Bydd gig i siaradwyr Cymraeg newydd yn Abertawe nos Wener (Mai 27).
Mae ‘Siaradwyr Newydd’ yn gynllun ar y cyd rhwng Mentrau Iaith Cymru a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Mae digwyddiadau yn cael eu cynnal ym mhob rhanbarth yng Nghymru.
Yn ardal Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, mae noson gerddorol yng nghwmni Al Lewis ac Eädyth X Izzy Rabey yn Nhŷ Tawe, ffair, noson cwis a theithiau cerdded ‘Ar Droed’.
Mae Menter Iaith Abertawe, sy’n trefnu’r gig, wedi penderfynu rhoi tocynnau rhad ac am ddim i ddysgwyr Cymraeg ar un o gyrsiau Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe.
Dyma’r ail waith i Eädyth berfformio yng nghanolfan Gymraeg Abertawe eleni, yn dilyn gig gydag Ani Glass a Bitw fis diwethaf.
‘Croeso mawr i bawb’
“Rydym yn edrych ymlaen at gynnal noson gerddorol Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot fel rhan o’r cynllun Siaradwyr Newydd yma yn Nhŷ Tawe,” meddai Tomos Jones, Prif Swyddog Datblygu Menter Iaith Abertawe.
“Bydd Eädyth ac Izzy Rabey yn agor y noson gyda’u set deuawd anhygoel, cyn i Al Lewis gloi’r noson gyda set acwstig arbennig.
“Mae tocynnau am ddim i bawb sydd wedi cofrestru ar gwrs gyda Dysgu Cymru Ardal Bae Abertawe, ond mae croeso mawr i bawb!”
Geirfa
cynllun ar y cyd – joint venture
Mentrau Iaith – Welsh Language Initiatives
rhanbarth – region
rhad ac am ddim – free of charge
Prif Swyddog Datblygu – Lead Development Officer