Mae Arwyn ‘Herald’ Roberts wedi gwireddu ei uchelgais o gael ei ethol i gynrychioli ward Tryfan ar Gyngor Gwynedd.

Mae’r ward yn cwmpasu pentrefi Rhosgadfan, Y Fron a Carmel, sef yr ardal mae’n ei disgrifio fel ei “gynefin”.

Derbyniodd y gŵr oedd yn sefyll dros Blaid Cymru 315 o bleidleisiau, a chafodd ei ethol gyda mwyafrif iach o 179.

Wrth siarad â golwg360 ym mis Mawrth, dywedodd ei fod yn awyddus i “roi yn ôl i’r gymuned dw i wedi cael fy magu ac yn byw ynddi”.

“Yng nghyfnod y clo, ro’n i’n cerdded lot fawr o gwmpas ardal Rhosgadfan, Carmel a’r Fron – dyna oedd fy nhaith gerdded i,” meddai.

“Wrth fynd, ro’n i’n gofyn i fy hun, pam bod hwn heb gael ei wneud? Pam bod llall ddim wedi cael ei wneud? Pam dydyn nhw heb wneud rhywbeth am hwn?

“Ac mae hynna wedi bod am flwyddyn gyfan ohonof i’n cerdded drwy gyfnod y clo.

“Wedyn mi gymerais i ymddeoliad cynnar ar ôl 45 mlynedd, oherwydd dw i’n dioddef hefyd efo clefyd siwgr a doeddwn i methu gwneud lot o bethau yn ystod y cyfnod clo oherwydd hynny.

“Felly ar ôl penderfynu mod i’n rhoi’r gorau iddi, dyma fi’n deud, ‘Wel, mae gen i amser ar fy nwylo, a be’ well fedra i wneud ydi rhoi be’ dw i wedi ddysgu yn y 45 mlynedd yn ôl i’r gymuned dw i wedi cael fy magu a byw ynddi’.

“Pan o’n i’n gweithio efo’r Herald a’r Daily Post, mi oeddwn i wedi bod yn helpu pobol am 45 mlynedd ac wedyn drwy’r papur, cysylltu efo’r Cyngor a sortio problemau pobol allan.

“A rŵan, os ydw i’n llwyddiannus, bydda i’n cael ei wneud o ar liwt fy hun.

“Dw i’n berson pobol, a pam ddim rhoi be’ dw i wedi’i ddysgu yn ôl i’r gymuned?

“Dw i wedi cael fy magu yn Rhosgadfan, roedd fy Mam a ‘Nhad yn byw yma, roedd teulu ‘Nhad yn dod o’r Fron a Chapel Bryn, sydd yn y ward.

“Felly fy nghynefin i ydi’r ward.”

‘Trio fy ngorau’

“Dw i ddim yn mynd i addo llawer o ddim byd, ond yr un peth dw i’n ei addo ydi y baswn i’n trio fy ngorau i wasanaethu pobol yr ardal,” meddai wedyn.

“Yr hyn dw i eisiau ei wneud ydi siarad efo trigolion a gofyn be’ sydd angen ei wneud yn y tair ardal, gweld be’ mae pobl isio.

“Mae gofyn i unrhyw un, dim ots pa swydd, os wyt ti’n gynghorydd, yn ohebydd neu beth bynnag, mae gofyn i ti adnabod y bobol cyn i ti fynd ymlaen i nunlle.

“Felly dyna ydi’r peth cyntaf fydda i yn ei wneud, siarad efo pobol yr ardal a gweld beth sy’n eu poeni nhw.”