Wel, mae’r ymgyrchu drosodd, y pleidleisiau bellach yn cael eu cyfrif ac ymhen rhai oriau bydd gennym well syniad o sut mae tirlun gwleidyddiaeth leol Cymru yn edrych.

Un blaid sy’n gobeithio gwneud cynnydd yw Plaid Cymru, ac wrth i’r pleidleisio ddirwyn i ben, gohebydd Seneddol golwg360 fu’n sgwrsio gydag arweinydd y blaid yn San Steffan, Liz Saville Roberts.

Ond yn gyntaf, beth am ychydig o gefndir?

Llwyddodd Plaid Cymru i gipio 38 o seddi o dan arweiniad Leanne Wood yn etholiadau lleol 2017, ac maen nhw’n arwain pedwar cyngor ar hyn o bryd.

Roedd canlyniad y Blaid yn etholiadau’r Senedd fis Mai diwethaf, ar y llaw arall, yn un siomedig wrth iddyn nhw ennill un sedd ychwanegol yn unig, a dod â chyfanswm eu haelodau ym Mae Caerdydd i 13.

Yn y cyfamser, llwyddodd y Ceidwadwyr Cymreig i sefydlu eu hunain fel yr ail blaid fwyaf yn y Senedd gydag 16 o seddi, oedd yn gynnydd o bum sedd.

Fodd bynnag, cafodd y canlyniad siomedig hwnnw ei ddilyn gan gyhoeddiad ym mis Tachwedd fod Llafur a Phlaid Cymru wedi llofnodi cytundeb cydweithio.

Mae’r cytundeb hwnnw yn cwmpasu 46 o feysydd polisi, sy’n cynnwys ymestyn prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd, creu gwasanaeth gofal cenedlaethol, a chamau i fynd i’r afael â’r argyfwng ail gartrefi.

“Gwaed newydd”

Yng Ngwynedd mae Liz Saville Roberts wedi bod yn canfasio drwy gydol yr ymgyrch, ac mae hi’n falch iawn fod gan y Blaid “wynebau tipyn yn iau” yn ymgeisio eleni.

Dywed ei bod yn “mawr obeithio” y bydd Plaid Cymru yn dal eu gafael ar yr holl gynghorau sir y maen nhw’n eu rheoli, gan gynnwys Gwynedd.

“Dw i wedi bod yn canolbwyntio ar Wynedd, sy’n wahanol i ardaloedd eraill,” meddai wrth golwg360.

“Felly dw i’n hyderus yng Ngwynedd, dw i’n meddwl y bydd gennym ni wynebau newydd i mewn yn sicr a dw i’n meddwl y bydd gennym ni wynebau tipyn yn iau i mewn hefyd.

“Mi fydd hynny yn newyddion arbennig o dda i ni fel plaid ac i’r sir bod yna bobol sydd wirioneddol yn waed newydd ac sy’n barod i gyflwyno syniadau newydd.

“Y tu hwnt i Wynedd, does gen i ddim profiad ar y llawr.

“Mae rhywun mor brysur mewn un ardal rwyt ti’n anghofio am ardaloedd eraill.

“Mi wnaethon ni’n dda iawn yn 2017 yn y siroedd ddaru ni ennill, ac yn amlwg dw i’n mawr obeithio y byddwn ni’n eu dal nhw y tro hwn.

“Nes ein bod ni’n mynd trwy’r etholiadau a gweld pa bleidiau sydd ar y blaen yn lle, a phwy sy’n gallu cydweithio efo pwy mae hi’n anodd rhagweld yn union sut mae pethau’n mynd i fod.

“Ond rydw i’n mawr obeithio y byddwn ni’n cadw gafael ar y pedair sir lle’r ydyn ni mewn rheolaeth.

“Dyma’r etholiad cyntaf lle dydy rhywun ddim yn simsanu a ddyla ni fod yn cnocio drysau ac ati.

“Wrth gwrs mae Covid yn dal i fod o gwmpas ac rydw i wedi cael ambell un yn dweud ‘O, peidiwch â dod yn ddim nes, mae gen i Covid’.

“Ond mae’n well na llynedd pan oedd rhywun yn meddwl a ddylwn i fod yn gwneud hyn?

“Felly mae’n sicr yn teimlo o fewn gwleidyddiaeth ein bod ni wedi cyrraedd rhyw drobwynt.”

Gwleidyddiaeth “unigryw” Ynys Môn

Un sir y mae Liz Saville Roberts yn awyddus i weld y blaid yn cynyddu ei nifer o gynghorwyr ydi Ynys Môn – rhywle y mae hi’n ddweud sydd â gwleidyddiaeth “unigryw”.

Plaid Cymru yw’r blaid fwyaf ar y cyngor ar hyn o bryd, gyda’r bleidwraig Llinos Medi yn arweinydd ar y cyngor.

Er hynny, ffolineb fyddai ceisio darogan sut bydd yr ynys yn pleidleisio – fel mae sawl un wedi’i ddarganfod o’r blaen!

“Mi fyddai’n wych petaem ni’n gallu cryfhau ein rheolaeth ni a’r hawl i lywodraethu ar Ynys Môn, does dim dwywaith am hynny,” meddai Liz Saville Roberts.

“Yr un peth faswn i’n ei ddweud ydi bod Llinos Medi, arweinydd y cyngor, yn rhywun i’w wylio at y dyfodol.

