Roedd hi’n ddeng mlynedd ers agor Llwybr Arfordir Cymru yr wythnos hon.

Daeth cyhoeddiad ei fod yn “agored ar gyfer busnes” ar Fai 5, 2012 fel cyrchfan i ymwelwyr oedd yn rhad ac am ddim ac yn agored drwy’r flwyddyn. Mae’n un o’r ychydig lwybrau yn y byd sy’n dilyn arfordir gwlad.

Ers deng mlynedd, mae tîm Llwybr Arfordir Cymru wedi gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol arfordirol, Parciau Cenedlaethol Eryri ac Arfordir Sir Benfro, Llywodraeth Cymru a Croeso Cymru i ddatblygu, cynnal a hyrwyddo’r llwybr.

Dyma Quentin Grimley yn rhannu ei brofiad o weithio yn nhîm Llwybr Arfordir Cymru:

“Ar ôl gweithio ar brosiect Llwybr Arfordir Cymru ers iddo ddechrau, gallaf ddweud yn sicr ei fod wedi newid fy mywyd!

“Roeddwn yno pan gyhoeddodd Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru ar y pryd, y cynlluniau ar gyfer y ‘Rhaglen Gwella Mynediad i’r Arfordir’ yng Nghaergybi yn haf 2006 ac rwyf wedi bod yn rhan o’r gwaith o gydlynu’r prosiect yn genedlaethol ers iddo ddechrau’n swyddogol flwyddyn yn ddiweddarach.

“Ar lefel bersonol, mae wedi bod yn wych cyfarfod a gweithio gyda llawer o bobl yn Cyfoeth Naturiol Cymru, awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru, ac eraill i ddatblygu’r llwybr. Roeddwn i eisoes wedi cerdded llawer o arfordir Cymru o’r blaen, ond mae’r prosiect wedi rhoi cyfle i mi lenwi llawer o’r bylchau.

“Rhwng 2007 a’r agoriad swyddogol yn 2012 roedd yn wych gwylio wrth i rannau o’r llwybr gael eu cysylltu’n un llwybr barhaus. Ers hynny, rydym wedi parhau i ariannu gwaith i adlinio rhannau i sicrhau bod y llwybr mor agos i’r môr â phosibl.

“Heb os, mae’r amcanion a nodwyd yn 2006 wedi’u cyflawni – ymestyn, i Gymru gyfan, y manteision economaidd a’r manteision iechyd oedd eisoes yn amlwg o Lwybr Arfordir Sir Benfro. Fodd bynnag, y peth gorau yw bod Llwybr Arfordir Cymru yn dod â phleser a chyfleoedd i gannoedd o filoedd o bobl – a bod hynny i gyd ar gael am ddim i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd.

“Rwy’n gwybod o brofiad pa mor lwcus ydyn ni yng Nghymru, gyda harddwch ac amrywiaeth syfrdanol yr arfordir, a byddwn yn argymell yn gryf fod pawb yn mynd i fwynhau o leiaf ran ohono.”

Dyma ddywedodd Eve Nicholson am ei rôl yn nhîm Llwybr Arfordir Cymru:

“Rwyf wedi gweithio ar Lwybr Arfordir Cymru ers ychydig dros 10 mlynedd, yn bennaf ar gymorth gweinyddol a chyllidol ac yn fwy diweddar ar farchnata, cyfathrebu a hyrwyddo’r llwybr. Mae’r newid hwn mewn rôl wedi gwneud gweithio ar y llwybr gymaint yn fwy diddorol.

“Mae amrywiaeth enfawr y llwybr yn cyd-fynd â’r amrywiaeth enfawr o waith sydd ei angen i hyrwyddo’r llwybr anhygoel hwn sydd gennym yma yng Nghymru. O weithio ar strategaeth farchnata, i ymchwilio i’r hyn y mae ein cynulleidfa yn ei hoffi am y llwybr (neu ddim yn ei hoffi!), i bostio cynnwys cyfryngau cymdeithasol, i ysgrifennu blogiau (fel hwn!) – mae’r cyfan yn rhan o ddarlun mawr i ysbrydoli ac annog pobl i ymweld â’r llwybr. Mae llawer o feddwl strategol a chynllunio, a hyd yn oed ambell daenlen Excel, yn mynd i gadw’r peiriant cysylltiadau cyhoeddus i fynd.

