Ar ôl dwy flynedd o saib yn sgil y pandemig Covid-19, mae’r Ŵyl Gomedi yn dychwelyd i dref Machynlleth heno (nos Wener, Ebrill 29), ac ymhlith yr artistiaid sydd â phenwythnos prysur o’u blaenau mae Esyllt Sears.

Dwy sioe ‘Gwaith ar y Gweill’ (Work in Progress) sydd ganddi eleni, gan gynnwys ei sioe awr gyntaf yn Gymraeg, Dienw.

Yn ogystal, bydd hi’n cymryd rhan yn y podlediadau The Xennial Dome Podcast gyda Gareth Gwynn a Hoovering gyda Jessica Fostekew, ac yn perfformio’i sioe Saesneg Absolutely Not.

A hithau’n hen law ar bodlediadau, mae hi hefyd wedi cefnogi Elis James a Jen Brister ar daith, yn banelydd rheolaidd ar sawl sioe banel a phodlediad, ac wedi perfformio ar deledu a radio’r BBC ac S4C. Mae hi hefyd wedi ysgrifennu ar gyfer The Now Show a The News Quiz ar Radio 4, sawl sioe gomedi ar Radio Wales, a chyfresi Elis James i S4C.

Mae’n ymddangos, felly, bod y digrifwr, sy’n hanu o Aberystwyth, wedi ailddarganfod y momentwm oedd ganddi cyn i’r pandemig orfodi trefnwyr yr ŵyl i’w chanslo yn 2020, fel yr eglura wrth golwg360.

“Roedd blwyddyn gynta’r pandemig yn anodd iawn, wi’n credu, i bawb jyst o ran bo ti’n adeiladu momentwm ar gyfer gwahanol gigs neu ar gyfer gwahanol sioeau ti’n gwneud,” meddai.

“I fi’n bersonol, ro’n i’n sgwennu fy sioe awr gynta’ i ac yn mynd i wneud am y tro cynta’ ym Machynlleth yn 2020 (gyda’i sioe Peri Peri (Menopausal) Chicken). Felly roedd hwnna’n anodd achos ro’n i wedi bod yn gweithio i fyny at hwnna ac, wrth gwrs, daeth y pandemig a’r locdown a wedyn gath Machynlleth ei chanslo. Wi ddim yn meddwl wneith y sioe yna byth weld golau dydd achos mae’r sioe yna nawr yn teimlo fel rhan o oes hollol wahanol i’r un ry’n ni’n byw ynddi nawr.

“So ie, mae wedi bod yn anodd. Yr unig beth gyda’r flwyddyn gynta’ oedd fod pawb yn yr un sefyllfa. Roedd pob comedïwr, dim ots faint o brofiad oedd gyda ti neu ar ba lefel oeddet ti, yn mynd trwy’r un peth. Doedd yna ddim gigs i neb.

“Fel rhywun sydd hefyd yn sgwennu, ddim jyst yn perfformio, roedd hwnna’n anodd hefyd achos roedd pobol yn dweud, “fi’n siŵr bo ti’n cael cyfle i wneud mwy o sgwennu” ac yn y blaen, ond fel stand-yp dyw hwnna ddim gwerth lot os nag wyt ti’n gallu perfformio fe o flaen pobol, achos dyna shwd mae setiau comedi a sioeau comedi stand-yp yn cael eu datblygu, trwy eu perfformio nhw o flaen cynulleidfa.

“A wedyn o ran sgwennu stwff arall, roeddet ti’n sgwennu pethau a ddim yn siwr os fyddet ti byth yn gallu recordio’r pethau yma. So ie, roedd y flwyddyn gynta’ yna’n anodd ond achos bod pawb yn yr un sefyllfa, fi’n credu bod hwnna wedi helpu ychydig achos roeddet ti’n gallu siarad gyda chomedïwyr eraill achos bo nhw’n mynd trwy’r un peth â ti.”

Addasu i oes y gigs ar-lein

Pan darodd y pandemig, bu’n rhaid i Esyllt Sears, fel pob digrifwr arall, droi at ddull anghyfarwydd a newydd o gynnal gigs, ar-lein dros Zoom, ond mae’n cyfaddef nad oedd hi’n ffan mawr ohonyn nhw.

Serch hynny, daeth rhai manteision allan o’r dull hwn o berfformio, gan gynnwys mireinio’i chrefft a dewis a dethol ei gigs wyneb yn wyneb yn fwy gofalus erbyn i’r cyfyngiadau lacio’n ddigonol.

