Dychwelodd Tregaroc i Dregaron dydd Sadwrn (Mai 21), ar ôl i’r ŵyl gael ei gohirio ddwy flynedd yn olynol yn sgil Covid, ac mae’r trefnwyr yn credu eu bod nhw wedi denu eu torf fwyaf erioed.
Roedd yr arlwy o berfformwyr yn cynnwys Gwilym Bowen Rhys, I Fight Lions, Welsh Whisperer, Tara Bandito a Candelas.
Roedd yr ŵyl eleni yn “llwyddiannus dros ben” ac mae wedi bod yn hwb i Dregaron, yn ôl Mared Jones.
“Roedd yna buzz yn y dre’ ac roedd e’n grêt gweld bod y tafarndai’n llawn a’r siopau’n llawn,” meddai wrth golwg360.
“Roedd e’n rili neis gweld pawb yn cefnogi busnesau lleol.
“Ni jyst yn trio cael pobol at ei gilydd a chefnogi busnesau lleol achos amser ni’n cynnal digwyddiadau fel Tregaroc neu Tregaroc Bach, mae pobol yn dod mewn i Dregaron.
“Mae sawl tafarn wedi ailagor yn Nhregaron felly mae e’n bwysig cefnogi nhw.
“Doedd pobol ddim jest o Dregaron – roedd pobol o ardal Aberystwyth, Llanbed, pobol oedd yn arfer byw yn Nhregaron ac wedi’u magu yno oedd yn dod yn ôl o lefydd fel Caerdydd.
“Dwyt ti ddim yn sylwi faint ti’n colli pethau fel hyn.
“Roedd yr awyrgylch yn grêt, pawb yn mwynhau, pawb yn wên o glust i glust yn mwynhau gwrando ar gerddoriaeth, dawnsio a jest cymdeithasu.
“Roedd e’n awyrgylch hyfryd iawn ac roedden ni ffodus i gael artistiaid grêt ac amrywiol ac roedden nhw gyd yn joio.
“Roedden nhw’n llawn buzz.”
Cynnydd mewn costau yn sialens
Ond ’dyw trefnu digwyddiad o’r fath ddim yn dod heb sialens, meddai.
Mae’r cynnydd blynyddol yng nghost cynnal y digwyddiad wedi profi’n broblematig, yn ôl y trefnydd.
“Mae costau yn sicr wedi cynyddu’n sylweddol,” meddai Mared Jones wedyn.
“Ni’n credu ei fod o 20% i 30% ar gyfer pethau’r contractwyr.
“So, mae gen ti’r dynion diogelwch, y pebyll, y ffensys a phopeth sydd angen i sicrhau bod ganddon ni ddigwyddiad diogel.
“Mae hynny wedi bod yn bach o sialens a ni wedi gorfod trio codi mwy o arian trwy noddwyr.
“Ond ni hefyd wedi gorfod cynyddu pris y tocyn er mwyn talu’r costau hyn.”
Edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf
Er hynny, mae’r criw o chwech o ferched sy’n trefnu nawr am fynd ati i gynllunio at y flwyddyn nesaf, ac at ddigwyddiadau llai fel Tregaroc Bach.
“Mae’r dyfodol yn edrych yn bositif iawn,” meddai Mared Jones.
“Ni’n ddiolchgar iawn i’r unigolion lleol a’r cwmnïau sy’n ein cefnogi a’r bobol sy’n fodlon gwirfoddoli i helpu.
“Ni’n rili edrych ymlaen nawr i weld pawb yn yr Eisteddfod, ond falle wnawn ni ryw ddigwyddiad bach hefyd fel Tregaroc Bach ac wedyn mynd ati i drefnu Tregaroc 2023.
“Ni wedi cael adborth da iawn gan y perfformwyr ac mae lot ohonyn nhw eisiau dod yn ôl.”