Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu’r cyhoeddiad gan y Blaid Geidwadol yn San Steffan y bydd S4C yn cael mwy o hyblygrwydd o ran ei gorchwyl i gynhyrchu a darlledu rhaglenni.

Daw hyn ar ôl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyhoeddi cynllunio i ddiwygio darlledu i greu’r hyn maen nhw’n ei alw’n Oes Aur Teledu Prydeinig, ac i helpu darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus i ffynnu.

Cefndir

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dweud eu bod nhw am ehangu gorchwyl gwasanaeth cyhoeddus S4C i gynnwys gwasanaethau digidol ac ar-lein ac i ddileu’r cyfyngiadau darlledu daearyddol presennol.

Daeth cadarnhad gan y Llywodraeth ar Ionawr 17 fod y sianel wedi derbyn setliad ar gyfer y chwe blynedd nesaf, sy’n cynnwys £88.8m am y ddwy flynedd gyntaf, gan godi yn ôl chwyddiant wedyn.

Mae hefyd yn cynnwys ymrwymiad o £7.5m y flwyddyn i gefnogi datblygiad digidol S4C.

Yn ôl y Llywodraeth, bydd y setliad “yn galluogi S4C i barhau i gefnogi economi, diwylliant a chymdeithas Cymru, cyrraedd mwy o siaradwyr Cymraeg gan gynnwys cynulleidfaoedd iau, ac ymrwymiad y Llywodraeth i gefnogi’r nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050”.

Yn eu cyhoeddiad, mae’r Llywodraeth yn dweud bod ehangu’r gorchwyl i gynnwys gwasanaethau digidol ac ar-lein a dileu’r cyfyngiadau daearyddol yn helpu S4C i ehangu’r gynulleidfa y mae modd ei chyrraedd, ac i gynnig cynnwys ar amrywiaeth ehangach o lwyfannau yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt.

Maen nhw’n dweud ymhellach y bydd gan y sianel fwy o eglurder ynghylch eu gallu i fuddsoddi a chynhyrchu refeniw masnachol, ac y byddan nhw’n deddfu er mwyn cefnogi S4C a’r BBC i symud i ffwrdd o’r drefn bresennol sy’n gofyn bod y BBC yn darparu nifer penodol o oriau o raglenni i S4C, fel bod modd iddyn nhw ddod i gytundeb rhyngddyn nhw i adlewyrchu’r ffyrdd newydd mae’r gynulleidfa’n cael mynediad at gynnwys.

‘Sefydliad Cymraeg pwysig’

“Bydd y newidiadau hyn, sydd i’w croesawu, yn helpu darlledwyr – gan gynnwys S4C – i gystadlu â rhai o’r cewri ffrydio mawr fel Netflix ac Amazon Prime,” meddai Tom Giffard, llefarydd diwylliant, twristiaeth a chwaraeon y Ceidwadwyr Cymreig.

“Mae nifer o bethau i’w croesawu ym mhapur gwyn Llywodraeth y Deyrnas Unedig, gan gynnwys dileu rhai cyfyngiadau a fydd yn golygu y bydd modd i S4C gyrraedd pobol ledled y Deyrnas Unedig a thu hwnt, ac y bydd eu gwasanaeth ar-alw yn fwy hygyrch.

“Mae S4C yn sefydliad Cymraeg pwysig sy’n gwarchod ein hiaith a’n diwylliant, a does gen i ddim amheuaeth na fydd y newidiadau hyn ond yn cryfhau hynny.”

Dyfrig Davies TAC

S4C: Cadeirydd TAC yn croesawu Papur Gwyn Llywodraeth y Deyrnas Unedig

Ond “mae dileu statws cyhoeddwr-ddarlledwr Channel 4 yn peri pryder”, medd Dyfrig Davies