Sylfaenwyr ac arweinyddion Adran Aberystwyth fydd yn derbyn Tlws John a Ceridwen Hughes Uwchaled yn Eisteddfod yr Urdd eleni.

Caiff y tlws ei gyflwyno’n flynyddol yn ystod wythnos yr eisteddfod, fel gwobr am gyfraniad sylweddol i fywyd ieuenctid Cymru.

Mae Helen Medi Williams yn athrawes yn Ysgol Rhydypennau, Bow Street, a nyrs yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth yw Lona Phillips.

Yn ogystal â hyfforddi a chynorthwyo Aelwyd Aberystwyth, roedd y ddwy yn flaenllaw yn y gwaith o’i sefydlu yn 2009 er mwyn sicrhau cyfle i blant y dref a’r cyffiniau gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd Ceredigion yn 2010 a chymdeithasu drwy’r Gymraeg.

‘Cwbl deilwng’

Adran ar gyfer plant cynradd oedd hi’n wreiddiol, ond aeth o nerth i nerth ac ers 2013 mae ganddi adran uwchradd hefyd.

“Roeddwn yn un o’r aelodau cyntaf yn 2009, a bues i’n cystadlu bob blwyddyn hyd at Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro 2019,” meddai Siwan Fflur Davies, cyn-aelod o’r Aelwyd.

“Mae gennyf lawer o atgofion melys ac rwy’n ddiolchgar iawn i Adran Aberystwyth, ac i Helen a Lona yn arbennig, am bob cyfle.”

Mae llefarydd ar ran aelodau a rhieni Aelwyd Aberystwyth wedi eu canmol.

“Mae ymroddiad Helen a Lona a’u brwdfrydedd wrth gyfrannu’n gwbl wirfoddol at ddatblygiad a phrofiadau pobl ifanc Aberystwyth a’r cyffiniau yn eu gwneud yn gwbl deilwng o Dlws John a Ceridwen Hughes,” meddai.

‘Cynnig cyfleoedd amhrisiadwy’

“Mae Helen a Lona wedi cynnig cyfleoedd amhrisiadwy i blant a phobl ifanc Aberystwyth ers degawd a mwy bellach, ac mae hi’n fraint a phleser eu hanrhydeddu yn yr Eisteddfod eleni,” meddai Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau, wrth longyfarch y ddwy.

“Mae’r Urdd yn ddibynnol ar bobol weithgar, cydwybodol fel hyn i’w gynnal a’i hyrwyddo a dangos pa mor werthfawr, a gymaint o hwyl, ydi bod yn aelod o’r mudiad.”

Cafodd Helen a Lona wybod eu bod nhw wedi ennill y wobr yn ystod un o ymarferion yr aelwyd, ac roedd y cyflwynydd Heledd Cynwal yno i roi syrpreis iddyn nhw a rhoi gwybod eu bod nhw wedi ennill.

Caiff y tlws ei roi gan Dewi a Gerallt Hughes, er cof am eu rhieni, a oedd yn weithgar iawn ym maes ieuenctid.

Bydd seremoni arbennig i gyflwyno’r tlws ar Lwyfan y Cyfrwy ar ddydd Iau, Mehefin 2, ar faes yr Eisteddfod yn Ninbych.