“Ond o leia’ oedd e’n rhywbeth ac yn helpu, efallai, i feddwl am ddeunydd newydd. Beth wi’n teimlo sydd wedi newydd ychydig bach erbyn hyn, yn enwedig ar ôl y locdown olaf, yw bo fi’n fwy picky am y gigs wi’n gwneud,” meddai.

“O siarad â chomedïwyr eraill, wi’n meddwl bod hwnna’n agwedd eitha’ cyffredinol.

“Cyn y pandemig, bydden i wedi gyrru pump awr i wneud deg munud o slot, am ddim arian, lle nawr wi’n credu bod pobol yn fwy dewisol a wi’n bendant, yn hytrach na jyst llenwi fy nyddiadur gyda faint bynnag o gigs â phosib – a wi ddim yn dweud bod hwnna’n beth gwael achos mae digon o bobol dal yn gwneud hynna  – ond achos bod teulu ifanc, plant ifanc gyda fi, wi’n hapusach yn dewis a dethol y gigs wi’n moyn gwneud mwy. Felly mae hwnna’n bendant wedi newid.”

Dienw

Arwydd 'Machynlleth' uwchben y dref

“Work in progress ar y Work in Progress” (gyda’r Work in Progress go iawn y flwyddyn nesa’) yw ei disgrifiad o’i sioe Gymraeg Dienw, sy’n dod gyda’r rhybudd ar wefan yr ŵyl, “Falle newch chi chwerthin, falle newch chi grio. Jest dewch am y profiad”.

“Eleni, mae e fel gweithdy ar gyfer y Work in Progress!” mae’n cyfaddef. “Wi ddim yn meddwl bod y gynulleidfa sy’n dod cweit yn sylweddoli hynna eto ond mae gyda fi syniad ar gyfer sioe Gymraeg, a wi’n mynd i fod yn trafod y syniadau yna ac yn cael adborth wrth y gynulleidfa, felly mae gallu gwneud hwnna yn Caffi Alys yn mynd i fod yn neis.

“Mae Caffi Alys wastad yn lleoliad da ar gyfer comedi . Wi wedi cael gigs neis iawn fynna dros y blynyddoedd. Mae e’n bwysig i gael cefnogaeth busnesau, a dyna beth sy’n lyfli ambwyti Machynlleth, ti’n cael y teimlad bod y dref i gyd yn gefnogol o’r ŵyl, achos mae’n ŵyl hyfryd.

“Mae’n brysur yna ond o ’mhrofiad i, mae’r ffans comedi sydd yn mynd i wyliau comedi yn griw neis iawn o bobol, felly mae wastad teimlad neis yn y dref, ac mae’n hyfryd gweld busnesau lleol yn cefnogi’r wyl ac yn agor eu drysau ac yn gadael i ti gynnal gigs.”

A hithau’n hen gyfarwydd â sefyll ar lwyfannau ac yn perfformio setiau byr rhwng pum munud a rhyw 40 munud, sut brofiad oedd ysgrifennu sioe awr o hyd lle mai dim ond hi ei hun fydd ar y llwyfan am y sioe gyfan?

“Wi wedi mwynhau’r profiad o sgwennu sioe awr, i fod yn onest,” meddai.

“Mae awr o ddeunydd gyda fi ac mae peth o’r deunydd o dair blynedd yn ôl, felly mae e’n gyfuniad o ddeunydd wi wedi sgwennu dros y blynyddoedd ac wedyn rhoi lot o bethau at ei gilydd i greu rhyw linyn storïol. Wi wir wedi mwynhau’r profiad.

“Wi’n credu bod well gyda fi sgwennu sioe yn ei chyfanrwydd na jyst gwneud pum munud, deg munud, chwarter awr. Wi wedi bod yn gwneud sawl preview yn ddiweddar, ac wedi mwynhau gweld y sioe yn datblygu achos wi wastad yn newid rhywbeth ar ôl pob preview wi wedi gwneud.

“Os wyt ti’n gorfod gwneud deg munud tynn, does dim lot o le i allu mynd off i wahanol gyfeiriadau nac i siarad â’r gynulleidfa hefyd. Wi’n mwynhau’r elfen yna.”

Beth allwn ni ei ddisgwyl o ran cynnwys y sioeau, felly?

