Mae’r ffaith fod dyn sy’n byw yn Sir Caer yn ymgeisydd dros y Ceidwadwyr yn ward Llanbedrog a Mynytho yn enghraifft o broblem ehangach sy’n effeithio Pen Llŷn, yn ôl mudiad Hawl i Fyw Adra.

Mae John Grant Fifield yn cystadlu’r ward yn erbyn yr ymgeisydd annibynnol Angela Ann Russell, gyda’r enillydd yn hawlio lle ar y cyngor sir.

Mae’n debyg bod modd i’r gŵr o Sir Caer sefyll fel ymgeisydd oherwydd bod ganddo eiddo yn yr ardal.

 

Yn ôl Catrin Roberts, o fudiad Hawl i Fyw Adra, mae’r sefyllfa yn gosod cynsail peryglus i’r ardal.

“Mae o wedi codi dipyn o wrychyn yn lleol, o fewn rhai pobol felly,” meddai wrth golwg360.

“Dwyt ti ddim eisiau gosod cynsail fel yna, nag oes, achos dw i’n meddwl ei fod i wneud efo’r ffaith, os wyt ti’n talu treth ar ail dŷ, yna mae ganddyn nhw hawl i fwrw pleidlais, ac os oes ganddyn nhw’r hawl i fwrw pleidlais, am wn i mae ganddyn nhw’r hawl i ymgeisio yn y ward hefyd.

“Dw i ddim yn cytuno efo hynny, ond dyna ydi’r rheolau dw i’n meddwl.

“Dydy o ddim yn gwneud synnwyr nac ydi, rwyt ti angen rhywun sy’n adnabod y bobol ac yn adnabod yr ardal, on’d oes.

“Os ydi hyn yn dechrau mynd yn arferiad mae hi’n mynd yn fain arnom ni go iawn.

“Rwyt ti’n gallu tybio beth fydd blaenoriaeth person fel yna, a dydy o ddim yn mynd i fod y gymuned leol, Cymreictod, gwarchod yr iaith, a materion yn ymwneud â’r gymdeithas.

“Mae’r pethau yna yn mynd i fod yn bell i lawr y rhestr, os ydyn nhw ar y rhestr o gwbl.”

‘Cymdeithas yn newid’

“Mae o’n dangos sut mae’r gymdeithas yn newid pan mae gen ti ymgeisydd Ceidwadol o Sir Caer sydd â digon o hyder i roi ei enw ymlaen i sefyll mewn ardal ym Mhen Llŷn,” meddai wedyn.

“Ond mae yna gymaint o fewnfudwyr a gymaint o ail gartrefi yma, on’d oes.

“Mae hi’n broblem aruthrol ac mae’r gofid yma ers degawdau, ond rŵan mae o’n weledol, rŵan mae pobol yn ei weld o’n taro, yn enwedig ers y cyfnod Covid yma.

“Mae prisiau tai wedi saethu i fyny mor erchyll a dydy pobol methu fforddio tai yn eu hardaloedd eu hunain.

“Mae pobol ifanc yn gorfod byw mewn static caravans ar dir eu rhieni ac ati.

“Gwaeth eith o, ti’n gwybod, dydy o ddim yn mynd i wella nac ydi.”

‘Sarhaus’

Yn y cyfamser, mae Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor a Meirionnydd, yn credu bod y sefyllfa yn un “sarhaus”.

“Pan mae gennych chi rywun yn sefyll yn Llanbedrog a Mynytho, dw i’n meddwl ei fod o’n gwbl sarhaus,” meddai wrth golwg360.

“Mae’r ffaith bod gan rywun sydd ag ail gartref yr un hawl i ddylanwadu ar bolisïau’r cyngor sir â’r bobol sy’n byw yn yr ardal yn llawn amser yn dangos bod y traddodiad gwleidyddol Prydeinig wedi’i seilio ar y ffaith, os oes gen ti eiddo, rwyt ti’n cyfri ac os oes gen ti ddim eiddo, dwyt ti ddim yn cyfri.”

Fodd bynnag, doedd gan Blaid Cymru ddim ymgeisydd yn y ward eleni, ond nid diffyg ymdrech gan y Blaid wnaeth achosi hynny, yn ôl Liz Saville Roberts.

“Rydan ni wedi ceisio cael ymgeiswyr ym mhob un ward ac weithiau mae yna wardiau lle, er gwaethaf pob ymdrech, dydych chi ddim yn llwyddo i gael neb i sefyll yna,” meddai.

“Mae gennym ni rai pobol yn sefyll mewn rhai seddi doedd gennym ni ddim o’r blaen ac eraill lle dydyn ni ddim wedi llwyddo i gael y tro yma.”

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi gwrthod gwneud sylw.