Mae Tŷ Tawe, canolfan Gymraeg a lleoliad gigs cerddorol yn Abertawe, yn ail-lansio’r wythnos hon, gyda chyfres o gigs wedi’u cadarnhau i ddathlu cerddoriaeth gyfoes iaith Gymraeg.

Wedi ei agor yn wreiddiol yn 1987, mae Canolfan Gymraeg Tŷ Tawe yn gartref i siop lyfrau, caffi, ystafelloedd cyfarfod a swyddfeydd, yn ogystal â lleoliad perfformio hyblyg.

Yn dilyn cyfres o gigs acwstig yn y bar bach, ail-agorodd y brif neuadd fis Hydref y llynedd wedi gwaith adnewyddu sylweddol ar yr adeilad. Mae’r gwaith diweddaraf sydd newydd ei gwblhau gyda chefnogaeth Cronfa Cyfalaf Cerddoriaeth Cymru Greadigol wedi ychwanegu offer sain a golau newydd, gan drawsnewid y neuadd yn lleoliad cyfoes ar gyfer theatr, comedi, llenyddiaeth a cherddoriaeth o bob genre.

Mae’r gyfres yma o gigs yn dathlu’r lleoliad, yn dechrau nos Wener (Ebrill 29), gyda pherfformiadau gan Mark Roberts, cyd-sylfaenydd y bandiau eiconig Y Cyrff a Catatonia sydd nawr yn rhyddhau recordiau ardderchog fel MR, a SYBS, y band post-punk cyffrous sy’n rhyddhau ar Recordiau Libertino.

Yn gorffen y noson ganlynol (nos Sadwrn, Ebrill 30) fydd y cerddor pop electronig, cynhyrchydd, ac artist, Ani Glass, a fydd yn chwarae caneuon o’i record gyntaf anhygoel “Mirores”, yn ogystal â rhai o’r record newydd.

Yn cefnogi Ani mae Eädyth, yr artist pop electronig sydd wedi rhyddhau cyfres o senglau dwyieithog dros y blynyddoedd diwethaf, a Bitw, prosiect unigol Gruff ab Arwel sydd wedi chwarae gydag artistiaid amrywiol fel Gruff Rhys a Eleanor Friedberger.

Sesiwn Soundcheck

Mae’r gig nos Sadwrn hefyd yn cynnwys “Sesiwn Soundcheck” mewn cydweithrediad â’r Gymuned Lleoliadau Annibynnol.

Bydd grŵp o bobol ifanc yn cael eu croesawu i’r lleoliad cyn i’r drysau agor i wylio’r soundcheck, cwrdd â’r artistiaid a’r staff, a dysgu mwy am yrfaoedd posib yn y diwydiant cerddoriaeth.

Yn cwblhau’r gyfres mae noson yng nghwmni N’famady Kouyaté a Danielle Lewis ar nos Wener, Mai 6.

Mae N’famady yn dychwelyd i Abertawe am set lawn ar ôl ei berfformiad fel rhan o’r Ŵyl Ymylol yn 2021, a bydd yn perfformio caneuon o’r EP “Aros i Fi Yna” a llawer mwy.

Wedi rhyddhau ei record gyntaf “Dreaming In Slow Motion” yn ystod 2021, bydd Danielle Lewis yn chwarae set agoriadol dwyieithog.

£5 yw pris y tocynnau drwy gefnogaeth Cyngor Abertawe a’r Gronfa Adfer Diwylliannol, ac maen nhw ar gael nawr trwy TicketSource, Derricks Music, neu Siop Tŷ Tawe – mae modd e-bostio swyddfa@menterabertawe.org.

‘Cyfle gwych’

“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at groesawu pawb yn ôl i Dy Tawe’r wythnos yma wedi’r gwaith uwchraddio rydym wedi’i gynnal gyda chefnogaeth Cymru Greadigol,” meddai Tomos Jones, Prif Swyddog Datblygu Menter Iaith Abertawe wrth golwg360.

“Mae’n arbennig o gyffrous i allu croesawu griw o bobol ifanc i mewn cyn y gig gydag Ani Glass, Eädyth, a Bitw ar nos Sadwrn, y 30ain o Ebrill.

“Mae’r sesiwn yma’n rhan o ymgyrch cenedlaethol gan y Gymuned Lleoliadau Annibynnol, ac yn cynnig cyfle i’r bobol ifanc dod i wylio’r soundcheck, sgwrsio gyda’r artistiaid a’r staff, a dysgu mwy am y diwydiant cerddoriaeth.

“Mae hyn yn gyfle gwych i unrhyw un sydd â diddordeb yn y byd cerddoriaeth, ac rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â phawb ar ddydd Sadwrn”.