“I wneud hyn, mae’r tîm yn gweithio’n galed yn y cefndir gydag amrywiaeth eang o bartneriaid o awdurdodau lleol, busnesau arfordirol, y trydydd sector, Croeso Cymru a Llywodraeth Cymru i drosglwyddo ein negeseuon. Heb ein partneriaid, rwy’n siŵr na fyddem wedi cyflawni cymaint yn ystod y 10 mlynedd diwethaf.

“Er mwyn profi’n wirioneddol yr hyn sydd gan y llwybr i’w gynnig, mae gwir angen i chi fynd i’w weld. Fy rôl i yw sicrhau bod pobl yn cael eu hysbrydoli a’u hannog ddigon a bod ganddynt yr wybodaeth gywir i ddod i ymweld â’r llwybr – a hynny i wneud 1 filltir neu’r 870 milltir i gyd.

“Un peth sy’n fy rhyfeddu i bob amser yw beth mae’r llwybr yn ei olygu i wahanol bobl. I rai, mae’n her heicio hir i gwblhau’r 870 milltir i gyd; i rai, mae’r llwybr ar gyfer mynd â’r ci am dro’n ddyddiol; ac i eraill, mae’n lle heddychlon i ddianc rhag y cyfan.

“Y naill ffordd neu’r llall, mae’n gwneud yr holl daenlenni Excel yn werth chweil pan wela’ i sylwadau positif am y llwybr ar ein sianeli cymdeithasol. Neu pan fyddaf yn dianc o’r gliniadur ac yn cerdded y llwybr fy hun (achlysuron prin ond braf!) ac yn cwrdd â phobl ar y llwybr, sydd wrthi’n mwynhau eu taith gerdded. Rwy’n cerdded i ffwrdd yn teimlo’n ffodus iawn i fod yn gweithio ar ased mor wych yng Nghymru gyda thîm mor wych.

“Pen-blwydd hapus i Lwybr Arfordir Cymru yn 10 oed! Dathlwn y dengmlwyddiant, ac edrych ymlaen at lawer, llawer mwy!”

Straeon o’r llwybr

Caiff miloedd o bobol eu denu i gerdded Llwybr Arfordir Cymru bob blwyddyn i fwynhau’r tirwedd, y bywyd gwyllt a diwylliant amrywiol Cymru.

Dyma rai o’u straeon ysbrydoledig.

Y person cyntaf i gwblhau’r llwybr cyfan

Yn arloeswraig, Arry Beresford Webb (Cain), oedd y person cyntaf i gwblhau’r llwybr, gan orffen ei siwrnai arwrol yn lansiad y llwybr yn ôl yn 2012. Arferai Arry weithio i CCGC ac yna CNC mewn rôl iechyd.

“Fe redais i Lwybr Arfordir Cymru i gyd, pob un o’r 870 o filltiroedd, a’r 176 o filltiroedd o Lwybr Clawdd Offa hefyd, mewn 41 diwrnod – dwi’n falch o allu dweud ‘mod i wedi rhedeg o amgylch perimedr cyfan fy ngwlad – rhywbeth dwi mor falch o fod wedi’i gyflawni! Roedd hyn yr un faint â 40 marathon un ar ôl y llall, i gyd â’r nod o godi £25,000 ar gyfer Canolfan Ganser Felindre a Sefydliad Gozo CCU.

“Roedd yr her hon yn bwysig iawn i mi’n bersonol, ac fe roddodd fy nyfalbarhad a fy mhendantrwydd ar brawf nifer o weithiau o achos natur yr her a fy nghysylltiad i â gwahanol lefydd ar hyd y llwybr.

“Ro’n i’n arbennig o hoff o Ynys Môn a Sir Benfro, ond mae cymaint o amrywiaeth ar hyd y llwybr, mae’n anodd dewis un lle arbennig. Fe wnes i gwrdd â chymaint o bobol garedig a chefnogol yn ystod fy her – llawer ohonyn nhw yn byw yn agos at y llwybr ac yn teimlo balchder go iawn am hynny. Ar hyd fy nhaith, wrth i mi redeg ar hyd y llwybrau mewn llefydd cyfarwydd a rhai mae gen i atgofion plentyndod melys ohonyn nhw, gallwn i deimlo’r un synnwyr o falchder o fod yn rhan o rywbeth arbennig yma yng Nghymru.

