‘Dathlu byddardod’ mae’r Gymdeithas ar ran Plant Byddar yr wythnos yma. I’r perwyl yma mae’r Gymdeithas wedi gofyn i blant byddar drwy Brydain sôn ar eu cyfryngau cymdeithasol am agweddau cadarnhaol ar fod yn fyddar. Mae’r ymatebion yn werth eu gweld, gan eu bod nhw’n agoriad llygad.
Dyna’r Gymraes 12 oed, Ffion-Haf, sy’n ddwys-fyddar yn y ddwy glust, yn egluro pam ei bod hi’n caru bod yn fyddar. O allu tynnu ei theclyn clyw yn y gwely a pheidio â gorfod clywed y ci yn cyfarth na’i brawd yn paldaruo â’i ffrindiau. Pam ei bod hi’n falch o fod yn Fyddar? “Mae o’n gwneud i mi deimlo’n unigryw.” A beth fyddai’n synnu pobol am ei byddardod? “Dw i’n medru tair iaith,” meddai. “Cymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddo”. Na, chi sy’n crio.
Mae gyda ni blentyn byddar yn ein tŷ ni, sy’n chwech a hanner oed. Rhannol neu gymedrol fyddar yw hi (mild to moderate yw’r term a ddefnyddiwn, er cywilydd) yn y ddwy glust, ond yn ddifrifol (severe) ar amledd sain uchel. Mae hi’n gwisgo cymhorthion neu declynnau clyw yn y ddwy glust. Bilateral hearing loss yw’r term Saesneg am hynny a dyna fydd awdiolegwyr campus Ysbyty Gwynedd yn ei ddweud.
Ond ‘clustiau bach’ yw ein henw ni ar yr hearing aids, enw a gydiodd o’r dechrau. Dw i’n dal i gael gwaith teipio’r gair ‘cymhorthion’ heb sôn am ei ynganu fe. Yn swyddogol, mi fyddwn i’n dweud ‘teclyn clyw’ neu ‘declyn clust’.
Mae’r Gymdeithas yn defnyddio’r term ‘byddar’ i olygu unrhyw fath o fyddardod. Yn fras, mae telerau byddardod yn cael ei ddosbarthu’n bedwar – bach, cymedrol, difrifol, a dwys. Ond maen nhw’n defnyddio Byddar gyda phriflythyren i gyfeirio at y gymuned sy’n defnyddio iaith arwyddo BSL.
‘Nam ar y clyw’ yw’r term swyddogol Gymraeg am ‘hearing loss’, ond fel rhiant i blentyn trwm ei chlyw mae hi’n anodd iawn dweud y gair ‘nam’ yna. Wrth lenwi ffurflen yr Urdd er mwyn iddi gymryd rhan yn eu sesiynau chwaraeon rhagorol dros hanner tymor, loes calon yw gorfod ticio’r blwch ‘a ydych chi’n ystyried bod nam ar eich plentyn?’ er mwyn gallu llenwi blwch arall i egluro beth yw anghenion y plentyn. Wrth drafod y mater ar Twitter, mae yna rai wedi awgrymu ffordd garedicach o ofyn y cwestiwn yma, a’i ail-strwythuro’n llwyr.
Nid ‘nam’ o gwbl yw e wrth gwrs. Dim ond gwahaniaeth. Dywedodd un actores Fyddar i mi ei bod hi’n casau’r geiriau ‘hearing impairment’. O gael yr adnoddau a’r cymorth yn yr ysgol, ac ewyllys da athrawon, dylai plentyn ag arno nam (iaics) clyw gyflawni eu gallu ym myd addysg. Gall athro wisgo meic neu system clyw FM rownd eu gyddfau, sy’n golygu bod teclynnau’r plentyn yn gallu clywed pob gair mae’r athro yn ei ynganu, lle bynnag y bônt. Dyna’r egwyddor beth bynnag.
Ailadrodd ac ailadrodd
Nid dyna’r realiti. Mae plant byddar yn cael eu dal yn ôl, ac yn gymdeithasol ac yn addysgol, gan nad yw’r camau yma wedi eu gweithredu’n ddigon da, er gwaetha’ ymdrechion yr athrawon ac Athrawon Clyw (sy’n gweithredu ar ran yr awdurdod lleol a’r adran Awdioleg i ofalu am anghenion y plentyn byddar yn yr ysgol, sydd o gymorth mawr i’r teulu). Mae plant byddar yn cael eu dieithrio, eu bwlio, ac yn gorfod ymlafnio fwy na llawer oherwydd nad yw’r camau mewn lle iddyn nhw ddeall cyfarwyddiadau a sgyrsiau rownd bwrdd. Mae’r ystadegau yn profi nad ydyn nhw’n gallu cyrraedd eu haddewid mewn arholiadau TGAU a Lefel A. Ac mae’r byd yn mynd yn ei flaen yn ddi-hid. Nid oes disgwyl i blentyn godi ei lais i gwyno, neu esbonio’i anghenion, bob whipstitsh. A dyw pobol ddim yn ddi-hid go iawn.
