Bara Caws fydd yr unig gwmni theatr yng Nghymru yn gysylltiedig gyda hwb iechyd, ac mae “pawb yn dysgu llawer” ar hyn o bryd.

Dyna ddywed y Cyfarwyddwr Artistig wrth i drafodaethau ddigwydd ar greu adeilad newydd pwrpasol i’r cwmni yn rhan o ddatblygiad “enfawr” ym Mhenygroes yng Ngwynedd ar hyn o bryd.

Canolbwynt y cynlluniau gan gymdeithas dai Grŵp Cynefin yw adeiladu canolfan “arloesol” gwerth £38m ym mhentref Penygroes, i wasanaethu cymunedau’r dyffryn a thu hwnt.

Mae Theatr Bara Caws, ynghyd â Chyngor Gwynedd, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn rhan o gywaith enfawr Grŵp Cynefin. Yr hyn sydd mewn golwg ar gyfer Canolfan Lleu, fel y’i gelwir dros dro, yw fflatiau, cyfleusterau meddygol, swyddfeydd, a phencadlys i Bara Caws.

“Mae yna ddatblygiadau yn digwydd bob wythnos,” meddai Betsan Llwyd y Cyfarwyddwr Artistig wrth golwg360. “Does yna ddim un cwmni theatr yn glwm efo’r un hyb arall fel’na. Mae pawb yn dysgu lot, ac eisio gwybod beth fedrwn ni ei gynnig.

“Mae o’n rhan o broject enfawr. Mae yna gyfarfodydd wythnosol yn digwydd, ond mae pethe yn symud yn eu blaenau yn dda iawn efo hynny.”

Y prif beth mae’r datblygiad mawr yn ei olygu i Bara Caws yw bod y cwmni yn cael adeilad “addas i bwrpas, yn enwedig i gwmni yn yr 21ain ganrif,” meddai, gan olygu y byddan nhw’n symud o’u huned bresennol ar stad Cibyn ar gyrion Caernarfon.

“Ond un o’r pethe mwya’ ydi y bydd yna wahanol ofod yn yr adeilad,” meddai Betsan Llwyd. “Byddwn ni’n gallu cynnig lot mwy o gysylltu gyda phobol eraill, cynnig gofod i bobol eraill, ymarferwyr yn dod i mewn i arbrofi, cyrsiau sgrifennu a darllen… Bydd o’n cynnig cynaladwyedd gwirioneddol i gwmni fel Bara Caws am y blynyddoedd nesaf.”

Helpu gydag ioga ac ati

Ar hyn o bryd, mae’r cwmni yn archwilio syniadau o ran yr hyn y byddan nhw’n gallu ei gynnig yn lleol a thu hwnt, yn ogystal â’u gwaith craidd o gynllunio tri chynhyrchiad theatrig y flwyddyn.

“Fe fydd y gwaith y cysylltu efo’r gymuned, efo’r gwahanol gyrff, yn gorfod digwydd cyn hir,” meddai Betsan Llwyd, “ynglŷn â hwyluso unrhyw fath o weithgareddau fedrwn ni eu rhoi ymlaen.

“Gwaith craidd y cwmni sy’n hollbwysig, sef y tair sioe’r flwyddyn rydan ni’n gorfod eu gwneud. Ond bydd posibilrwydd – dywedwch, bod y feddygfa leol yn dweud, ‘rydan ni angen hybu gwersi ioga’, mi fedrwn ni ei drefnu fo. Bydd yna lot o bethau fel’na.”

Er nad yw hi’n rhagweld y bydd cwmni Theatr Bara Caws yn tyfu llawer iawn yn sgîl y datblygiad, mae hi’n credu y bydd yn gallu ymestyn yn “ganghennau” i greu “llwybrau gwahanol i bobol ddod at Bara Caws.” Y gobaith, yn ôl Betsan Llwyd, yw y bydd Bara Caws yn “gallu hyrwyddo a hwyluso gwaith lot fawr o bobol mewn gwahanol ffyrdd, gyda gwahanol gymunedau.”

Mae Bara Caws ar fin mynd ar daith gyda’r ddrama Draenen Ddu (addasiad Angharad Tomos o ddrama Blackthorn gan Charley Miles), a fydd yn dechrau yn Neuadd Llanllyfni nos Fawrth, 10 Mai. Darllenwch ragor am y ddrama yn rhifyn wythnos nesaf o gylchgrawn Golwg.