Mae cymdeithas warchod anifeiliaid RSPCA Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddilyn esiampl Lloegr a gwahardd y defnydd o drapiau gliw.

Mae’r dyfeisiadau gludiog hyn yn cael eu defnyddio i ddal llygod a llygod mawr, ond mae nhw yn “greulon” yn ôl yr RSPCA am eu bod yn medru caethiwo a lladd cathod ac adar.

O fis Ebrill 2024 ymlaen fe fydd hi’n anghyfreithlon i osod y trapiau gliw yma yn Lloegr, oni bai bod gan rywun drwydded arbennig yn caniatáu eu defnydd.

Ond mae’r RSPCA yn poeni y bydd yna oedi wrth wahardd eu defnydd yng Nghymru, wrth i’r Prif Weinidog Mark Drakeford roi’r brêcs ar Bil Amaeth (Cymru) tan yr Hydref, a hynny er mwyn ailedrych ar y sector oherwydd y rhyfel yn Wcrain a’r oblygiadau posib i’r sector cynhyrchu bwyd.

Bwriad Llywodraeth Cymru yw defnyddio’r Bil Amaeth i wahardd y defnydd o drapiau gliw, ond mae’r RSPCA yn bryderus y bydd oedi.

Mae’r elusen gwarchod anifeiliaid yn dweud bod anifeiliaid yn gallu rhwygo croen a ffwr a phlu wrth geisio dianc o’r glud, a hefyd torri esgyrn neu hyd yn oed fwyta drwy eu coesau er mwyn ceisio dod yn rhydd.

Yn ôl yr RSPCA, fe wnaethon nhw ddelio gyda saith achos yn ymwneud â thrapiau gliw yng Nghymru rhwng 2017 a 2021.

“Mae trapiau gliw yn greulon,” meddai Evie Button, un o swyddogion RSPCA Cymru, “ac yn rhy aml mae ein swyddogion yn gorfod delio gyda’r anafiadau ofnadwy maen nhw yn achosi i anifeiliaid anwes, bywyd gwyllt ac anifeiliaid eraill.”