“Dwi’n teimlo’n freintiedig i fod y person cyntaf i brofi’r amrywiaeth sydd ar hyd Llwybr Arfordir Cymru. Byddwn i wrth fy modd yn ei wneud eto, ond yn arafach, fel mod i’n gallu stopio a mwynhau’r llefydd y ces i ddim ond cipolwg ohonyn nhw!”

Teyrnged bersonol

Dave Quarrell, sy’n byw ger Cas-gwent, oedd y person cyntaf i gerdded Llwybr Arfordir Cymru:

“Fy nhad, Gerry, oedd pennaeth Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad ar gyfer Llywodraeth Cymru ac roedd ganddo uwch rôl wrth gynllunio’r llwybr. Bu farw o gancr yn 2011 heb weld gorffen y prosiect. Roedd Dad wedi’i fagu ym Mannau Brycheiniog ac yn gerddwr brwd, felly roedd hwn yn brosiect roedd ganddo ddiddordeb mawr ynddo. Dyna pam roedd cerdded am 72 diwrnod, gan ddechrau o’r seremoni agoriadol ym Mae Caerdydd, hefyd yn bersonol iawn i fi. Roedd yn deyrnged i Dad ac yn fodd o godi arian i Ymchwil Cancr.

“Swydd y tu ôl i ddesg sydd gen i a doeddwn i ddim yn frwd am chwaraeon yn yr ysgol, felly roedd yr wythnos neu ddwy gyntaf yn anodd. Rwy’n cofio cerdded o Fae Caerdydd ac wynebu llethr serth ym Mhenarth. Bu’n rhaid i fi ail bacio fy mag mewn arosfa bws ar y top.

“Roedd ambell brofiad digon emosiynol i fi ar hyd y llwybr a mannau lle’r oeddwn ar fy mhen fy hun gyda fy meddyliau. Erbyn hyn rwy’n sylweddoli pa mor lwcus oeddwn i i gael amser a lle i brosesu fy ngalar o golli rhiant. Mae rhywbeth yn hynod sylfaenol a chadarn am roi un troed o flaen y llall. Rwy’n gwybod na fyddai Dad yn gwastraffu geiriau o fy ngweld i’n cwblhau’r daith, gan ddweud rhywbeth fel ‘ymdrech dda’. Ond rwy’n gwybod y byddai wedi bod yn hynod falch.”

Cerdded yn hyderus

Zoe Langley-Wathen, sy’n byw yn Sir Fynwy, yw sylfaenydd a chyflwynydd y podlediad Head Right Out. Zoe oedd y ferch gyntaf i gerdded y llwybr:

“Treuliais 43 diwrnod yn cerdded yr 870 milltir. Newidiodd fy mywyd. Dechreuais sylweddoli wrth gerdded y Llwybr nad dim ond am natur a bywyd gwyllt nac amser i fyfyrio oedd y daith. Ro’n i’n gwthio fy hun. Arweiniodd at lansio HeadRightOut er mwyn annog merched i gysylltu â’r byd mawr y tu allan a herio’u hunain. Wedi’r cwbl, mae gan bawb ei Everest ei hun.

“Gall merched golli’u hyder wrth iddyn nhw gyrraedd y menopos, ond ymarfer corff yw’r allwedd i deimlo’n well o ystyried yr effaith cadarnhaol mae bod y tu allan yn ei gael ar ein lles. Cyrhaeddais nôl ar ôl gorffen y Llwybr yn 2012 gan deimlo’n fwy heini’n gorfforol ond hefyd yn feddyliol iach. Byddwn nawr yn annog bob merch i ddefnyddio anturiaethau awyr agored i gadw’u pennau’n iach.

“Dylai merched sy’n wynebu diwedd y mislif fod yn hyderus, yn gwthio’u hunain i wneud pethau na fydden nhw’n eu gwneud fel arfer. Mae Llwybr Arfordir Cymru yn gyflwyniad ardderchog i deithiau cerdded pellter hir ac yn ffordd ardderchog o ddechrau.”