Felly’r prif beth i ni fel rhiant yw codi ymwybyddiaeth pobol eraill am sut i helpu’r plentyn, a sut i gyfathrebu gyda nhw’n iawn. Peidio â rhoi llaw dros eich ceg wrth siarad, er enghraifft; peidio â throi i ffwrdd wrth sgwrsio â rhywun byddar, ac ailadrodd, ailadrodd ac ailadrodd. Byddwch amyneddgar, mae hi’n waith blinedig bod yn fyddar. Byth gweiddi, a byth dweud ‘o, dim ots’.
Gan iddi ddysgu siarad a llefaru’n iawn gan ei bod hi wedi gallu clywed ei rhieni yn faban ddigon (roedd hi’n dair oed hi cyn i ni ddarganfod ei nam clyw), nid yw wedi gorfod dysgu Iaith Arwyddo i gyfathrebu. Ond rydyn ni’n bygwth gwneud bob dydd, yn ysu am wneud, gan ein bod ni bellach yn perthyn i’r gymuned fonheddig yma sydd â’i hiaith arbennig ei hun. Byddai yn fendigedig pe bai ysgolion Cymru yn dysgu ychydig o iaith arwyddo mewn ysgolion – beth am un frawddeg yr wythnos, efallai?
Felly, fel y Gymdeithas ar ran Plant Byddar, roedden ninnau yn dathlu’r wythnos yma. Roedd yr ysgol wedi cael ymweliad arbennig gan yr Athro Clyw a chynrychiolydd o’r Gymdeithas i roi cyflwyniad go iawn i’r disgyblion. Roedden ni ar ddeall eu bod am roi cyflwyniad i’r dosbarth, ond wir, fe gafodd yr ysgol i gyd fod yn rhan o’r gwasanaeth, a dysgu ychydig o iaith Arwyddo, a deall sut mae’r glust yn gweithio, a sut i gyfathrebu gyda rhai trwm eu clyw. Roeddwn i yn fy nagrau yn gweld y lluniau o’r plant yn gwrando’n astud, a’r un ferch fach fyddar yn eu canol, yn cael gwers gyffredinol fel unrhyw wers arall. Diolch iddyn nhw i gyd.
Mae unrhyw sylw i fyddardod yn helpu, ac mae’r Wythnos Codi Ymwybyddiaeth felly o fudd mawr. Mae’n ennyn trafodaeth, a’r storïau yn y wasg ac ar y cyfryngau yn gwneud y neges yn un weledol, un y mae pawb yn medru ei chlywed. A diolch byth am Rose, y ddawnswraig fyddar a fuodd ar y gyfres Stritcly Come Dancing – arwres tŷ ni.
‘Hearing aids are cool’
Fel mam i blentyn byddar, dw i’n bendithio Instagram yn ddyddiol. Mae gweld eraill – yn blant ac oedolion – yn rhannu lluniau llon o’u clustiau bach o dan yr hashnodau #hearingloss #hearingaids a #hearingaidsarecool yn werth y byd i gyd yn grwn.
Mae pobol yn rhannu eu straeon a’u profiadau, boed gadarnhaol a negyddol – mae’r cwbl yn addysg. Da gwybod y bydd y gymuned yma ar gael i’r fechan pan fydd hi’n hŷn ac yn berchen ar ffôn bach. Mae yna gwmnïau bach annibynnol ar Etsy sy’n gwerthu tlysau bach i’w rhoi ar y beipen sydd ar y teclyn clust, am tua £10 – diolch amdanynt. Mae pawb yn dotio ar galonnau pinc sgleiniog y fechan. Mae yna hearrings, clustdlysau y gallwch eu hongian oddi ar y teclyn.
Mae sawl un yn dweud yr un peth. Merched yn eu harddegau a’u hugeiniau yn dweud eu bod nhw wedi ceisio cuddio’u teclynnau clyw neu osgoi eu gwisgo pan oedden nhw’n iau, a bellach yn dyfaru. Wedi teimlo embaras ohonyn nhw ymysg ffrindiau. Nawr maen nhw am eu dathlu nhw. Maen nhw wedi cael llond bol ar eu cuddio.
Dyma yr hoffwn i alw amdano yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Byddardod: Dathlwch eich clustiau bach! Dathlwch eich teclynnau clyw. Dathlwn gymhorthion clyw.
Mae cynifer o oedolion wedi cyfadde’ wrtha i ers i ni ganfod fod y fechan yn rhannol fyddar eu bod nhw’n drwm eu clyw. Yn rhannol fyddar yn un glust, ond yn osgoi gwisgo teclynnau. Neu yn talu miloedd yn breifat er mwyn cael rhai sydd bron yn anweledig. Pam? Am fod yna stigma amdanyn nhw.
Rhaid cael gwared â’r hen stigma diflas yma, a dathlu’r clustiau bach! Mae yna gwmni’r enw Little Auricles sy’n gwneud y tlysau crandia’ erioed i’w rhoi ar declynnau – dyna braf fyddai gweld neiniau rownd tref Caernarfon yn eu gwisgo’n falch rownd lle. Eu normaleiddio. Does neb ag embaras am wisgo sbectol.
Mae’r Wythnos Codi Ymwybyddiaeth Byddardod yn para hyd at 8 Mai