Mae Almaenwr sy’n siarad Cymraeg wedi ymuno â Rhys Meirion i ddechrau chwilio am ddarpar gantorion i berfformio gyda’u harwyr cerddorol ar gyfer y gyfres Canu Gyda Fy Arwr ar S4C.
Mae’r swyddog llywodraeth leol Hendrik Robisch, sy’n hanu o Essen, a’r canwr Rhys Meirion sy’n hanu o Borthmadog ac sy’n byw ym Mhwllglas ger Rhuthun, yn chwilio am freuddwydwyr cerddorol i gymryd rhan mewn deuawdau disglair.
Mae Hendrik, sy’n 50 oed, yn ymlacio o’i swydd yn trin galwadau gan ffermwyr pryderus am fleiddiaid yn lladd eu defaid trwy ganu caneuon gwerin ac annog eraill i ddysgu’r iaith.
Cymerodd e ran yn y gyfres ddiwethaf o’r sioe lwyddiannus pan gafodd e gyfle i ganu deuawd gydag un o’i hoff gerddorion Cymraeg, Gwilym Bowen Rhys.
Yn ôl Hendrik, roedd yn brofiad mor wych fel ei fod am annog eraill i ddilyn yn ôl ei draed a chofrestru ar gyfer y drydedd gyfres a fydd yn cael ei darlledu yn nes ymlaen eleni.
Dylai unrhyw un sydd am gymryd rhan neu sydd am enwebu rhywun arall gysylltu â’r cwmni cynhyrchu o Gaernarfon, Cwmni Da, erbyn Mehefin 30.
‘Teledu ar ei orau’
“Dyma deledu ar ei orau,” meddai Rhys Meirion.
“Nid yw cantorion proffesiynol fel arfer yn gwahodd aelodau’r gynulleidfa i’r llwyfan i ganu efo nhw.
“Mae pawb yn breuddwydio am ganu deuawd efo’u harwyr ac mae llawer yn canu yn y bath neu’r gawod ond maen nhw’n gwybod nad yw byth yn mynd i ddigwydd, ond yn Canu Gyda Fy Arwr rydyn ni’n rhoi’r cyfle euraid yna i bobl wireddu eu breuddwydion.”
Ychwanegodd fod y rhai sy’n cael eu dewis i gymryd rhan yn y sioe yn cael cyfarfod a sgwrsio â’u harwr cyn ymarfer cân ac yna perfformio ar lwyfan o flaen cynulleidfa o ffrindiau, teulu neu ddieithriaid llwyr.
Dywed Hendrik Robisch fod bleiddiaid wedi cael eu hailgyflwyno i’r Almaen ar ddechrau’r ganrif ac mai dim ond un rhan o’i dasgau yn y gwaith yw delio â galwadau gan drigolion pryderus.
“Mae’n waith amrywiol sy’n cynnwys ateb galwadau gan bobol sydd â phroblemau fel bleiddiaid yn lladd eu defaid,” meddai.
“Rwy’n rhoi cyngor ac yn datrys eu pryderon ac yn trosglwyddo eu manylion i asiantaethau eraill.”
Dysgu Cymraeg a chanu gyda Gwilym Bowen Rhys
Dechreuodd ei ddiddordeb mewn dysgu Cymraeg pan drefnodd ei wraig ac yntau wyliau yng Nghymru bum mlynedd yn ôl.
Cafodd e gwrs iaith ar-lein i’w helpu i ddysgu Cymraeg cyn yr ymweliad, fel anrheg Nadolig.
“Roedd yn brofiad gwych canu gyda Gwilym,” meddai.
“Mi wnaethon ni gyfarfod yng Nghaerdydd ac roedd Gwilym eisoes wedi bod yn ymwneud â phrosiect gyda phlant o gefndiroedd ac ieithoedd amrywiol ac fe wnaethon nhw ymuno â ni yn y ddeuawd.
“Roedd yn brofiad ysbrydoledig.
“Nid yw fy ffrindiau yn deall pam wyf wedi dysgu Cymraeg ond rwy’n meddwl eu bod nhw’n fy edmygu. Maen nhw’n meddwl ei fod yn cŵl.”
Rachel Stephens o’r Rhondda
Cymerodd Rachel Stephens, gwas sifil o Dreherbert yn y Rhondda, ran yn yr ail gyfres pan ganodd y gân glasurol, ‘O Gymru’, gyda’r tenor Trystan Llŷr Griffiths gerbron cynulleidfa fawr yn y Proms Haf mawreddog ar dir Castell Caerdydd.
