Nod Ballet Cymru wrth greu cynhyrchiad newydd o un o gomedïau Shakespeare oedd sicrhau ei bod hi’n berthnasol i’r byd o’u cwmpas, yn ôl cyfarwyddwr artistig cynorthwyol y cwmni.
Mae’r cwmni wedi creu byd o dylwyth teg, cariadon, a hud a lledrith, gan “chwarae o gwmpas” â rhywedd a rhywioldeb, yn eu fersiwn o A Midsummer Night’s Dream.
Bydd taith Dream yn dechrau’r wythnos nesaf, ac maen nhw wedi trio cyflwyno golwg ffres ar y ddrama, meddai Amy Doughty.
Dydy’r cynhyrchiad ddim yn cadw at sgôr gerddorol wreiddiol Mendelssohn, ac yn hytrach, Frank Moon, un o’r prif gyfansoddwyr ar gyfer dawns yn y Deyrnas Unedig, sydd wedi cyfansoddi’r sgôr.
‘Golwg ffres’
Roedd Amy Doughty a Darius James, y cyfarwyddwr artistig, yn awyddus i gyflwyno rhywbeth fyddai’n hwyl ac yn ddihangfa oddi wrth broblemau bob dydd.
“Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi gwneud straeon Giselle a Romeo a Juliet, ac maen nhw’n straeon hyfryd ond maen nhw’n drist iawn,” meddai Amy Doughty wrth golwg360.
“Roedden ni eisiau rhywbeth fyddai’n gwneud pobol yn hapusach.
“Rydyn ni wedi ei foderneiddio, rydyn ni wedi dod ag e yn ei flaen a chreu cynhyrchiad sy’n lliwgar, ffres, a gobeithio yn siarad â’r math o fyd rydyn ni’n ei weld o’n cwmpas.
“Mae ein stori ni o Dream wedi’i gosod mewn gŵyl gerddoriaeth yng Nghymru, rydyn ni wedi chwarae o gwmpas ychydig â rhywedd a rhywioldeb.
“Felly mae gennym ni berthynas lesbiaidd yn ein grŵp o gariadon. Mae’r cymeriadau a fyddai’n cael eu hadnabod yn draddodiadol fel Brenin a Brenhines y Tylwyth Teg yn gymeriadau anneuaidd – gall y rhannau hynny gael eu chwarae gan unrhyw aelod yn y cwmni ac roedden ni eisiau iddyn nhw fod yn gyfnewidiadwy.
“Mae gennym ni dylwyth teg gwrywaidd.
“Rydyn ni wedi trio cyflwyno golwg ffres arni, ac rydyn ni’n meddwl, pe bai Shakespeare yn fyw heddiw, mai dyma sut y byddai’n sgrifennu beth bynnag. Roedd o flaen ei amser.”
Croesawu pawb i’r bale
Mae Ballet Cymru’n cynnal perfformiadau hamddenol hefyd er mwyn trio annog pobol sydd ddim o reidrwydd yn arfer mynd i’r theatr yno.
“Rydyn ni eisiau deall y rhwystrau maen nhw’n eu hwynebu wrth ddod i’r theatr, boed hynny oherwydd anabledd corfforol, anghenion dysgu, plant ifanc, neu eu bod nhw heb fod mewn theatr o’r blaen,” meddai Amy Doughty wedyn.
“I ni, mae e’n ymwneud â’r cyrhaeddiad yna a chynrychiolaeth – eu bod nhw’n gweld eu hunain yn cael eu cynrychioli a’u bod nhw’n teimlo bod croeso iddyn nhw a’u bod nhw eisiau gweld ein gwaith.
“Mae gennym ni ystod anhygoel o ddawnswyr yn y cwmni, mae gennym ddawnswyr sydd wedi bod efo ni ers blynyddoedd a rhai newydd.
“Mae trio cael pobol mewn i’w cefnogi nhw yn eu gyrfaoedd yn teimlo’n bwysig iawn, mae gweithwyr llawrydd, fel y gwyddom, yn enwedig yn y celfyddydau, wedi cael eu heffeithio’n arw gan y pandemig.
“Rydyn ni’n teimlo’n eithriadol o lwcus ein bod ni wedi gallu cefnogi gweithwyr llawrydd ar y daith hon, ond mae cefnogaeth cynulleidfa yn bwysig ar gyfer hynny hefyd.
“Rydyn ni wastad yn meddwl am y gweithwyr llawrydd hynny a sut rydyn ni’n eu hannog nhw i aros yn y sector.
“Doedden nhw ddim yn cael llawer o anogaeth gan Lywodraeth [y Deyrnas Unedig], roedden nhw’n dweud ‘Ewch i ail-hyfforddi, a gweithio mewn seibr!’
“Roedden ni’n dweud wrth bobol ‘aros yn y celfyddydau, fyddan ni eu hangen nhw’. Mae’r celfyddydau yn dod â phobol drwy bethau fel pandemig, mae’n ysbrydoli pobol, ac yn eu hannog nhw i wneud mwy a bod yn ddewr.
“Fysan ni wrth ein boddau’n gweld cynulleidfaoedd yn cefnogi ein gweithwyr llawrydd ac yn dod i weld y gwaith newydd yma.”
Mae mwy o wybodaeth am daith Dream, sy’n dechrau yn Theatr Clwyd ar Mai 29, ar wefan Ballet Cymru.