Mae disgwyl i fwy na chwe miliwn o rosod gael eu gwerthu yng Nghatalwnia ar gyfer Diwrnod Sant Jordi eleni.

Heddiw (dydd Sadwrn, Ebrill 23) yw diwrnod cenedlaethol y cariadon, lle mae pobol yn rhoi rhosod a llyfrau i’w gilydd.

Ar ôl sawl blwyddyn o drafferthion i werthwyr yn sgil y pandemig Covid-19, mae disgwyl cynnydd o 43% yng ngwerthiant rhosod eleni.

Cafodd saith miliwn eu gwerthu yn 2019, ac roedd pobol yn cael eu hannog i brynu’n gynt eleni gan fod y diwrnod yn cwympo ar ddydd Sadwrn, diwrnod pan fydd nifer fawr o siopau ynghau.

Rhosod Colombia ac Ecwador yw’r rhai mwyaf poblogaidd eleni, ac maen nhw’n cyfateb i 85% o’r holl rosod sy’n cael eu gwerthu.

Er gwaetha’r argyfwng tanwydd a thrafnidiaeth, mae disgwyl i werthwyr osgoi’r demtasiwn o godi prisiau, gyda rhosod yn cael eu gwerthu am oddeutu pedair Ewro yr un.