Mae Tafwyl, Trac Cymru a’r Cyngor Prydeinig wedi dod ynghyd ar gyfer prosiect arbennig sy’n cyfuno cerddorion o Gymru a Llydaw i baratoi set arbennig i lwyfan Tafwyl eleni.

Bydd tri artist o Gymru a thri o Lydaw yn cydweithio er mwyn creu cerddoriaeth newydd.

Y partneriaid yw Gwilym Bowen Rhys a Nolwenn Korbell, Cerys Hafana a Léa, a Sam Humphreys a Krismenn, a Lleuwen Steffan fydd yn hwyluso’r prosiect, a hithau’n dod o Gymru ond yn byw yn Llydaw.

Bwriad y prosiect, sy’n cael ei ariannu gan Gyngor Prydeinig Cymru, yw rhoi’r cyfle i’r artistiaid allu gweithio gydag artist o wlad wahanol sydd yn gweithio trwy gyfrwng iaith leafrifol.

Mae’r artistiaid eisoes wedi cychwyn arni trwy gydweithio ar y we, ac fe fyddan nhw’n treulio tridiau cyn Tafwyl gyda’i gilydd yn stiwdio Musicbox yng Nghaerdydd, cyn perfformio yn fyw gyda’i gilydd ar lwyfan Y Sgubor yn Tafwyl (Mehefin 18 ac 19).

Yr artistiaid

  • Gwilym Bowen Rhys x Nolwenn Korbell

Cerddor o Fethel yn Arfon yw Gwilym Bowen Rhys.

Mae wedi bod yn hogi ei grefft ar lwyfannau ers ei arddegau a bellach mae’n un o gantorion gwerin amlycaf Cymru.

Mae ei gerddoriaeth yn gymysgedd o’r hen a’r newydd, yn arbrofi gyda hen eiriau ac alawon ac yn eu cymysgu gyda’i gerddoriaeth ffres ac egnïol ei hun.

Fe enillodd y wobr am yr ‘artist unigol gorau’ yng Ngwobrau Gwerin Cymru yn 2019 ac mae wedi perfformio ei gerddoriaeth dros y byd.

Bydd yn cydweithio gyda’r gantores ac actores Llydaweg-Ffrengig, Nolwenn Korbell, sy’n enwog am ei chaneuon Llydaweg, gyda’i cherddorion hi neu fel rhan o ddeuawd gyda’r gitarydd Soïg Sibéri.

Mae hi wedi rhyddhau pump albwm ac yn gyson yn perfformio mewn cyngherddau, ac yn parhau i actio mewn cynhyrchiadau theatr a ffilm.

  • Cerys Hafana x Léa

Mae Cerys Hafana yn gerddor dawnus aml-offerynol o Fachynlleth.

Mae’n arbenigo yn y delyn deires a’r piano, ond gyda’r gallu i chwarae y delyn celtaidd, clarinet a’r ffidil.

Mae wedi teithio’n genedlaethol ac yn rhyngwladol yn canu’r delyn deires, gan gynnwys yr Ynysoedd Aran ac i’r Ŵyl Interceltic yn Lorient.

Bydd Cerys yn cydweithio gyda Léa, sy’n astudio canu yn y Conservatoire de Lille, a chyn hynny wedi cael ei haddysg yn llwyr drwy gyfrwng y Llydaweg trwy rhwydwaith yr ysgolion Diwan yn Llydaw.

Mae’n gantores ac yn gyfansoddwraig sydd wedi ei hysbrydoli gan chwedlau, ac wedi cael ei dylanwadu gan Bob Dylan, Joan Baez a Lhasa.

  • Sam Humphreys x Krismenn

Cerddor o Ben-llyn yng Ngogledd Cymru yw Sam Humphreys.

Mae wedi ei ysbrydoli gan sawl genre o gerddoriaeth gwahanol, gyda’i gefndir mewn cerddoriaeth roc, cerddoriaeth electrig a cherddoriaeth gwerin wedi ei blethu gyda cherddoriaeth modern.

Mae’n aelod o Calan, Pendevig, NoGood Boyo ac yn gweithredu o dan yr enw ‘Shamonix’.

