Mae’r cyfrif wedi gorffen yng Nghymru a phob cyngor sir bellach wedi cyhoeddi eu canlyniadau yn yr etholiadau lleol.

Sut mae tirlun llywodraeth leol Cymru yn edrych felly? A sut ddiwrnod oedd hi i’r gwahanol bleidiau?

Llafur

Mae hi wedi bod yn ddiwrnod da i’r Blaid Lafur wrth iddyn nhw ail gipio 67 o’r 112 o seddi a gollwyd yn 2017.

Fe lwyddodd y blaid i gymryd rheolaeth o gynghorau Blaenau Gwen a Phen-y-bont ar Ogwr, tra’n colli rheolaeth o Gyngor Port Talbot.

Y nhw sydd â rheolaeth dros y nifer fwyaf o gynghorau – wyth.

“Rydym wedi gwneud enillion ym mhob rhan o Gymru, yn enwedig lle mai’r Ceidwadwyr sydd wedi bod yn brif wrthwynebwyr i ni,” meddai Prif Weinidog Mark Drakeford wrth y BBC.

Ychwanegodd fod pobol wedi defnyddio eu pleidlais i “fynegi eu hanfodlonrwydd gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig”.

Plaid Cymru

Bydd Plaid Cymru yn hapus heno hefyd.

Er iddyn nhw golli chwech o gynghorwyr, llwyddodd y Blaid i gadw rheolaeth dros awdurdodau yr oedden nhw eisoes yn eu harwain, gan sefydlu mwyafrifoedd yn Ynys Môn, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, a dal Gwynedd.

“Pedwar Cyngor, dydyn ni erioed wedi gwneud hynna fel plaid o’r blaen,” meddai arweinydd y Blaid Adam Price.

“Mae’n dda gweld hefyd ein bod ni’n ôl ar y cyngor yn ein Prifddinas.

“Rhywbeth arall eithriadol o gyffrous at y dyfodol yw’r ffaith ein bod ni wedi treblu ein nifer o gynghorwyr yn Wrecsam.

“Mae hyn yn profi y gall Plaid Cymru fod yn blaid sy’n cynrychioli Cymru gyfan.

“Mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair dros ben.”

Y Ceidwadwyr

Mae hi wedi bod yn ddiwrnod uffernol i’r Ceidwadwyr Cymreig.

Collodd y blaid 86 o seddi, yn ogystal â rheolaeth dros Gyngor Sir Fynwy – yr unig gyngor yr oedden nhw mewn rheolaeth ohono.

Yn Sir Ddinbych, fe ddisgynnon nhw o fod y blaid fwyaf i bedwaredd, tra bod pob Ceidwadwr ar Gyngor Sir Torfaen wedi colli eu seddi.

Does gan y blaid ddim un cynghorydd ar draws cynghorau Sir Fôn, Gwynedd, Ceredigion na Sir Gaerfyrddin.

“Y naratif cenedlaethol” sydd ar fai am y canlyniadau gwael, yn ôl arweinydd y blaid yn Senedd Cymru, Andrew RT Davies.

“Roedd y naratif cenedlaethol yn hynod o niweidiol, ond roedd y brand Cymreig yn gryf hefyd ac fe gawson ni lot o groeso ar y stepen ddrws,” meddai wrth golwg360.

“Mewn unrhyw ymgyrch, dw i’n credu bod pobol yn hoffi themâu ac mae’n ffaith lle bynnag y bues i’n ymgyrchu, boed hynny yng ngogledd Cymru, y canolbarth neu dde Cymru, mai’r problemau yn Rhif 10 a chostau byw oedd y ddwy thema amlycaf.

“Fe fyddwn ni’n amlwg yn ceisio adfywio nawr ac adeiladu brand cryf wrth i ni edrych ymlaen at yr etholiad cyffredinol ymhen deunaw mis neu ddwy flynedd.

“Ond mae hi’n bwysig iawn ein bod ni’n dysgu gwersi o’r ymgyrch hon.”

Y Democratiaid Rhyddfrydol

Fe all y Democratiaid Rhyddfrydol fod yn ddigon bodlon gyda’u canlyniadau.

Enillodd y blaid 10 o seddi ychwanegil ar draws Cymru gan ddod â’u cyfanswm i 69, yn ogystal â sefydlu eu hunain fel y blaid fwyaf ar Gyngor Powys, lle’r oedd yr Annibynwyr a’r Ceidwadwyr wedi llywodraethu mewn clymblaid ers 2017.

“Mae’r canlyniadau heddiw ym Mhowys yn seismig iawn ac erbyn hyn, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru sydd â’r nifer uchaf o gynghorwyr ar y Cyngor erioed,” meddai arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Jane Dodds.

“Mae’r canlyniadau yma yn dweud wrthym fod gwleidyddiaeth yn y sir yn newid unwaith eto.

“Fe wnaeth ein tîm redeg ymgyrch gadarnhaol a oedd yn apelio at bleidleiswyr a oedd wedi cael llond bol ar y Ceidwadwyr a’r Annibynwyr.

“Mae’r canlyniadau hyn nid yn unig yn ein rhoi mewn sefyllfa gref mewn llywodraeth leol, ond yn dangos bod y gwaith rydym wedi bod yn ei wneud i ailadeiladu’r blaid fel grym gwleidyddol difrifol ym Mhowys yn gweithio a byddwn yn edrych ymlaen at etholiadau San Steffan.”

Annibynwyr

Diwrnod i’w anghofio oedd hi i’r Annibynwyr.

Y nhw sy’n dal i fod â’r ail nifer fwyaf o gynghorwyr yng Nghymru, wrth i’r blaid ennill chwech sedd a dod â’u cyfanswm i 310.

Fodd bynnag, collon nhw rheolaeth ar ddau gyngor lle’r oedden nhw mewn grym.

Y Blaid Werdd

Gall y Blaid Werdd fod yn hapus heno wrth iddyn nhw ennill eu nifer fwyaf o seddi erioed – wyth.