Bydd straeon am fywyd mewn pum tref borthladd yng Nghymru ac Iwerddon yn cael eu hadrodd mewn ffilm newydd a gaiff ei dangos am y tro cyntaf yn Aberystwyth ar ddiwedd mis Mai.

Nod y gyfres o wyth ffilm ddogfen fer ac un ffilm hir, Wrth ymyl y Dŵr: Straeon Môr Iwerddon, yw hyrwyddo porthladdoedd Abergwaun, Caergybi a Doc Penfro yng Nghymru, a Dulyn a Rosslare yn Iwerddon, yn ogystal â’r tri llwybr fferi sy’n eu cysylltu.

Cafodd y ffilmiau eu creu fel rhan o’r proisect ‘Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw’, sy’n ymchwilio i hanes a threftadaeth ddiwylliannol, ac yn dangos golygfeydd godidog o dirluniau a bywyd natur Môr Iwerddon, ac yn adrodd straeon dynol y cymunedau porthladdoedd.

Y straeon

Yn Abergwaun, mae Gary Jones a Jana Davidson yn sôn am oresgyniadau gan fôr-ladron a byddinoedd Ffrainc.

Mae Hedydd Hughes yn esbonio sut mae hi’n dysgu plant am chwedlau lleol.

Yn Harbwr Rosslare, mae’r teulu Todd o Abergwaun yn cwrdd â’u perthnasau Gwyddelig, y teulu Ferguson.

Mae’r hanesydd lleol David James yn rhannu’r stori ryfeddol am sut y daeth mab samurai o Japan i blannu coeden ginkgo yn Noc Penfro, ac mae’r cynghorydd lleol Josh Beynon yn archwilio’r lleoliad dirgel lle adeiladwyd y Mileniwm Falcon o Star Wars.

Yn Nulyn a Chaergybi, mae barddoniaeth gan Gillian Brownson a Gary Brown yn dathlu cysylltiad canrifoedd oed eu porthladdoedd.

Mae’r hanesydd Gareth Huws yn esbonio sut mae olion aneddiadau’r Oes Efydd i’w gweld o hyd yn y dref yn Ynys Môn.

Mannau teithio a safleoedd preswyl pwysig

“Mae’r ffilmiau hyn yn amlygu treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog y pum cymuned porthladd hyn, yn dilyn amrywiaeth o bobol leol sydd â gwybodaeth fanwl am eu cymunedau lleol,” meddai’r Athro Peter Merriman, arweinydd tîm y prosiect yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth.

“Mae cymunedau arfordirol i’w gweld yn aml ar yr ymylon daearyddol, ond mae’r ffilmiau hyn yn dangos sut mae trefi porthladd bob amser wedi gwasanaethu fel mannau teithio pwysig yn ogystal â safleoedd preswyl.

“Mae twristiaeth ddiwylliannol yn elfen bwysig o economi Cymru ac Iwerddon, ac rydym yn awyddus i ddenu ymwelwyr newydd o dramor i’r trefi yma, yn ogystal ag ennyn diddordeb cymunedau lleol yn nhreftadaeth eu porthladdoedd, er mwyn helpu i fynd i’r afael â heriau economaidd.”

Codi ymwybyddiaeth

Bydd y ffilmiau yn ffurfio rhan o ymgyrch dwristiaeth ehangach i godi ymwybyddiaeth am dreftadaeth arfordirol a morwrol helaeth y pum porthladd a’u cymunedau.

“Mae ffilmiau Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw yn fframio lleisiau, lluniau a hanesion o’r pum porthladd, gan alluogi ffyrdd newydd o ymgysylltu â’r gorffennol maen nhw’n ei rannu,” meddai’r Athro Claire Connolly o Goleg Prifysgol Cork.

Caiff y rhaglen ddogfen lawn ei lansio yn Amgueddfa Ceredigion ar Fai 26 am 7yh.

Bydd Amgueddfa Ceredigion hefyd yn cynnal arddangosfa gelf deithiol yn edrych ar hanes arfordirol cyfoethog a threftadaeth cymunedau’r porthladdoedd.

Dros y misoedd nesaf, bydd y ffilmiau’n cael eu dangos o amgylch Cymru ac Iwerddon, ac yna’n cael eu rhyddhau’n gyffredinol er mwyn i’r cymunedau lleol allu hyrwyddo eu hardaloedd eu hunain.

Caiff Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw ei ariannu gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop drwy Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru, ac mae’n gweithredu ar draws pedwar sefydliad yn Iwerddon a Chymru, yn cynnwys Coleg Prifysgol Cork, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Chyngor Sir Wexford.

Caiff prosiect y ffilmiau ei arwain gan dîm yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth.