Mae Mudiad Meithrin wedi lawnsio ‘AwDUra’, cynllun newydd i annog lleisiau Cymraeg o blith cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig i ysgrifennu straeon i blant bach.

Maen nhw’n chwilio am bobol Ddu, Asiaidd neu o Leiafrif Ethnig i ymuno â’r cynllun a fydd yn darparu cefnogaeth gan Jessica Dunrod a Manon Steffan Ros.

Eu nod yw annog creu straeon i blant bach cymuned Mudiad Meithrin a thu hwnt, a’u gobaith yw y bydd straeon gan leisiau newydd yn cael eu cyhoeddi.

“Mae’n bleser mawr gennyf gydweithio gyda Mudiad Meithrin i gychwyn ar brosiect a fydd yn mynd i’r afael â’r diffyg cynrychiolaeth mewn llenyddiaeth Gymraeg a’r diffyg cefnogaeth a chyfleoedd i lenorion Cymraeg,” meddai Jessica Dunrod.

“Roedd yn hynod o anodd i mi wneud fy llyfrau, heb sôn am adael i’r byd wybod fy mod wedi eu creu.

“Bydd y prosiect hwn yn sicrhau na fydd yr awduron Du a Brown nesaf yn ei chael hi mor galed ag y gwnes i ac rwyf wrth fy modd bod sefydliadau fel Mudiad Meithrin yn helpu i chwalu’r rhwystrau i awduron sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.”

‘Anrhydedd go iawn’

“Mae’n anrhydedd go iawn i mi gael bod yn rhan o brosiect AwDura,” meddai Manon Steffan Ros.

“Ers cyn cof, mae Cymru wedi bod yn gartref i drawsdoriad eang iawn o bobol, ond tydy hyn ddim yn cael ei adlewyrchu yn ein diwylliant o gwbl, ac mae’n bryd unioni’r cam yma a chymryd camau positif ac adeiladol i sicrhau cynrychiolaeth teg yn ein llenyddiaeth.

“Gall hyn ond cyfoethogi ein diwylliant.”

I wneud cais, mae gofyn i ymgeiswyr anfon e-bost 100 gair neu fideo munud o hyd i egluro pam ddylen nhw gael eu dewis, i gwenllian@meithrin.cymru erbyn Mehefin 10.