“Y sioe Gymraeg ar nos Wener, mae honna’n ymwneud gyda’n enw i. Y disgrifiad wi wedi rhoi ar y wefan yw dyfyniad o ymateb rhywun pan ddechreuais i weithio yn Llundain,” meddai.

“Wnes i ddechrau swydd newydd a ches i fy nghyflwyno i un o’r rheolwyr yn y cwmni. Pan wnes i ddweud fy enw i wrtho fe, wnaeth e droi ata’i a dweud, “Your parents must really hate you!” Hwnna yw’r canolbwynt, ond dyw e ddim i gyd ambwyti fi. Dyna beth sy’n bwysig. Ti ddim yn mynd i fod yn dod i weld awr ohona i’n siarad amdana i’n hunan.

Esyllt Sears
        Esyllt Sears

“Mae’r sioe Saesneg ambwyti rheoli’r cyfryngau o amgylch fy marwolaeth i, felly mae e i gyd ambwyti shwd wi ddim yn mynd i allu trystio neb i reoli’r cyfryngau pan mae hwnna’n digwydd, felly wi’n gorfod rhoi pethau yn eu lle yn barod ar gyfer pan mae hwnna’n digwydd. Mae e’n swnio’n dywyll ond mae’r sioe yn fwy dwl na hynna.

“Wi wedi gwneud sawl preview o’r sioe Saesneg erbyn hyn, saith neu wyth efallai, ac wedi cael ymateb eitha’ da, yn enwedig pan mae yna lot yn y gynulleidfa, ti’n gallu mynd mewn i hwyl y peth. Hyd yn hyn mae e wedi bod yn mynd yn dda.

“Wrth gwrs, mae dal lot o waith i’w wneud arno fe rhwng nawr a mynd â fe i Gaeredin ond so far so good fi’n credu.”

Penwythnos o waith

Rhan o brofiad yr ŵyl i ffans comedi yw cael y cyfle i weld amrywiaeth o ddigrifwyr a sioeau, o setiau byrion i sioeau awr i sioeau cymysg – neu’r Showcase – yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Ond sut brofiad yw mynd i’r ŵyl fel digrifwr, tybed?

“Dim ond perfformio wi’n gwneud!” meddai Esyllt Sears am y penwythnos sydd o’i blaen.

“Wi ddim yn siwr os wi’n mynd i gael amser i weld unrhyw un arall achos wnes i edrych ar fy nyddiadur i a wi wedi cytuno i wneud lot gormod o bethau eto!

“Y broblem yw, pan mae pobol yn gofyn i ti wneud pethau, ti byth eisiau dweud na achos rwyt ti eisiau bod yn rhan o bopeth ac eisiau gwneud cymaint o bethau ag wyt ti’n gallu. Ond wedyn, yn sydyn, ti’n sylweddoli efallai bod hynna’n golygu bo ti ddim yn mynd i gael amser i gymdeithasu na gweld sioe unrhyw un arall.

“Wi’n gwneud sioe gweithdy, sioe Gymraeg, ar y nos Wener wedyn mae gyda fi Pappy’s Flatshare Slamdown ar y dydd Sadwrn, wi’n gwneud y sioe gyfieithu ar y dydd Sadwrn a wedyn mae fy sioe Saesneg i ar y nos Sadwrn.

The Xennial Dome Podcast
The Xennial Dome Podcast

“Wedyn dydd Sul, wi’n gwneud Hoovering, Under the Tweets a wedyn yn y nos, mae’r Xennial Dome Podcast. Gormod!

“Wi ddim yn meddwl fydda i’n gwneud dim byd heblaw gweithio, yn anffodus, ond os ga’i gyfle, wna’i drio mynd mewn i weld gymaint o sioeau ag wi’n gallu achos beth wi’n dwlu ambwyti Machynlleth yw bo ti’n gallu gweld y sioeau fel maen nhw’n dal yn datblygu cyn bo nhw’n mynd i fyny i Gaeredin, a wi yn dwlu watsio pobol eraill yn mynd trwy’r broses o drio jôcs newydd a sgwennu pethau a gweld shwd mae’r gynulleidfa’n ymateb.

“Ar ôl nos Sadwrn, bydda i’n gallu ymlacio o ran nerfusrwydd, achos y sioe Saesneg a’r sioe Gymraeg yw’r rhai wi’n fwya’ nerfus ambwyti nhw, jyst achos bo nhw’n awr yr un a dim ond fi fydd ynddyn nhw.

“Efallai dydd Sul ga’i lasied fach o win a trio mynd i weld rhywun!”