Yn ychwanegol i hyn, mae wedi recordio, cynhyrchu a chymysgu cerddoriaeth i lwyth o artistiaid, ac wedi cyfansoddi ar gyfer ffilmiau a theledu.

Bydd yn cydweithio gyda Krismenn, sydd yn artist rap, yn ganwr, sgwenwr ac yn gerddor drwy gyfrwng y Llydaweg a Ffrangeg.

Fe greodd y genre ‘kan ha beatbox’, cyfuniad o’r traddodiad cerddorol kan ha diskan gyda bît-bocsio.

Mae’n angerddol am rap, beatbox a’r Llydaweg, ac yn adnabyddus am gyfuno’r elfennau hyn gyda cherddoriaeth bluegrass, urban ac electronig.

Fis Rhagfyr y llynedd, cafodd Krismenn ei benodi’n Gyfarwyddwr Artistig ‘Kreiz Breizh Akademi’, rhaglen hyfforddi i gerddorion proffesiynnol yn Llydaw.

‘Annog cydweithio rhyngwladol yn un o amcanion ehangach Tafwyl’

“Rydym wrth ein bodd i gyhoeddi’r prosiect arbennig yma heddiw,” meddai Caryl McQuilling, prif swyddog Tafwyl.

“Mae wedi bod yn dipyn o waith trefnu tu ôl i’r llenni i ddod â’r cyfan at ei gilydd, ac fe fydd gweld ffrwyth llafur yr artistiaid gwych yma yn ystod penwythnos Tafwyl yn foment bythgofiadwy dw i’n siŵr.

“Mae annog cydweithio rhyngwladol a rhoi’r cyfle i’r artistiaid weithio gyda phobol wahanol a chreu cysylltiadau yn un o’r amcanion ehangach Tafwyl ac mae’n wych gweld hyn yn cael ei wireddu.”

Mae Natasha Nicholls o Gyngor Prydeinig Cymru wedi croesawu’r prosiect.

“Ers mis Mawrth 2020, rydym wedi bod yn cefnogi artistiaid a sefydliadau celfyddydol i archwilio ffyrdd newydd o gydweithio’n ddigidol ac mae’r prosiect hwn yn rhan o’n rhaglen i ddatblygu cysylltiadau newydd rhwng artistiaid a gwyliau yn Ffrainc a Chymru, gan alluogi cerddorion yn y ddwy wlad i gydweithio a chreu gwaith,” meddai.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld canlyniadau’r deuawdau cerddorol hyn yn fyw yn Tafwyl ym mis Mehefin.”

‘Perthynas gynnes iawn’

“Yn bersonol, rwyf wedi bod mor lwcus i gael gyrfa a pherthynas gynnes iawn gyda’r gwyliau yng Nghymru a Breizh ac yn awr, fel Cyfarwyddydd Trac Cymru, ein mudiad cenedlaethol ar gyfer ein traddodiadau cynhenid, rwyf mor falch i gyd-weithio ar y prosiect hwn i fod yn sbardun i genhedlaeth newydd o gydweithrediadau a thrafodaethau diwylliannol,” meddai Danny KilBride, Cyfarwyddwr Trac Cymru.

“Ry’n ni wedi dod o hyd i chwe artist all gryfhau y cyswllt hwn ac rydyn ni mor hapus i ddod â nhw i Tafwyl eleni – yn arbennig ar ôl anialwch digidol gofid Covid.

“Ond er gwaetha’r ddwy flynedd o ynysu, fe ddysgon ni ffyrdd eraill o gydweithio, gyd-ganu a chyd chwarae.

“Mae Trac Cymru wedi bod yn gweithio gyda Menter Caerdydd a’r Cyngor Prydeinig i ddod â’r gerddoriaeth gynhenid draddodiadol ein gwlad fach ni i gynulleidfaoedd hen a newydd ac mae’r prosiect hwn yn profi pa mor gryf ydyn ni wrth inni weithio gyda’n gilydd.”

Mae Lleuwen Steffan hithau hefyd yn falch o gael “hwyluso’r prosiect hwn i Tafwyl gan greu cysylltiadau newydd rhwng y ddwy wlad a’u diwylliannau”, meddai.

“Edrychaf ymlaen at groesawu cerddorion o Gymry i Lydaw ar gyfer Gouel Broadel ar Brezhoneg yn 2023.”