Mae S4C wedi sicrhau hawliau ecsgliwsif i ddarlledu gemau tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru am ddim ar deledu cyhoeddus tan 2024.

Ar ôl sicrhau cytundeb darlledu gyda UEFA, bydd cefnogwyr pêl-droed Cymru yn gallu gwylio ymgyrch nesaf Cynghrair y Cenhedloedd UEFA ac ymgyrch rhagbrofol UEFA Ewro 2024, yn fyw ar Sgorio Rhyngwladol.

Bydd y cytundeb yn cynnwys gemau Cymru dros y ddwy flynedd nesaf, gan gychwyn gyda’r gêm oddi cartref yn erbyn Gwlad Pwyl yng Nghynghrair y Cenhedloedd UEFA.

Bydd yr holl gemau yn cael eu dangos yn Gymraeg ar S4C.

‘Cyfnod hynod o gyffrous’

“Yn amlwg, ry’n ni wrth ein boddau fod Sgorio yn mynd i barhau i ddilyn y tîm cenedlaethol dros y ddwy flynedd nesaf, gan ddod â holl angerdd y Wal Goch i ystafelloedd byw, clwbiau pêl-droed a thafarndai’r genedl,” meddai’r cyflwynydd Dylan Ebenezer.

“Mae hwn yn gyfnod hynod o gyffrous i fod yn gefnogwr Cymru.

“Mae gennym garfan ifanc a thalentog yn cael eu harwain gan arwyr fel Gareth Bale ac Aaron Ramsey, ac mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair dros ben.

“Allwn ni ddim disgwyl i ddilyn anturiaethau’r tîm unwaith eto.”

“Newyddion ffantastig” i bêl-droed a’r Gymraeg

“Rydyn ni’n hynod o falch mai S4C fydd cartref ecsgliwsif i gemau tîm pêl-droed dynion Cymru ar deledu cyhoeddus,” meddai Siân Doyle, prif weithredwr S4C.

“Mae hyn wir yn newyddion ffantastig i bêl-droed yng Nghymru ac i’r iaith Gymraeg.

“Rydyn ni yng nghanol cyfnod euraidd i’n tîm cenedlaethol ac mae’n hanfodol ar gyfer tyfiant a datblygiad y gamp bod cefnogwyr yn gallu parhau i fwynhau gemau’r tîm am ddim ar deledu cyhoeddus.”

Yn dilyn gêm Gwlad Pwyl v Cymru ar nos Fercher, Mehefin 1, yng Nghynghrair y Cenhedloedd UEFA, bydd S4C yn dychwelyd i Stadiwm Dinas Caerdydd ar gyfer gêm Cymru yn Rownd Terfynol Gemau Ail-gyfle Rhagbrofol Ewrop i gyrraedd Cwpan y Byd FIFA.

Bydd Cymru yn chwarae dwy gêm gartref o’r fron yng Nghynghrair y Cenhedloedd UEFA, yn erbyn yr Iseldiroedd ar nos Fercher, Mehefin 8, a Gwlad Belg ar nos Sadwrn, Mehefin 11.

Bydd pythefnos prysur o bêl-droed yn dod i ben gyda gêm oddi cartref yn erbyn Yr Iseldiroedd ar nos Fawrth, Mehefin 14.