Mae Llywodraeth Catalwnia wedi cyhoeddi y bydd unigolion a sefydliadau llenyddol oedd â stondinau stryd a gafodd eu dinistrio gan stormydd ar Ddydd Sant Jordi yn gallu hawlio cymhorthdal.

Yn eu plith mae deg stondin cyhoeddwyr a siopau llyfrau yn Barcelona, un yn Sabadell ac un arall yn Badalona.

Tasg gynta’r pwyllgor cymhorthdal fydd ceisio atebion i’r stondinau hynny nad oedd modd iddyn nhw weithio o ganlyniad i’r tywydd, ac eraill oedd wedi gweld eu llyfrau’n cael eu dinistrio.

Yn ôl cymdeithas lenyddol Cambra del Llibre, roedd eu cyfarfod â’r llywodraeth “yn bositif iawn”.

Dydy union faint o gymhorthdal fydd modd ei hawlio ddim yn glir ar hyn o bryd.

Fel rhan o’r diwrnod o ddathliadau, daeth pobol ynghyd i brynu llyfrau a rhosod, ac i gyfarfod â’u hoff awduron a chael eu llofnod ar eu llyfrau.

Oni bai am y tywydd, mae arbenigwyr yn dweud y gallai Catalwnia fod wedi gweld y Dydd Sant Jordi mwyaf llewyrchus erioed.

Er gwaetha’r tywydd, does dim lle i gredu y bydd y trefnwyr yn newid y dathliadau y flwyddyn nesaf.

Disgwyl gwerthu dros chwe miliwn o rosod erbyn Diwrnod Sant Jordi – 43% yn fwy na’r llynedd

Mae heddiw (dydd Sadwrn, Ebrill 23) yn ddiwrnod cenedlaethol y cariadon yng Nghatalwnia