Dyma’r newyddion wythnos yma gan Bethan Lloyd, golygydd Lingo Newydd…

  • Mae tri o bobol wedi’u cael yn euog o lofruddio Logan Mwangi.
  • Mae Aelodau Seneddol eisiau cynnal ymchwiliad i ymddygiad Boris Johnson
  • Mae pryder am restrau aros hir am wasanaethau iechyd meddwl i blant a phobol ifanc
  • Mae Tafwyl wedi cyhoeddi pwy fydd yn perfformio yno eleni

 

Tri o bobol yn euog o lofruddio Logan Mwangi

Logan Mwangi

Mae tri o bobol wedi’u cael yn euog o lofruddio Logan Mwangi.

Roedd y bachgen bach pump oed yn dod o Sarn wrth ymyl Pen-y-bont ar Ogwr.

Roedd yr heddlu wedi dod o hyd i’w gorff yn afon Ogwr ar Orffennaf 31 y llynedd.

Mae ei fam Angharad Williamson, ei phartner John Cole a bachgen 14 oed wedi’u cael yn euog o lofruddio Logan.

Roedd y tri wedi trio cuddio llofruddiaeth Logan ar ôl iddo farw. Roedd o wedi marw ar ôl ymosodiad yn ei gartref.

Roedd Angharad Williamson yn honni bod ei mab wedi mynd ar goll. Roedd John Cole a’r bachgen wedi cael eu gweld ar gamerâu cylch-cyfyng yn symud corff Logan.

Roedd archwiliad post-mortem yn dangos fod Logan wedi cael 56 o anafiadau.

Mae’r tri hefyd wedi’u cael yn euog o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Fe fyddan nhw’n cael eu dedfrydu yn nes ymlaen.

Geirfa

Euog – guilty

Llofruddio – murder

Honni – claim

Camerâu cylch-cyfyng – CCTV cameras

Gwyrdroi cwrs cyfiawnder – pervert the course of justice

Dedfrydu – sentence

 

Aelodau Seneddol eisiau cynnal ymchwiliad i ymddygiad Boris Johnson

Boris Johnson

Mae Aelodau Seneddol yn San Steffan eisiau cynnal ymchwiliad i ymddygiad Boris Johnson.

Mae hyn ar ôl honiadau am bartïon yn Downing Street yn ystod cyfnodau clo Covid-19.

Roedd Boris Johnson wedi cael dirwy gan Heddlu Llundain am barti anghyfreithlon. Roedd y Prif Weinidog wedi dweud ei fod e heb dorri rheolau.

Roedd Aelodau Seneddol wedi cyflwyno cynnig yn Nhŷ’r Cyffredin. Roedd y cynnig yn galw ar bwyllgor seneddol i gynnal ymchwiliad. Maen nhw eisiau i’r pwyllgor benderfynu a oedd Boris Johnson yn euog o ddirmyg seneddol am ddweud celwydd.

Bydd pwyllgor wedyn yn cyhoeddi adroddiad. Byddan nhw’n dweud os ydyn nhw’n credu bod Boris Johnson wedi camarwain y senedd.

Os ydyn nhw’n penderfynu ei fod e wedi camarwain y senedd, fe allen nhw awgrymu nifer o gosbau. Mae’n bosib fydd Boris Johnson yn gorfod ymddiswyddo.

Geirfa

Ymchwiliad – investigation

Ymddygiad – behaviour

Dirmyg seneddol – contempt of Parliament

Camarwain – mislead

 

Poeni am restrau aros hir am wasanaethau iechyd meddwl i blant a phobol ifanc

Jane Dodds

Mae pryder am restrau aros hir yng Nghaerdydd am wasanaethau iechyd meddwl plant a phobol ifanc.

Nid yw llawer o’r achosion yn cael sylw o fewn pedair wythnos, sef yr amser targed.

Yn ôl y ffigurau diweddaraf, roedd 88.3% o’r achosion heb gael sylw o fewn pedair wythnos ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Roedd yr achosion wedi cael eu trosglwyddo i Wasanaethau Iechyd Meddwl Arbenigol Plant a’r Glasoed.

Jane Dodds ydy arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru. Mae hi’n dweud bod hyn wedi bod yn mynd ymlaen ers wyth mis.

“Mae hyn yn argyfwng, ac yn argyfwng sydd ddim yn gallu parhau,” meddai Jane Dodds.

“Rhaid i ni drin iechyd meddwl yr un fath ag iechyd corfforol.”

Mae hi’n galw ar  Lywodraeth Cymru i gefnogi Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro. Mae hi eisiau i’r Llywodraeth helpu’r bwrdd iechyd i glirio’r rhestrau aros.

Mae Jane Dodds hefyd eisiau gwneud yn siŵr bod plant a phobol ifanc yn gallu cael therapi siarad yn agos i le maen nhw’n byw.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn dweud bod y broblem wedi mynd yn waeth yn ystod y pandemig. Maen nhw’n dweud eu bod yn gweithio’n galed i glirio’r rhestrau aros a gwneud yn siŵr bod plant yn cael yr help sydd ei angen.

Geirfa

Rhestrau aros – waiting lists

Gwasanaethau iechyd meddwl – mental health services

Trosglwyddo – transfer

Argyfwng – crisis

 

 

Tafwyl yn cyhoeddi pwy fydd yn perfformio yno eleni

Tafwyl 2021
Tafwyl 2021 yng nghastell Caerdydd

Mae Tafwyl wedi cyhoeddi pwy fydd yr artistiaid fydd yn perfformio yn Tafwyl eleni.

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal yng Nghastell Caerdydd ar Fehefin 18 ac 19.

Menter Caerdydd sy’n trefnu Tafwyl. Does dim cyfyngiadau yn yr ŵyl eleni. Mae am ddim i bawb dros y penwythnos

Bydd wythnos Ffrinj Tafwyl yn cael ei chynnal rhwng Mehefin 12-17. Bydd mwy o fanylion yn cael eu cyhoeddi’n fuan.

Bydd cerddoriaeth mewn dau le, sef Y Brif Lwyfan a’r Sgubor. Clwb Ifor Bach sy’n dewis yr artistiaid eto eleni.

“Mi fydd e’n wych gweld y castell dan ei sang wrth i ni groesawu pobl o Gaerdydd a thu hwnt i ddod i fwynhau dau ddiwrnod arbennig o gerddoriaeth a chelfyddyd Cymraeg,” meddai Guto Brychan o Glwb Ifor Bach.

Dyma’r artistiaid fydd yn chwarae yn Tafwyl – Swnami, Yws Gwynedd, Adwaith, Eadyth + Asha Jane, Glain Rhys, Tara Bandito, Ynys, Gareth Bonello a Kizzy Crawford, ynghyd â’r DJs Esyllt, Gareth Potter, Garmon, Mirain a Palmerviolet, Gwilym, Breichiau Hir, N’famady Kouyaté, Hana Lili, Mellt, Mei Gwynedd, Ciwb, Morgan Elwy, Cerddorfa Ukelele, Bwncath, Meinir Gwilym, Burum, Lily Beau, Parisa Fouladi, Blodau Papur, Cowbois Rhos Botwnnog, Thallo, Avanc, Eve Goodman a Mari Mathias.

Geirfa

Cyfyngiadau – restrictions

Dan ei sang – full to capacity