Mae wyth o artistiaid wedi cael eu dewis i archwilio effaith newid hinsawdd drwy ddefnyddio celf.
Drwy Gymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol, bydd yr artistiaid yn archwilio effaith newid hinsawdd ar fywydau bob dydd pobol Cymru, gan ganolbwyntio ar ynni, bwyd a thrafnidiaeth.
Nod y gwaith yw herio’r ffordd mae pobol yn meddwl am newid hinsawdd ac annog ffyrdd mwy cynaliadwy o fyw.
Mae’r artistiaid yn cynnwys Kathryn Ashill, Angela Davies, Kirsti Davies, Dylan Huw, Durre Maghal, Heledd Wyn, Fern Thomas a Rhys Slade-Jones.
Fe wnaeth yr wyth artist sy’n rhan o’r Gymrodoriaeth, sy’n bartneriaeth rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru, gyfarfod am y tro cyntaf mewn cwrs gan y Ganolfan Dechnoleg Amgen ger Machynlleth yn ddiweddar.
Yno, fe wnaethon nhw glywed gan rai o arbenigwyr y maes materion amgylcheddol ac arferion cynaliadwy.
‘Effaith gadarnhaol’
Wrth weithio mewn ymateb i Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol Llywodraeth Cymru, mae hi’n “hollbwysig” bod artistiaid a dynoliaeth yn ymateb yn gyflym i’r argyfwng hinsawdd, yn ôl Heledd Wyn, sy’n ddarlithydd mewn Cynhyrchu Cyfryngau ym Mhrifysgol De Cymru.
“Mae bwyd yn elfennol i oroesiad dyn, yn enwedig wrth i ni wynebu’r argyfwng hinsawdd,” meddai.
“Mae’n gyfle i gael effaith gadarnhaol ar yr hyn yr ydym yn ei fwyta a sut yr ydym yn ei fwyta er mwyn lleihau allyriadau carbon, a byw mewn amgylchedd cynaliadwy.
“Mae Cymru yn wlad flaengar ac ar flaen y gad o ran syniadau ar newid hinsawdd. Mae Machynlleth yn dref ag atebion gwirioneddol o ran byw yn y gymuned.
“Bydd fy ngwaith yn canolbwyntio ar yr ardal a chynhyrchu bwyd yn lleol, yn benodol y cnwd cywarch sydd â llawer o ffynonellau i’w cynnig, gan gynnwys lleihau carbon deuocsid.
“Fy nod yw rhoi gobaith i genedlaethau’r dyfodol; ysgogi newid i bolisi amaethyddiaeth er mwyn parchu ffermwyr a’r tir rydym yn byw ynddo; a chreu ffilmiau ysbrydoledig sy’n swyno’r gymuned ac yn eu hysgogi i ystyried eu defnydd.”
‘Angerdd, ymrwymiad a dealltwriaeth’
“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi dewis wyth artist rhagorol yn Gymrodyr Cymru’r Dyfodol a fydd yn ysbrydoli dulliau newydd o ymdrin â materion yn ymwneud â chynaliadwyedd, llesiant, yr Argyfwng Hinsawdd a Chyfiawnder Hinsawdd, ac ymgysylltu â phrofiadau byw pobl yng Nghymru a thu hwnt,” meddai Judith Musker Turner, Rheolwr Portffolio Cyngor Celfyddydau Cymru.
“Cawsom ein syfrdanu gan yr angerdd, ymrwymiad a dealltwriaeth ddofn o faterion yn ymwneud â’r Argyfwng Hinsawdd a ddangoswyd gan y nifer aruthrol o artistiaid a ymgeisiodd am Gymrodoriaethau Cymru’r Dyfodol a byddwn yn ceisio tynnu ymhellach ar y cyfoeth hwn o arbenigedd wrth i Gyngor Celfyddydau Cymru weithio i ddatblygu ein cynllun ein hunain ar gyfer Cyfiawnder Hinsawdd a’r Celfyddydau.”