Mae menter fferm laeth yn y gogledd wedi lasio potel laeth wydr arbennig i ddathlu canmlwyddiant yr Urdd.

Mae poteli Llaethdy Llwyn Banc yn Llanrhaeadr ger Dinbych wedi cael eu brandio’n arbennig i ddathlu ymweliad yr Eisteddfod â’r ardal, ac yn cynnwys logo’r Urdd a chyfeiriad at y canmlwyddiant.

Bydd llaeth Llwyn Banc, menter a gafodd ei lansio gan Rhys Hughes y llynedd er mwyn gwerthu llaeth ar fferm y teulu, ar werth ar faes yr eisteddfod hefyd.

Gan ddefnyddio llaeth o fuches 120 o wartheg Holstein Friesian y fferm, mae’r cwmni’n gwerthu llaeth â chwe gwahanol flas.

Mae’r blasau’n cynnwys mefus a leim sydd, ynghyd â’r llaeth gwreiddiol, yn ffurfio lliwiau coch, gwyn a gwyrdd yr Urdd.

Mae eu peiriant gwerthu llaeth wedi’i osod ar yr A525 rhwng Rhuthun a Dinbych, ac maen nhw’n gwerthu cynnyrch lleol, gan gynnwys wyau, pasteiod, cacennau a chreision, yno hefyd.

£2 fydd y gost gychwynnol am y botel arbennig, gyda llaeth yn costio £1.20 y litr a llaeth â blas arno’n £2 y litr.

Angerdd am yr ardal

Cafodd Rhys Hughes gymorth gan Cywain, sy’n gweithio gyda chynhyrchwyr i hwyluso datblygiad, twf ac ymwybyddiaeth o fwyd a diod yng Nghymru, er mwyn marchnata ei fusnes.

“Rwy’n angerddol am fy musnes a’m hardal leol, ac rwy’n gyffrous i lansio’r poteli cyfyngedig hyn i nodi Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2022,” meddai’r ffermwr sy’n cydweithio â’i rieni Wyn a Nia.

“Mae cymorth Cywain wedi golygu fy mod wedi gallu datblygu fy syniad a gobeithio rhoi blas go iawn Sir Ddinbych i’r rhai sy’n mynd i’r Eisteddfod!”

“Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Rhys i ddatblygu ei syniad a’i weld yn dwyn ffrwyth,” meddai Charlotte Holliday, Rheolwr Datblygu Cywain.

“Mae’n ffermwr ifanc gydag uchelgais, ac rwy’n falch bod Cywain wedi gallu ei gynorthwyo.”

‘Brwdfrydedd cwmnïau lleol’

Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal ar Fferm Kilford ar gyrion tref Dinbych rhwng Mai 30 a Mehefin 4, a dywed Cyfarwyddwyr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau fod cefnogaeth cymunedau a gwirfoddolwyr lleol wedi bod yn wych.

“Mae hi’n braf gweld brwdfrydedd cwmnïau lleol am yr ŵyl hefyd,” meddai Siân Eirian.

“Edrychwn ymlaen at weld (a mwynhau!) poteli llefrith arbennig Llaethdy Llwyn Banc ar faes yr Eisteddfod, a dymunwn bob llwyddiant iddynt gyda’r fenter.

“Rydym yn sicr y bydd hon yn Eisteddfod i’w chofio i bawb.”