Bydd Eden yn brif artistiaid un o nosweithiau Maes B am y tro cyntaf erioed yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron eleni.

Ar ôl gorfod gohirio hanner yr ŵyl yn sgil tywydd garw yn 2019, a chanslo yn 2020 a 2021 oherwydd y pandemig, mae Maes B yn ôl â thri llwyfan.

Bydd dau lwyfan ar gyfer bandiau byw ac un ar gyfer DJs gorau’r sîn, fydd yn chwarae cerddoriaeth tan oriau mân y bore.

Adwaith, sydd wedi cael llwyddiant gyda’u senglau diweddaraf ‘Eto’ a ‘Wedi Blino’, fydd yn cloi’r ŵyl ar y nos Sadwrn olaf.

Mi fydd eu halbwm nesaf, Bato Mato, allan erbyn yr Eisteddfod.

Bydd Mellt, Hyll a Stafell Fyw, a ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau llynedd, yn ymuno ag enillwyr Brwydr y Bandiau 2022 ac Adwaith ar y nos Sadwrn hefyd.

Mae’r lein-yp yn cynnwys artistiaid megis Gwilym, Sŵnami, Los Blancos, Lloyd + Dom James, Tara Bandito, Eädyth, Kim Hon, a’r Cledrau hefyd.

Gyda Maes B yn addo bod yn fwy ac yn well nag erioed, mae Guto Brychan, prif drefnydd Maes B, yn “edrych ymlaen at agor ein drysau unwaith yn rhagor i gynulleidfa hen a newydd Maes B”.

“Mae wedi bod yn amser hir ers i ni allu dod ynghyd i fwynhau rhai o artistiaid gorau Cymru, a gyda’r lein-yp eleni yn edrych i’r dyfodol – ni’n edrych ymlaen at yr arlwy.”

Mi fydd y nos Fawrth cyntaf yn barti cyn i’r gerddoriaeth byw ddechrau ar y nos Fercher, a bydd cyhoeddiad arall yn fuan ynghylch y DJs fydd yn chwarae yno, meddai Maes B.

Lein-yp

Llwyfan 1 nos Fercher: Gwilym / Sŵnami / Alffa / Hana Lili

Llwyfan 2 nos Fercher: Los Blancos / Papur Wal / Dienw

Llwyfan 1 nos Iau: Breichiau Hir / CHROMA / Kim Hon / Tiger Bay

Llwyfan 2 nos Iau: 3 Hwr Doeth / Lloyd + Dom James / skylrk

Llwyfan 1 nos Wener: Eden / Tara Bandito / Eädyth / Mali Haf

Llwyfan 2 nos Wener: Y Cledrau / Elis Derby / Cai

Llwyfan 1 nos Sadwrn: Adwaith / Mellt / Hyll / Stafell Fyw ac Enillwyr Brwydr y Bandiau 2022

Llwyfan 2 nos Sadwrn: HMS Morris / SYBS / Pys Melyn