Mae Syr Ed Davey, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn San Steffan, yn galw am ‘grantiau gwyrdd’ i deuluoedd yng Nghymru sy’n dibynnu ar gynhesu olew i wresogi eu cartrefi.
Fe ddaw ei sylwadau heddiw (dydd Sadwrn, Ebrill 23) wrth ymweld â’r sir, wrth iddi ddod i’r amlwg fod 30% o aelwydydd ym Mhowys yn dibynnu ar gynhesu olew i wresogi eu cartrefi, ac nad oes gan dros hanner trigolion y sir fynediad at nwy prif gyflenwad.
Mae’r sefyllfa honno’n golygu mai nhw yw’r bobol sy’n cael eu taro galetaf gan yr argyfwng costau byw.
Yn ôl Syr Ed Davey, byddai grantiau gwyrdd yn cefnogi cartrefi sydd oddi ar y grid, i’w helpu nhw i symud i systemau gwresogi carbon-isel newydd a rhatach megis pympiau gwres, a byddai hyn yn cael ei ariannu drwy Dreth Ffawdelw ar gynhyrchwyr olew a nwy, a masnachwyr sydd wedi gweld elw’n torri record ers y cynnydd mewn prisiau nwy ac olew.
Ymchwil
Yn ôl ymchwil gan y Democratiaid Rhyddfrydol, dydy tua chwarter pobol Cymru ddim ar y grid nwy.
Ceredigion yw’r ardal lle mae’r nifer fwyaf o bobol yn ddibynnol ar gynhesu olew, a dydy 75% o bobol ddim ar y grid nwy.
Powys sydd nesaf, lle mae dros hanner aelwydydd y sir oddi ar y grid ac yn dibynnu ar ffynonellau eraill o ynni.
Mae aelwydydd oddi ar y grid fel arfer yn wynebu costau gwresogi uwch o ganlyniad i’r ffaith fod cynhesu olew, LPG neu drydan yn aml yn ddrutach na nwy o’r beipen.
Mae pris cynhesu olew wedi mwy na dyblu i oddeutu 95c y litr, o’i gymharu â 45c fis Awst y llynedd.
Dydy teuluoedd sy’n gwresogi eu cartrefi drwy gynhesu olew neu nwy o’r botel ddim yn elwa ar y cap ar brisiau.
Yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol, gallai gwella insiwleiddio yn y cartrefi arbed hyd at £500 y flwyddyn.
Ymateb
“Mae biliau cynyddol yn gorlethu gormod o deuluoedd yng Nghymru, ac mae’r rheiny mewn ardaloedd gwledig sy’n dibynnu ar gynhesu olew yn cael eu taro’n arbennig o galed,” meddai Syr Ed Davey.
“Ond naill ai does dim ots gan y Ceidwadwyr neu dydyn nhw ddim yn deall, ac yn gwneud dim byd i helpu.
“Mae cartrefi nad ydyn nhw ar y grid yn cael bargen wael heb fod bai o gwbl arnyn nhw.”
‘Argyfwng go iawn’
“Mae hyn yn argyfwng go iawn, a dydy Llafur na’r Ceidwadwyr ddim yn ei gymryd yn ddigon difrifol,” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.
“Mae amcangyfrifon a gafodd eu cyhoeddi’r mis yma’n dangos bod hyd at 45% o aelwydydd yng Nghymru bellach yn byw mewn tlodi tanwydd.
“Mae hwnnw’n ystadegyn hollol warthus.
“O ystyried bod 11 allan o 13 o’r seddi sydd gan y Ceidwadwyr Cymreig yn San Steffan yng nghefn gwlad, does dim amddiffyniad ar gyfer eu diffyg gweithredu.”