penawdau yn ormod i ni, ac mae’r un peth wedi digwydd yn 2022, maen nhw wedi bod yn broblem fawr i ni.

“Mewn unrhyw ymgyrch, dw i’n credu bod pobol yn hoffi themâu ac mae’n ffaith lle bynnag y bues i’n ymgyrchu, boed hynny yng ngogledd Cymru, y canolbarth neu dde Cymru, mai’r problemau yn Rhif 10 a chostau byw oedd y ddwy thema amlycaf.

“Fe fyddwn ni’n amlwg yn ceisio adfywio nawr ac adeiladu brand cryf wrth i ni edrych ymlaen at yr etholiad cyffredinol ymhen deunaw mis neu ddwy flynedd.

“Ond mae hi’n bwysig iawn ein bod ni’n dysgu gwersi o’r ymgyrch hon.

“Fe gawsom ni ganlyniadau da iawn yn etholiad cyffredinol 2019 ac yn etholiadau’r Senedd yn 2021, ond yn anffodus dyw’r etholiad hwn heb fod yn un llwyddiannus, mae’n rhaid i ni fod yn onest ynghylch hynny.

“Mae’r canlyniadau yma’n amlwg wedi’n gwthio ni yn ôl yng nghyd-destun llywodraeth leol, sy’n rhywbeth does yr un ohonom ni eisiau ei weld.

“Yn y bôn mae angen i ni edrych ar yr hyn sydd angen cael ei wneud i sicrhau ein bod ni’n creu model sy’n gallu ennill unwaith eto.”

Y Ceidwadwyr am golli Sir Fynwy?

Mae adroddiadau yn awgrymu y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn colli eu gafael ar Gyngor Sir Fynwy – yr unig gyngor y maen nhw mewn rheolaeth ohono.

Fodd bynnag, mae Andrew RT Davies yn dweud nad yw wedi clywed yr adroddiadau hynny.

“Dw i heb weld hynny, felly maddeuwch i mi os nad ydw i’n gwneud sylw penodol ar y mater,” meddai.

“Dw i’n deall bod yna sialensiau yn Sir Fynwy ac mae’n debygol y byddwn ni’n ennill rhai seddi a cholli eraill oherwydd mae yna gryn dipyn o newidiadau wedi bod i’r ffiniau yno.

“Ac o’r hyn dw i’n ddeall mae yna lawer o wardiau aml-aelodau wedi cael eu cyflwyno am y tro cyntaf yn y sir honno.

“Ond fel dw i’n dweud, dw i heb weld y canlyniadau yn Sir Fynwy eto.”

Cynhadledd yn gyfle i “fownsio’n ôl”

Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cynnal eu cynhadledd flynyddol yn Llanidloes ar Fai 20 a 21, ond mae Andrew RT Davies yn mynnu na fydd canlyniadau’r etholiadau lleol yn staen arni.

Yn hytrach, mae’n ystyried y gynhadledd yn gyfle i “fownsio’n ôl yn syth”.

“Mae’n rhoi cyfle i ni amlinellu’r hyn rydyn ni am ei wneud yn San Steffan ac yma yn y Senedd,” meddai.

“Ac yn bwysicach fyth beth mae ein cynghorwyr eisiau ei gyflawni mewn llywodraeth leol, er bod llai ohonyn nhw bellach.

“Wrth gwrs, fe fydden ni wedi gobeithio gweld mwy o gynghorwyr Ceidwadol yn cael eu hethol yn yr etholiad hwn.

“Ond fel dw i’n dweud, rydyn ni’n falch iawn bod mwy o ymgeiswyr Ceidwadol nag erioed o’r blaen wedi sefyll, tra bod y pleidiau eraill wedi mynd am yn ôl.

“Mae hynny yn dangos bod yna frwdfrydedd ymhlith pobol i sefyll fel ymgeiswyr dros y Ceidwadwyr Cymreig ac i gynrychioli eu cymunedau o dan frand y Ceidwadwyr Cymreig.”