Robin Williams yw enillydd Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Caiff cyn-Is Ganghellor Prifysgol Abertawe ei wobrwyo “am ei gyfraniad hyd-oes i wyddoniaeth”, yn ôl yr Eisteddfod.

Bydd y Brifwyl yn cael ei chynnal yn Nhregaron eleni, rhwng Gorffennaf 30 ac Awst 6, ac fe fydd yr enillydd yn cael ei anrhydeddu mewn seremoni arbennig ar Faes yr Eisteddfod.

Mae Robin Williams yn ffisegwr ac yn awdurdod ym maes lled-ddargludyddion, ac mae ei ymchwil wedi bod yn ganolog yn natblygiad electroneg ddigidol a’r newidiadau pellgyrhaeddol ym myd cyfrifyddiaeth a chyfathrebu.

Datblygodd ddulliau newydd o astudio lled-ddargludyddion, a fe oedd un o’r rhai cyntaf i ddefnyddio ymbelydredd syncrotron i astudio wyneb soledau, a bu’n cydweithio gyda nifer o gwmnïau ar draws y byd.

Bywyd a gyrfa

Wedi’i eni ar fferm fynyddig yn Llanuwchllyn, cafodd ei addysg yn ysgol y pentref ac yn Y Bala cyn mynd i Brifysgol Bangor, lle y graddiodd mewn ffiseg.

Wedi gorffen ei Ddoethuriaeth, bu’n gweithio yn Iwerddon gyda chyfnodau yn yr Unol Daleithiau ac yn yr Almaen, cyn dychwelyd i Gymru yn Bennaeth yr Adran Ffiseg ym Mhrifysgol Caerdydd.

Roedd yn falch iawn o weld cynifer o fyfyrwyr Cymraeg yn ymuno â’r adran ac roedd bob amser yn barod i gynnig dosbarthiadau yn y Gymraeg i’r rhai oedd â diddordeb.

Wedi cyfnod yn Ddirprwy Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, cafodd ei benodi’n Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, lle’r oedd yn hynod o gefnogol i’r defnydd o’r Gymraeg ymhob agwedd o waith y Coleg.

Balchder iddo oedd goruchwylio sefydlu Ysgol Feddygol Abertawe a’r cyfle i benodi athrawon disglair, nifer ohonyn nhw â’r gallu i gynnig cyrsiau yn y Gymraeg.

Yn 2010, ar ran Llywodraeth Cymru, fe gadeiriodd y Bwrdd i roi ystyriaeth i ddysgu drwy’r Gymraeg ym Mhrifysgolion Cymru a oedd yn bwnc llosg ar y pryd.

Arweiniodd ei adroddiad at sefydlu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sydd erbyn hyn wedi trawsnewid y cyfleusterau i ddysgu yn y Gymraeg ac yn ddwyieithog ac sydd wedi bod yn llwyddiant enfawr.

Mae’n gyson wedi bod yn cynghori llywodraethau Prydain a Chymru ar agweddau o wyddoniaeth ac mae’n gyn-gadeirydd Pwyllgor Cynghori Gwyddoniaeth Cymru.

Mae’n Gymrawd gwreiddiol o Gymdeithas Ddysgedig Cymru, daeth yn Gymrawd o’r Gymdeithas Frenhinol yn 1990, a’i urddo’n Farchog yn 2019.