Mae dros 4,000 o goed wedi cael eu plannu ar hyd a lled Ynys Môn i gefnogi’r nod o gyrraedd statws sero-net erbyn 2030.
Yn ddiweddar, mae disgyblion o wyth ysgol wedi plannu 500 o goed yn eu hysgolion fel rhan o ymgyrch i greu rhwydwaith o goedwigoedd micro ledled yr ynys.
Defnyddiwyd y dull Japaneaidd Miyawaki i blannu’r coed, sef dull sy’n defnyddio prosesau naturiol i adfer coedwigoedd a chynorthwyo tyfiant coed.
Mae’r dull yn cyflymu’r broses o greu coedwigoedd amrywiol, iach, a all ddal mwy o garbon yn gynt na dulliau ail-goedwigo traddodiadol.
Plannwyd amrywiaeth o goed cynhenid, gan gynnwys coed afalau, coed ffawydd, coed cyll, a choed ceirios duon yn y gobaith o wneud iawn am y coed sy’n cael eu colli ar hyd Ynys Môn o ganlyniad i glefyd coed ynn.
‘Ennyn balchder’
Cafodd y prosiect yn Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy, Ysgol Gyfun Llangefni, Ysgol Brynsiencyn, Ysgol Kinsgland, Ysgol y Ffridd yng Ngwalchmai, Ysgol Penysarn, Ysgol Llanfechell, ac Ysgol Rhyd y Llan yn Llanfaethlu ei arwain gan Dîm Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Cyngor Ynys Môn.
Dywedodd Joseff Davies, Warden Cymunedol yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, bod hwn yn “brosiect gwych a fydd yn cefnogi’r nod o fynd i’r afael â newid hinsawdd”.
“Mae’n grêt ein bod wedi gallu addysgu plant o ysgolion lleol a’u cynnwys yn y prosiect. Roedd gan y plant gymaint o awch i ddysgu,” meddai.
“Llwyddom i ddysgu’r plant sut i adnabod gwahanol rywogaethau o goed a’u haddysgu ynglŷn â phwysigrwydd coed i’r amgylchedd.
“Mae’r prosiect wedi ennyn balchder ymysg y plant a’r ysgolion, a byddant yn ein cefnogi i ofalu am y micro goedwigoedd am flynyddoedd i ddod.”
Cafodd y prosiect ei ariannu yn sgil buddsoddiad o £10,000 drwy Gronfa Adferiad Gwyrdd a Chronfa Datblygiad Cynaliadwy Cyfalaf Llywodraeth Cymru.