Mae’r Urdd yn addo “blas o nostalgia” ar gyfer Gŵyl Triban, sy’n cael ei galw’n “aduniad mwya’r ganrif” wrth i’r mudiad ieuenctid barhau i ddathlu eu canmlwyddiant eleni.

Wrth edrych tua’r gorffennol a’r dyfodol, bydd yr Urdd yn cynnig y cyfle i aelodau a chyn-aelodau ddod ynghyd i ddathlu ar Faes yr Eisteddfod yn Sir Ddinbych rhwng Mehefin 2-4, gyda’r lein-yp yn apelio at ystod o oedrannau gwahanol.

Bydd bandiau yn chwarae’r clasuron cyfoes a’r hen ffefrynnau, yn ogystal ag ambell i enw cyfarwydd fydd yn ymweld â’r gorffennol fel rhan o’u perfformiad.

Nos Iau

Ar y nos Iau, bydd Gŵyl Triban yn dechrau gyda Ni Yw y Byd, lle bydd cannoedd o blant cynradd Sir Ddinbych yn canu clasuron Cymraeg yng nghwmni Rhys Taylor a’r band.

Yna, bydd sioe arbennig o Cabarela gydag wyth o gyn-aelodau’r Urdd, ac mae ganddyn nhw asgwrn i’w grafu gyda’r beirniaid ar ôl cael cam ar lwyfan y Pafiliwn.

Mi fydd yn noson o ganu a chwerthin yng nghwmni criw Cabarela wrth iddyn nhw rannu atgofion o gystadlu eisteddfodol yn eu steil unigryw a direidus nhw.

Nos Wener

Ar y nos Wener, ar lwyfan y Sgubor, bydd Yws Gwynedd, Tara Bandito, Gwilym a Ciwb yn cloi’r noson, gyda Bwncath a Mellt yn perfformio ar lwyfan yr Arddorfa.

Ymysg y gerddoriaeth ddydd Gwener bydd set gomedi byw gyda Mel Owen, Talwrn yr Ifanc arbennig, recordiad byw o bodlediad Ysbeidiau Heulog yn edrych yn ôl ar atgofion yr Urdd, a bydd Jambori cynulleidfaol gyda Dilwyn Price a’r band yn canu’r hen ffefrynnau fel Gwyliau yn y Caribi a Gwena.

Nos Sadwrn

Ar y nos Sadwrn, bydd blas o nostalgia i lwyfan y Sgubor, gydag Eden, Y Cledrau, Delwyn Sion a Tecwyn Ifan yn diddanu’r dorf.

Tra ar lwyfan yr Arddorfa bydd Adwaith, N’famady Koyuate, Eädyth ac Izzy yn rhoi gwledd o gerddoriaeth gyfoes.

Bydd cyfle i aelodau a chyn-aelodau o’r Urdd i hel atgofion drwy’r penwythnos. Yn ogystal â’r bandiau, bydd Twmpath mawr yn cael ei gynnal yn y Sgubor fel yn y gwersylloedd ers talwm, gyda Cwis Mawr yr Urdd yn profi gwybodaeth cyn aelodau am y mudiad, a bydd cyfle i glampio mewn pebyll yn union fel yng Ngwersyll Haf Llangrannog – ond efo tipyn mwy o steil.

‘Ein ffordd ni o ddiolch’

“Wrth i’r Urdd ddathlu ein pen-blwydd yn gant oed, dyma ein ffordd ni o ddiolch i bob gwirfoddolwr ac aelod sydd wedi cefnogi’r mudiad,” meddai Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau.

“Rwy’n gobeithio y bydd pob cyn-aelod, swog ac arweinydd yn dod draw i Faes Eisteddfod yr Urdd ym mis Mehefin i ddathlu gyda ni, ac i hel atgofion am y ganrif ddiwethaf wrth i ni edrych ymlaen at y dyfodol.

“Pan wnes i a Dilwyn gynnal y Jambori cyntaf yn Rhyl yn 1998, doedden ni byth yn meddwl y bydden ni’n dod yn ôl at ein gilydd i gynnal un arall ar y Maes yn 2022!

“Mae Gŵyl Triban yn ddatblygiad cyffrous i ni, ac yn gyfle i ni ddathlu holl elfennau o ddiwylliant Cymraeg gan gynnig gwledd i bawb o bob oed.”

Yn ymuno a’r lein-yp cyhoeddus mi fydd gwesteion arbennig yn ymddangos ar dri llwyfan Gŵyl Triban dros ŵyl y banc mis Mehefin.

Ac fel Eisteddfod yr Urdd, mae Gŵyl Triban am ddim i bawb, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Mae archebu safle yn y maes carafanau neu glampio, yn ogystal â’r tocynnau am ddim ar gael ar www.urdd.cymru/triban.