Dydy saith ym mhob deg o bobol ddim yn credu bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwneud digon i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw, yn ôl arolwg gan y TUC.
Mae Cyngres yr Undeb Llafur yn dweud bod y cyhoedd wedi lleisio’u barn yn glir, ac maen nhw’n galw am Gyllideb Frys i geisio datrys y sefyllfa.
Mae 77% o bobol yng Nghymru’n credu nad yw Llywodraeth San Steffan wedi gwneud digon i helpu i wella’r argyfwng costau byw.
Cafodd yr arolwg ei gynnal gan Opinium wrth i bobol fwrw eu pleidlais yn yr etholiadau lleol, ac fe ddatgelodd mai 19% o bobol yn unig sy’n credu bod Boris Johnson a’i lywodraeth wedi gwneud digon i helpu pobol sy’n ei chael hi’n anodd yn sgil y cynnydd mewn costau byw.
Cafodd 2,000 o bobol eu holi, gan gynnwys 178 o bobol yng Nghymru a’r costau byw yw eu prif bryder, gyda saith ym mhob deg yn dweud mai dyma’r prif her sy’n wynebu pobol ar hyn o bryd, yn ogystal â’r Gwasanaeth Iechyd a budd-daliadau.
‘Truenus o annigonol’
Yn ôl y TUC, mae ymateb Llywodraeth y Deyrnas Unedig i’r biliau a phrisiau ynni’n codi’n “druenus o annigonol”.
Maen nhw’n galw ar y Canghellor Rishi Sunak i ddychwelyd i’r senedd gyda Chyllideb Frys i helpu pobol i ymdopi â’r sefyllfa.
Maen nhw eisiau i’r Llywodraeth gyflwyno treth ffawdelw ar elw nwy ac olew er mwyn ariannu grantiau ynni, rhoi hwb i’r isafswm cyflog, pensiynau a Chredyd Cynhwysol, a chydweithio ag undebau a chyflogwyr i godi cyflogau ar draws yr economi.
“Dylai fod gan bawb ddigon i dalu eu biliau,” meddai Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru.
“Ond mae blynyddoedd o aros yn yr unfan wedi gadael miliynau o bobol yn wynebu biliau a phrisiau cynyddol.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud popeth yn eu gallu i gau rhai o’r bylchau ac i gefnogi pobol lle bynnag maen nhw’n gallu.
“Ond mae’r cyfrifoldeb yn bennaf yn nwylo Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac mae awgrym gweinidogion y Deyrnas Unedig y dylai pobol brynu brandiau rhad yn arwydd gofidus o’r ffaith fod popeth mor bell o’u gafael.
“Ar ddiwrnod yr etholiadau lleol heddiw, mae’r cyhoedd wedi anfon galwad bryderus.
“Maen nhw eisiau i’r llywodraeth wneud mwy i helpu teuluoedd i oroesi’r argyfwng costau byw hwn.
“Rhaid i’r Canghellor ddychwelyd i’r senedd gyda Chyllideb Frys, i helpu gyda biliau ynni a chodi’r isafswm cyflog a Chredyd Cynhwysol.
“Fwya’ fydd gweinidogion yn oedi, fwyaf o niwed fydd yn cael ei wneud.”