Mae Mark Drakeford, Prif Weinidog wedi cadarnhau y bydd y gofyniad cyfreithiol i wisgo mygydau mewn lleoliadau iechyd a gofal yn aros mewn grym.
Daw hyn yn dilyn adolygiad tair wythnos diweddaraf Llywodraeth Cymru o’r rheoliadau coronafeirws.
Er bod y sefyllfa iechyd yn gwella, rhybuddiodd y Prif Weinidog bod cyfraddau achosion Covid-19 yn parhau i fod yn uchel.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn annog pobol i ddilyn rhestr o gamau i leihau lledaeniad y feirws.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- Hunanynysu os ydych yn sâl neu wedi cael prawf Covid-19 positif.
- Gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau prysur o dan do.
- Cyfarfod ag eraill yn yr awyr agored os yw’n bosibl.
- Awyru mannau dan do a golchi dwylo’n rheolaidd.
“Nid yw’r pandemig ar ben”
“Nid yw’r pandemig ar ben ond rydym yn gweld rhai arwyddion calonogol bod y lefel uchel o heintiadau ar draws Cymru’n gostwng,” meddai Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru.
“Mae camau y gall pob un ohonom eu cymryd i ddiogelu ein hunain tra bod coronafeirws ar led, a lleihau lledaeniad y feirws ymhellach.
“Mae hyn yn arbennig o berthnasol yn y mannau lle mae’r bobol fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn cael eu trin, ac yn byw.
“Dyma pam y byddwn yn cadw’r gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol.
“Yn fwy cyffredinol, mae’n bwysig iawn eich bod yn sicrhau eich bod wedi cael eich brechlynnau Covid a phigiad atgyfnerthu’r gwanwyn – os ydych yn gymwys. Os oes gennych symptomau Covid neu os ydych wedi cael prawf Covid positif, arhoswch gartref a helpu i dorri trosglwyddiad yr haint.
“Gyda’n gilydd, gallwn ddiogelu ein gilydd a diogelu Cymru.”
“Anghydraddoldebau iechyd”
Er bod Plaid Cymru yn croesawu’r cyhoeddiad bod yn rhaid parhau i wisgo gorchuddion wyneb, maen nhw wedi galw ar Lywodraeth Cymru i “i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau iechyd sy’n parhau ledled Cymru”.
“Mae’r newyddion bod yn rhaid parhau i wisgo gorchuddion wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal yn adlewyrchu’r ffaith nad yw coronafeirws wedi diflannu,” meddai llefarydd Plaid Cymru dros iechyd a gofal, Rhun ap Iorwerth AoS.
“Er bod lleoliadau iechyd a gofal yn parhau i fod o dan bwysau, rhaid inni barhau i fod yn wyliadwrus a phwysleisio’r angen i atal y feirws.
“Mae hyn yn bwysig i gynlluniau adfer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, er mai’r hyn sydd ei angen arnom mewn gwirionedd yw ymdrech ar y cyd i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau iechyd sy’n parhau ledled Cymru.
“Dro ar ôl tro mae rhai cymunedau, rhai grwpiau, a rhai unigolion yn dioddef mwy nag eraill – roedd hyn yn wir yn ystod y pandemig. Ond dydy hynny ddim yn anochel.
“Mae angen inni sicrhau bod y bwlch iechyd, sy’n rhy aml yn adlewyrchu’r bwlch cyfoeth yn ein cymdeithas, yn cau.”
Galw am “ddileu cyfreithiau coronafeirws”
Dywedodd llefarydd Iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George AoS: “Rydym wedi bod yn glir y dylid dileu cyfreithiau coronafeirws brys oherwydd mae’r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd wedi gwella’n sylweddol, a gall byrddau iechyd ddefnyddio eu rheolau eu hunain ar fygydau.
“Mae’n hen bryd i’r Llywodraeth Lafur stopio osgoi craffu a lansio ymchwiliad cyhoeddus sy’n benodol i Gymru i’r penderfyniadau a wnaed yn ystod y pandemig.
“Mae teuluoedd a gollodd anwyliaid yn ystod y pandemig yn haeddu atebion, ac mae’n hanfodol bod gweinidogion Llafur yn dysgu o’u camgymeriadau.
“Yr unig ffordd y gall hynny ddigwydd yw drwy ymchwiliad sy’n benodol i Gymru.”