Dych chi wedi clywed caneuon y grŵp Datblygu? Mae llawer o ddysgwyr wedi dysgu Cymraeg ar ôl gwrando ar eu caneuon.
David R Edwards oedd prif leisydd Datblygu. Roedd e wedi dechrau’r grŵp yn 1982 gyda T Wyn Davies. Roedd David R Edwards wedi marw llynedd.
Er mwyn diolch i’r band, mae penwythnos arbennig wedi cael ei drefnu yn Llambed ac Aberteifi rhwng 3 a 5 Mehefin. Bydd cyfle i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg ddod at ei gilydd.
Yma mae trefnydd Penwythnos ‘Diolch Datblygu’, Marcus Whitfield, yn ateb cwestiynau Lingo360…
Beth yw Penwythnos ‘Diolch Datblygu’?
Yn syml, penwythnos i ddiolch i’r band Datblygu am gyflwyno’r iaith Gymraeg i lawer o ddysgwyr neu siaradwyr newydd.
Mi fydd hi’n flwyddyn ers i ni golli David R Edwards ac mae’n rhan o gyfres o benwythnosau i gyflwyno’r diwylliant Cymraeg a chodi hyder siaradwyr newydd.
Ry’n ni’n gobeithio bydd pobl sy’n dysgu’r iaith a siaradwyr Cymraeg yn dod i’r penwythnos ac efallai rhai sydd erioed wedi clywed cerddoriaeth Datblygu o’r blaen.
Beth fyddwch chi’n gwneud yn ystod y penwythnos?
Ar y nos Wener bydd Emyr [Glyn Williams] o gwmni recordiau Ankst yn cynnal noson ffilmiau. Pnawn dydd Sadwrn bydd yna sesiwn cwestiwn ac ateb gyda Pat Morgan, cyd-aelod o’r grŵp. Gyda’r nos mi fydd gig Datblygu. Bydd Hap a Damwain hefyd yn perfformio ar y nos Sadwrn a llawer mwy.
Ar y dydd Sul mi fydd [yr artist] Malcolm Gwyon yn arwain taith o gwmpas hoff lefydd Dave yn Aberteifi.
Sut mae pobl wedi dysgu’r iaith drwy wrando ar ganeuon Datblygu?
Rhaid i chi ofyn i Gisella Albertini o’r Eidal. Mae hi wedi dysgu holl eiriau bob un o’u caneuon! Yn bersonol, pan dw i’n ffeindio band dw i’n hoffi, dw i’n gwrando arnyn nhw drosodd a throsodd. Dw i’n dechrau canu’r geiriau ac wedyn eisiau dysgu mwy. Mae’r gân Y Teimlad er enghraifft, wedi cael ei chwarae gan fandiau fel y Super Furry Animals. Mae pawb erbyn hyn yn gwybod y geiriau, gobeithio.
Beth sy’n arbennig am eiriau caneuon Datblygu sy’n helpu dysgwyr?
Dw i’n meddwl bod pobl yn hoffi sŵn y gerddoriaeth ac felly’n cael eu hudo mewn i’r geiriau. Mae nifer o’r caneuon hefyd yn eitha’ araf, felly mae hyn yn help mawr i ddysgwyr.
Nid caneuon ‘neis neis’ ydy’r rhan fwyaf o’r caneuon. A dw i’n meddwl bod yr agwedd mae’r grŵp yn cyfleu yn apelio hefyd at fath gwahanol o bobl. Dw i wedi edrych ar lawer o gyfweliadau gan Datblygu ac mae Dave yn dipyn o arwr. Mae’n ysgrifennu am y pethau tywyllaf o fyw yng Nghymru. Mae’n dweud llawer o wirionedd am y bywyd Cymraeg a Chymreig. Daeth hyn â rhywbeth newydd i’r sîn roc yng Nghymru… felly Diolch Datblygu!
Os ydych chi eisiau dod i’r penwythnos cysylltwch â contactpaned@gmail.com. Mae’n bosib aros dwy noson ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant yn Llambed, neu mae’n bosib dod i’r gwahanol ddigwyddiadau yn ystod y penwythnos.
Geirfa
Prif leisydd – lead singer
Diwylliant – culture
Hyder – confidence
Hudo – enchant
Agwedd – attitude
Cyfleu – convey
Arwr – hero
Gwirionedd – truth