“Rydan ni’n sôn am ddynes o arweinydd sy’n alluog dros ben felly dwi’n mawr obeithio y bydd hi’n arwain yn y fan yna.”

Troi cefn ar wleidyddiaeth “traddodiadol Prydeinig”

Yn naturiol, mae’r cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llafur Cymru wedi cael cryn dipyn o sylw yn ystod yr ymgyrch.

Wrth siarad â Golwg ym mis Mawrth, roedd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn darogan mai gwneud niwed i Blaid Cymru’n etholiadol fyddai’r cytundeb.

“Dydy’r blaid leiaf mewn clymbleidiau neu gytundebau cydweithio fel hyn ddim yn dueddol o wneud cystal pan ddaw hi yn adeg etholiad,” meddai’r gŵr sy’n cynrychioli Canol De Cymru.

Fodd bynnag, mae Liz Saville Roberts yn credu ei bod hi’n bwysig myfyrio ar y math o wleidyddiaeth sydd ar waith yng Nghymru o’i gymharu â’r “dull traddodiadol Prydeinig”.

“Mae’n bwysig pwyso a mesur fel gwleidydd,” meddai.

“Ar yr un llaw rydyn ni mewn cyd-destun gwleidyddol Prydeinig sy’n ystyried gwleidyddiaeth yn nhermau mae’r enillydd yn ennill y cyfan ac mae’r sawl sy’n colli yn colli’r cyfan – winner takes it all.

“Yr hyn rydyn ni wedi’i weld yn dechrau datblygu o ran y Blaid ydi’r cwestiwn: ‘Os oes gennym ni seddi, polisïau a gwerthoedd, sut ydyn ni’n mynd i wireddu’r rheiny?’

“Ac mi rydyn ni gyda’r cytundeb cydweithio wedi dod o hyd i ddull i wireddu’r polisïau hynny.

“Nawr, nid dyna’r dull traddodiadol lle mae’n rhaid i chi naill ai fod mewn pŵer absoliwt, neu rydyn chi’n eistedd ar y sidelines yn cwyno ac yn pigo tyllau yn yr hyn mae’r llywodraeth yn ei wneud.

“Dydyn ni ddim yn dilyn y dull traddodiadol Prydeinig yna.

“Yng Nghymru, lle mae modd i chi ddod at eich gilydd er mwyn gwireddu polisi a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobol rydych chi’n ffeindio ffyrdd o wneud hynny yn hytrach na ffeindio ffyrdd o rwystro eraill rhag gwneud rhywbeth sy’n debyg, neu rwystro er mwyn rhwystro.

“Dw i’n gweld hynny yn digwydd yn San Steffan.

“Os nad ydych chi’n Geidwadwr rŵan hyn, does dim ots am eich etholwyr chi, am eich ardal chi, Ceidwadwyr sy’n rheoli ac i’r Ceidwadwyr mae’r cyfan yn mynd, ac mae hynna yn afiach.

“Mae’r anogaeth yna i gydweithio yn hytrach na dathlu sut yr ydyn ni’n lladd ar ein gilydd yn rhywbeth iach iawn.”

Targedu pleidleiswyr 16 ac 17 oed

Hwn yw’r tro cyntaf erioed y mae pobol 16 ac 17 oed yn cael pleidleisio mewn etholiadau lleol yng Nghymru, demograffeg y mae Liz Saville Roberts “yn sicr” y bydd Plaid Cymru yn cael cefnogaeth ganddi.

“Yr hyn sy’n her i bob plaid wleidyddol ydi sut i gyrraedd etholwyr newydd, oherwydd dw i ddim yn siŵr bod ni fel gwleidyddion yn siŵr iawn sut i wneud hynny,” meddai.

“Ond mi fyddwn i’n tybio y bydd unrhyw blaid sy’n llwyddo i dorri drwyddo gyda’r bobol iau yn amlwg yn creu diddordeb mewn gwleidyddiaeth sydd ddim ond yn beth da.

“Fe gawn ni weld faint o’r ganran sy’n troi allan a fyddwn i ddim yn synnu pe bai hynny yn amrywio’n sylweddol o ardal i ardal.

“Fe fydd hi yn ddiddorol gweld faint (o bobol ifanc) fydd yn troi allan, ac un o’r pethau dw i’n gobeithio mae pobol ifanc yn meddwl amdano fo ydy sut mae’r hyn mae darpar gynghorydd wedi ymrwymo i wneud yn effeithio’n uniongyrchol arnoch chi.

“Mae hynny’n cynnwys o ran addysg, o ran costau teithio i’r ysgol neu’r coleg, a faint rydych chi’n ei gael gan y Lwfans Cynhaliaeth Addysg.

“Mae yna bethau sy’n gwneud gwahaniaeth iddyn nhw rŵan hyn ac mae’n bwysig eu bod nhw’n dal y bobol sy’n cael eu hethol i’ch cynrychioli chi i gyfrif.

“Ac wrth gwrs, mae cael to iau o gynghorwyr yn mynd i shifftio beth sydd o bwys i gynghorau achos dw i yn teimlo bod yr hen draddodiad o ddynion sydd wedi ymddeol fel mwyafrif o gynghorwyr yn dda iawn am gynrychioli buddiannau dynion wedi ymddeol.

“Mae buddiannau pobol eraill angen cael eu cynrychioli hefyd.”