O gabanau bugeiliaid i chalets, o bodiau glampio i lety gwyliau, mae ffermwyr a pherchnogion tai yn Sir Gaerfyrddin yn ceisio elwa ar dwf twristiaeth yn y gorllewin.

O fewn wythnos yn unig, mae pum cais cynllunio wedi’u cyflwyno i’r Cyngor Sir, ac mae penderfyniadau wedi’u gwneud ynghylch tri chynllun arall, ond cafodd dau eu gwrthod.

Mae twristiaeth ar gynnydd yng Nghymru ers i gyfyngiadau Covid olygu llai o deithio tramor.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, cafodd £6bn ei wario ar deithiau twristaidd yng Nghymru yn 2019, cyn i’r pandemig daro, ac mae oddeutu 14% o 34,000 o ffermydd Cymru wedi ychwanegu rhyw elfen dwristaidd – hunanarlwyo yn bennaf.

‘Rhywbeth eithaf mawr’

Yn ôl Suzy Davies, cadeirydd y Gynghrair Dwristiaeth, mae’r sector twristiaeth yn un o’r cyflogwyr uniongyrchol ac anuniongyrchol yng Nghymru.

“Mae’n rywbeth eithaf mawr,” meddai.

Mae’r cynlluniau bach sydd wedi’u cynnig yn Sir Gaerfyrddin dros yr wythnos ddiwethaf yn cynnwys tri chaban bugeiliaid ar fferm Beili Glas rhwng Caerfyrddin a Llandeilo, fel rhan o fenter newydd o’r enw Copper Hill Huts.

Byddai’n golygu bod y perchnogion yn arallgyfeirio, yn ôl cynllun busnes a gafodd ei gyflwyno i’r adran gynllunio, a fyddai’n helpu i gynnal dichonolrwydd tymor hir y fferm eidion a llaeth.

Byddai’r cabanau’n cynnig llety gwyliau drwy gydol y flwyddyn ac yn cynnwys cegin, ystafell ymolchi en-suite, ardal i gael barbeciw, llosgwr pren, a thwba twym neu fath copr.

Yn nes at Landeilo, ger pentref Cwmdu, mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer tri chaban drwy gydol y flwyddyn at ddefnydd pobol ar eu gwyliau.

Yn ôl datganiad dylunio a hygyrchedd a gafodd ei gyflwyno ar ran Brett Sloman, sy’n gwneud y cais, bydd y cynnig o fudd i fusnesau cyfagos ac yn creu un swydd lawn amser ac un swydd ran amser, a byddai’r cabanau ar wahân ac yn cynnwys ardal eistedd ar wahân i bob un.

“Y syniad ar gyfer pob caban yw eu bod nhw wedi’u hynysu gymaint â phosib oddi wrth rai eraill er mwyn rhoi gwir synnwyr o heddwch a llonyddwch,” meddai.

Yng ngogledd y sir, ger Pencader, mae cynlluniau ar y gweill i droi tŷ pen coeden teuluol yn llety gwyliau drwy gydol y flwyddyn, ac mae ymchwil y farchnad a gafodd ei gyflwyno ar ran y ceiswyr wedi dod i’r casgliad bod y cynnig yn ddichonadwy ac y byddai’n ateb y galw.

Yn y cyfamser, mae cynlluniau ar gyfer podiau glampio ar fferm Birds Hill, ryw filltir o Landeilo, fel rhan o gynllun arallgyfeirio.

Ac mae cais ar gyfer llety Airbnb yn Ystradowen, yng ngogledd-ddwyrain y sir, a fyddai’n gofyn bod adeilad allanol un llawr yn yr eiddo yn cael ei ddymchwel.

Yn ystod yr wythnos pan gafodd y cynlluniau hyn eu cyflwyno, fe wnaeth pwyllgor cynllunio’r cyngor gymeradwyo cabanau bugeiliaid ar Fferm Abercorran ger Talacharn ar arfordir y de, gyda nifer o amodau.

Fe wnaeth swyddogion cynllunio wrthod cais ar gyfer pum pod un neu ddau wely ar Fferm Blaenhiraeth yn Llangennech.

Mae cais arall ar gyfer tri chaban bugeiliaid ar dir yn Llandyfan ger Rhydaman hefyd wedi’i wrthod.

Fferm Abercorran

Mae Stewart John, sy’n berchen ar Fferm Abercorran gyda’i wraig Andrea, yn dweud ei fod e’n disgwyl i’r cabanau bugeiliaid sydd wedi’u cymeradwyo gan gynghorwyr fod yn barod ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Mae gan Fferm Abercorran dri bwthyn gwyliau sy’n weithredol ers 14 o flynyddoedd.

Dywed Stewart John fod yr incwm sy’n dod o arallgyfeirio yn hanfodol ar gyfer ei fferm 18 erw, yn enwedig o ystyried costau cynyddol amaeth.

“Fyddwn i ddim yn talu fy morgais hebddo,” meddai.

Yn ôl Suzy Davies o Gynghrair Dwristiaeth Cymru, mae gan siroedd sydd heb ddarpariaeth lawn y potensial i dyfu sector twristiaeth sy’n seiliedig ar fusnesau bychain a micro-fusnesau.

Ac o wneud hynny, meddai, mae yna botensial i leihau’r straen ar lefydd fel Tyddewi, Sir Benfro ac Eryri.

Dywed nad yw llety fel cabanau bugeiliaid a phodiau glampio’n golygu bod llety preswyl allan o gyrraedd pobol leol, sy’n bryder mawr ymhlith y rhai sy’n poeni am y cynnydd yn nifer yr ail gartrefi sydd ar gael ac effaith hynny ar gymunedau arfordirol a pharciau cenedlaethol.

“Dydyn nhw ddim yn amddifadu rhywun arall o rywle i fyw,” meddai.

“Maen nhw dan berchnogaeth a rheolaeth leol.

“Mae iddyn nhw effaith eilradd, sef y budd a ddaw o gynnal a chadw’n lleol, a chwmnïau glanhau, tafarnau a bwytai.”