Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dweud eu bod nhw am ehangu gorchwyl gwasanaeth cyhoeddus S4C i gynnwys gwasanaethau digidol ac ar-lein ac i ddileu’r cyfyngiadau darlledu daearyddol presennol.

Daeth cadarnhad gan y Llywodraeth ar Ionawr 17 fod y sianel wedi derbyn setliad ar gyfer y chwe blynedd nesaf, sy’n cynnwys £88.8m am y ddwy flynedd gyntaf, gan godi yn ôl chwyddiant wedyn.

Mae hefyd yn cynnwys ymrwymiad o £7.5m y flwyddyn i gefnogi datblygiad digidol S4C.

Yn ôl y Llywodraeth, bydd y setliad “yn galluogi S4C i barhau i gefnogi economi, diwylliant a chymdeithas Cymru, cyrraedd mwy o siaradwyr Cymraeg gan gynnwys cynulleidfaoedd iau, ac ymrwymiad y Llywodraeth i gefnogi’r nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050”.

Yn eu cyhoeddiad heddiw, mae’r Llywodraeth yn dweud bod ehangu’r gorchwyl i gynnwys gwasanaethau digidol ac ar-lein a dileu’r cyfyngiadau daearyddol yn helpu S4C i ehangu’r gynulleidfa y mae modd ei chyrraedd, ac i gynnig cynnwys ar amrywiaeth ehangach o lwyfannau yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt.

Maen nhw’n dweud ymhellach y bydd gan y sianel fwy o eglurder ynghylch eu gallu i fuddsoddi a chynhyrchu refeniw masnachol, ac y byddan nhw’n deddfu er mwyn cefnogi S4C a’r BBC i symud i ffwrdd o’r drefn bresennol sy’n gofyn bod y BBC yn darparu nifer penodol o oriau o raglenni i S4C, fel bod modd iddyn nhw ddod i gytundeb rhyngddyn nhw i adlewyrchu’r ffyrdd newydd mae’r gynulleidfa’n cael mynediad at gynnwys.

Yr Alban

Mae’r Papur Gwyn hefyd yn rhoi sylw i’r Alban a’r iaith Aeleg yn y wlad.

Maen nhw’n dweud bod “rhaid sicrhau bod y bartneriaeth yn cynnig cynnwys Gaeleg amrywiol sydd ar gael yn hawdd fel bod y diwylliant Gaeleg yn cael ei warchod yn y blynyddoedd i ddod”.

Maen nhw’n dweud eu bod nhw’n “cydnabod fod sicrwydd o arian yn y dyfodol yn bwysig i MG ALBA”, a’u bod nhw hefyd yn ariannu’r Gronfa Ddarlledu ar gyfer y Wyddeleg ac Wlster-Sgots i gefnogi’r sector cynhyrchu annibynnol yng Ngogledd Iwerddon.

Yn dilyn Degawd Newydd Dull Newydd yn 2020, fe wnaeth y Llywodraeth ddarparu £2m ychwanegol tuag at y nod, ac maen nhw’n dweud y byddan nhw’n parhau i gefnogi darlledu trawsffiniol yn Iwerddon a Gogledd Iwerddon, ac yn ystyried y posibiliadau o ran sicrhau dyfodol darlledu mewn ieithoedd lleiafrifol.

Ymateb S4C

“Mae S4C yn croesawu’r datganiad gan y Llywodraeth ar y Papur Gwyn ar Ddarlledu, ac yn falch iawn i weld y newidiadau i foderneiddio’r system darlledu gwasanaeth cyhoeddus (PSB) sydd wedi eu cyhoeddi,” meddai llefarydd ar ran S4C.

“Rydyn ni’n croesawu’n enwedig y bwriad i sicrhau fod gwasanaethau ar-alw fel S4C Clic ar gael ar y platfformau mwyaf poblogaidd, fel Setiau Teledu Clyfar (Smart TVs), ac mewn lle amlwg. 

“Rydym wedi arfer gweld S4C yn safle rhif 4 ar setiau teledu yng Nghymru, ac mae’n hanfodol bod S4C Clic mewn lle amlwg ac yn hawdd i’w ffeindio ar Smart TVs a dyfeisiau ar-lein.

“Rydym hefyd yn falch o weld newid i’r rheolau i sicrhau bod gemau chwaraeon allweddol ar gael am ddim i’r gwylwyr.

“Rydym wedi bod yn dadlau y dylai gemau rhyngwladol Cymru – rygbi a phêl droed – fod ar gael am ddim i’r gwylwyr a byddwn yn parhau i ddadlau dros hynny.”