Mae’n mynd yn dda iawn i’r Democratiaid Rhyddfrydol yn etholiadau lleol Lloegr hyd yma.

Mae’r blaid wedi ennill 58 o seddi a chipio rheolaeth o Gyngor Hull gan y Blaid Lafur, gydag ychydig dros hanner y cynghorau wedi datgan eu canlyniadau.

Ond a fydd y blaid yn llwyddo i efelychu’r llwyddiant yna yng Nghymru?

Un sy’n mawr obeithio y byddan nhw ydi arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds.

“Fe gawn ni weld beth fydd yn digwydd i’r Rhyddfrydwyr yng Nghymru,” meddai wrth golwg360.

“Mae’n bwysig cofio nad dim ond y Rhyddfrydwyr sydd wedi bod yn llwyddiannus yn Lloegr, mae’r Blaid Werdd yn gwneud yn dda hefyd.

“Felly mae’n neis gweld y pleidiau bychan yn ennill seddi.

“Ac wrth gwrs rydyn ni’n gobeithio y bydd ein plaid ni’n llwyddiannus yma yng Nghymru hefyd.

“Yr hyn roedden ni’n clywed ar y stepen ddrws oedd bod pobol wedi cael digon o’r Ceidwadwyr ac yn siomedig gyda’r hyn oedd yn digwydd yn San Steffan.

“Yng Nghymru roedd pobol yn cwyno am Lafur a chyflwr y Gwasanaeth Iechyd yma.

“Ac i ddweud y gwir, o ran Plaid Cymru, doedd yna ddim llawer o sôn am annibyniaeth y tro yma.”

‘Cam pwysig ymlaen’

Byddai canlyniadau da i’r blaid yng Nghymru yn “hwb mawr” ar ôl rhai blynyddoedd anodd, yn ôl Jane Dodds.

“Os ydyn ni’n llwyddiannus, ac fe gawn ni weld wrth gwrs, mi fydd o’n gam pwysig ymlaen,” meddai.

“Dw i’n gwybod bod y blynyddoedd i fyny at rŵan wedi bod yn anodd, felly byddai’n hwb mawr.

“Ond mae’r Rhyddfrydwyr fel arfer yn gwneud yn dda iawn yn yr etholiadau lleol.

“Rydan ni’n gweithio’n galed yn ein cymunedau ni a gobeithio y byddan ni’n llwyddiannus.”

Hyderus?

Ond wrth i ni ddisgwyl i ganlyniadau yng Nghymru ddechrau cael eu cyhoeddi, ydi Jane Dodds yn hyderus?

“Dw i ddim am ddatgelu hynny,” meddai.

“Y tro diwethaf wnes i drio darogan canlyniad oedd yn (is-etholiad) Gogledd Amwythig.

“Wes i ddweud ein bod ni wedi colli, ond fe ddaru ni ennill!

“Felly nid fi ydi’r person gorau i ofyn am ganlyniadau!”