Y flwyddyn orau erioed

Will Renwick, Golygydd y cylchhgrawn ar-lein Outdoors Magic oedd y person ieuengaf i gerdded y llwybr – pan oedd yn 22 mlwydd oed.

“Ro’n i’n cerdded y Camino de Santiago yn Sbaen pan ddarllenais am agor Llwybr Arfordir Cymru. Wedi fy ngeni yn Y Barri, dw i wedi bod wrth fy modd â thirwedd Cymru erioed ac roedd y Camino wedi tanio fy nheimladau. Felly dyma adael gartref yn 2013, gan gymryd blwyddyn i ffwrdd o’r brifysgol, a’i throi hi am yr arfordir agosaf ataf sef Aberddawan. Sylweddolais, pe gallwn gwblhau’r gylchdaith y byddwn nôl yno i ddathlu gydag ambell botel o gwrw yn y dafarn leol, sef y Blue Anchor, 63 diwrnod yn ddiweddarach, a dyna fel y bu.

“Mae rhywbeth hynod fyfyriol ynglŷn â cherdded pellter ar eich pen eich hun. Mae’n dda i’r enaid. Dysgodd cerdded Llwybr Arfordir Cymru fi i fod yn hapus yn fy nghwmni fy hunan. Ond des i ar draws nifer o ddieithriaid caredig hefyd. Er enghraifft, pobl a welais mewn tafarndai a siopau ar hyd y daith fyddai’n cynnig soffa i fi gysgu arni dros nos, neu’n fy ngwahodd draw am frecwast y bore wedyn.

“Ac mewn gwirionedd, i Lwybr Arfordir Cymru y mae’r diolch am drywydd fy ngyrfa wrth i fi flogio a thrydar fy ffordd o’i gwmpas. Arweiniodd hynny at swydd ysgrifennu ar gylchgrawn awyr agored. Efallai mai gwaith yw hynny ar hyn o bryd, ond mae fy awch anturus a daniwyd gan Gymru yno o hyd.

“Dwi’n meddwl fod pobl ifanc yn dechrau sylweddoli fod antur i’w gael o fewn ein gwlad ein hunain. Mae’r cyfryngau cymdeithasol wedi bod yn hybu hynny yn dilyn y pandemig. Ond mae’n bwysig i ni gyd gofio fod angen i ni fod yn warcheidwaid i’r amgylchedd naturiol.”

Beth sy’n newydd ar gyfer 2022

Mae gan dîm Llwybr Arfordir Cymru raglen lawn dop o ddigwyddiadau a chynnyrch i ddathlu’r dengmlwyddiant. Bydd hyn yn cynnwys:

  • adnoddau a chyfleoedd newydd i fwy o bobol ifanc gael cerdded y llwybr;
  • amrywiaeth newydd o nwyddau ar gyfer cerddwyr i nodi’r dengmlwyddiant;
  • gwyliau cerdded, gweithgareddau diwylliannol a digwyddiadau amgylcheddol ar hyd arfordir Cymru drwy gydol y flwyddyn;
  • Cymru – y wlad sy’n ail-lenwi eich potel ddŵr! Mae dros 600 o leoliadau ar hyd llwybr yr arfordir, lle gallwch ail-lenwi eich potel ddŵr;
  • cyhoeddi llyfr taith Cymraeg ar gyfer Penrhyn Llŷn;
  • 20 taflen gerdded newydd ar thema ddiwylliannol i’w rhyddhau;
  • ap i alluogi cerddwyr i dracio’u cynnydd ar hyd Llwybr Arfordir Cymru ar eu ffôn symudol;
  • dadorchuddio darn celf (Dyfodol) Llwybr Arfordir Cymru mewn ymateb i newid hinsawdd.

 

Ydych chi wedi cerdded Llwybr Arfordir Cymru?

Os ydych wedi cerdded y llwybr ac mae gennych eich atgofion eich hun i’w rhannu gyda chydweithwyr, ymunwch â’r sgwrs ar Yammer heddiw a helpu i ddathlu dengmlwyddiant y llwybr.

Os nad ydych eto wedi rhoi cynnig ar y llwybr ond yn teimlo eich bod wedi’ch ysbrydoli i ddarganfod mwy, ewch draw i’n gwefan i ddarllen blog Eve Nicholson am y llwybr, neu ewch i wefan Llwybr Arfordir Cymru.