Y digrifwr Mike Bubbins o’r Barri yw’r seleb diweddaraf i fynd ati i ddysgu Cymraeg yn y gyfres Iaith Ar Daith ar S4C nos Sul (Ebrill 24, 8yh).

Mae’n dweud nad oedd fawr o Gymraeg i’w chlywed yn y Barri pan oedd e’n blentyn, ond nad oes ganddo fe esgus i beidio bod yn gallu siarad yr iaith erbyn hyn.

“Efallai byddwn yn adrodd Gweddi’r Arglwydd bob dydd Mawrth a chanu Calon Lân ond dyna’r cyfan,” meddai.

“Ond mae fy mhlant i yn siarad Cymraeg yn rhugl a hoffwn i gael sgwrs gyda fy mhlant yn Gymraeg.

“A dwi’n meddwl, wrth imi fynd yn hŷn, does dim esgus imi beidio siarad Cymraeg.

“Mae’r iaith yn rhan bwysig o ddiwylliant Cymru a dyna beth sydd yn rhoi inni ein hunaniaeth fel gwlad.”

‘Bydd e eisiau ennill Dysgwr y Flwyddyn’

Mae Elis James a Mike Bubbins yn hen ffrindiau ac wedi adnabod ei gilydd ers dros 15 mlynedd.

Yn ddiweddar, mae’r ddau wedi gweithio gyda’i gilydd ar y podlediad hynod o boblogaidd ‘The Socially Distant Sports Bar’.

“Cwrddon ni yn gwneud ‘stand-up yng Nghaerdydd, ac mae Mike wedi bod yn ffrind agos i fi am flynyddoedd maith nawr,” meddai Elis.

“Y peth da am Mike, mae e’n gystadleuol dros ben, so bydd e eisiau bod y dysgwr gorau erioed.

“Bydd e eisiau ennill dysgwr y flwyddyn!”

Y daith

Mae eu taith yn dechrau ym mro mebyd Elis James, sef Caerfyrddin, lle maen nhw’n gwerthu dillad smart yn y Gymraeg mewn siop ddillad.

Wedyn byddan nhw’n teithio i’r dwyrain trwy Gwm Gwendraeth, ac mae sypreis go iawn i Mike Bubbins yn Sinema Cross Hands, lle mae Dafydd Iwan yn ei groesawu – a bydd e’n cael y cyfle i ganu un o’i hoff ganeuon, ‘Yma o Hyd’ gyda’i arwr.

“Oedd Mike yn wên o glust i glust ar ôl cwrdd â Dafydd Iwan,” meddai Elis James.

“Roedd e wrth ei fodd. Mae ‘Yma o Hyd’ yn golygu eitha’ lot i Mike, dwi’n meddwl.”

Fel un o sêr y gyfres gomedi Tourist Trap, mae’n yn fwy na chymwys i daclo ei her olaf sef arwain taith tywys o gwmpas Ynys Y Barri yn yr iaith Gymraeg – gydag ychydig o help gan Elis, wrth gwrs.