Dywed y ferch 28 oed nad oedd hi wedi gwneud cais i gymryd rhan yn y gyfres ei hun ond ei bod wedi cael ei chynnig gan ei ffrind Ellis Lloyd Jones.
Roedd seren drag TikTok wedi trafod cymryd rhan yn y gyfres gyda Rachel ond doedd hi ddim yn gwybod ei fod e wedi anfon y cais i mewn ar ei rhan.
“Roeddwn wedi rhoi awgrym cryf iawn i Ellis ynglyn â chymryd rhan yn y sioe ar ôl iddo fe wneud hynny yn ystod y gyfres gyntaf a chanu gydag Elin Fflur, ond roedd y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau wedi mynd heibio,” meddai.
“Ro’n i gartref, yn aros am ffrind i fynd i nofio ac roedd hi’n hwyr ond mae hi wastad yn hwyr felly roedd yn sioc pan ddaeth Rhys Meirion droi lan ar stepen fy nrws. Roedd hi’n sioc braf a dweud y gwir ond roedd dal yn sioc.”
Mae Rachel yn weithgar iawn yn ei chymuned yn y cymoedd a hi oedd arweinydd côr yr Aelwyd, er gwaethaf dioddef o’r cyflwr niwrolegol, sglerosis ymledol (MS).
Dywed iddi gael diagnosis o’r cyflwr rai blynyddoedd yn ôl ac, er nad oes unrhyw wellhad hysbys, mae hi bellach yn cael triniaeth ac nid yw wedi dioddef unrhyw byliau drwg ohono yn ddiweddar.
“Roeddwn i ar y llwyfan yn arwain y côr ac mi wnes ddarganfod nad oeddwn yn gallu troi tudalen y copi. Roeddwn i’n colli fy malans hefyd ac roedd fy chwaer, a oedd yn y côr, yn bryderus iawn,” meddai.
“Gall MS effeithio ar leferydd hefyd ond hyd yma nid yw fy nghanu wedi cael ei effeithio.”
Roedd canu gyda Trystan hefyd yn rhoi cyfle iddi ganu cân glasurol.
Astudiodd y celfyddydau perfformio ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin ac roedd y sioeau y bu hi’n helpu i’w llwyfannu a’r perfformiadau y mae wedi’u rhoi ers hynny wedi canolbwyntio’n bennaf ar theatr gerdd.
“Does dim byd gwell na morio cân dda o sioe gerdd,” meddai.
“Ond roedd canu gyda Trystan yn rhoi’r cyfle i mi ganu cân glasurol go iawn mewn lleoliad clasurol ac roedd yn newid bendigedig.”
Yn aml, mae gofyn iddi ganu caneuon fel Ave Maria a Pie Jesu mewn priodasau a seremonïau eraill ac mae’n gobeithio gallu canu mewn lleoliadau mwy clasurol yn y dyfodol.
“Fyddwn i ddim eisiau gwneud gyrfa ohoni ond fe fyddai’n braf ei wneud unwaith neu ddwywaith y flwyddyn,” meddai wedyn.
Wrth ymuno â Rhys Meirion yn chwilio am freuddwydwyr sy’n hoff o gerddoriaeth i gymryd rhan yn Canu Gyda fy Arwr, dywedodd Rachel, “Yn syml iawn – ewch amdani!”
‘Dathlu llawenydd ac emosiwn’
“Mae Canu Gyda Fy Arwr yn ymwneud â dathlu’r llawenydd a’r emosiwn sy’n dod o ganu, felly rydym yn annog unrhyw un sydd eisiau profiad bythgofiadwy i wneud cais,” meddai Siwan Haf, cynhyrchydd Cwmni Da.
“Arhosodd ffurf y ddwy gyfres gyntaf fwy neu lai’r un fath ond fe fydd yna ambell newid cyffrous yn y gyfres nesaf.”
Ychwanegodd fod nifer fawr o bobol eisoes wedi mynegi diddordeb mewn cymryd rhan yn y drydedd gyfres.
“Ond fe fydden ni’n dal i groesawu mwy o geisiadau,” meddai.
“Dylai unrhyw un a hoffai ganu gyda’u hoff ganwr neu fand yn fyw ar lwyfan o flaen cynulleidfa gysylltu â ni.
“Byddem wrth ein boddau yn gwireddu eu breuddwydion.”