Roedd dros 8,000 o bobol yng Ngŵyl Fach y Fro yn Ynys y Barri ddydd Sadwrn (Mai 21), yn ôl Menter Bro Morgannwg, fu’n trefnu’r digwyddiad.

Lily Beau
Lily Beau yng Ngŵyl Fach y Fro

Dychwelodd yr ŵyl i’r dref eleni ar ôl dwy flynedd yn ddigidol.

Ymhlith yr artistiaid ar y prif lwyfan eleni roedd Bwncath, Morgan Elwy, Lily Beau, Huw Chiswell a Hanna Lili, gyda MR – cyfuniad o aelodau’r Cyrff a Catatonia – yn cloi’r diwrnod ar lan y môr.

Ar ail lwyfan roedd holl ysgolion Cymraeg Bro Morgannwg, ac ambell ysgol Saesneg yn canu yn Gymraeg.

Roedd Menter Bro Morgannwg yn falch o weld bod yr ŵyl yn ei lleoliad newydd wedi llwyddo i ddenu record o dorf.

“Mae Gŵyl Fach y Fro yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn i Fenter Bro Morgannwg ac yn gyfle i ddathlu tŵf y Gymraeg yn yr ardal,” meddai Heulyn Rees, Prif Weithredwr y Fenter Iaith.

Ychwanega Manon Ifan, trefnydd yr ŵyl, ei bod hi’n “wych gweld bod dros 8,000 wedi mynychu’r ŵyl, ac roedd y lleoliad newydd gyda’r golygfeydd gwych wedi gweithio’n arbennig”.

Fe wnaethon nhw ddiolch i’w partneriaid nawdd, sef Cyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru, Arian i Bawb Loteri Gendlaethol Cymru a Chyngor Bro Morgannwg.